Arwel ap Dewi ap Siôn
Croeso cynnes i ti i Wicipedia - a llongyfs am sgwennu erthygl dda; dw i wedi newid un neu ddau o bethau bach, fel y gweli di yn fama Dal i fynd! Oes na chwaneg o draethau diddorol ym Môn? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:18, 6 Ebrill 2012 (UTC)
- Dim yn siwr sut mae mynd o gwmpas ateb, felly wedi ceisio golygu y sgwrs... oes na ffordd haws i wneud hyn?
- Diolch am wneud y mân newidiadau. Dal i ddysgu sut i ddefnyddio Wici! Oes mae sawl traeth diddorol ochrau yma i'r ynys, mi driai sgrifennu am rhai ohonnynt. Arwel ap Dewi ap Siôn
- Croeso i'r Wicipedia, a diolch o galon am fwrw iddi gyda'r fath brysurdeb! O ran ymateb i/cyfranu at sgwrs, drwy osod ':' o flaen dy gyfraniad, mae'n ei fewnosod ychydig er mwyn gwahaniaethu rhwng cyfraniadau pawb (wedyn bydd y cyfranwr nesaf, yn rhoi '::' fel bydd ei gyfraniad o/hi wed ei fewnosod ymhellach. Hefyd, ar ddiweddd dy gyfraniad i sgwrs, os rhoi di '~~~~' yna bydd dy enw (fel dolen at dy dudalen proffeil) ac amser yn ymddangos. --Ben Bore (sgwrs) 09:38, 11 Ebrill 2012 (UTC)
Traethau Môn golygu
Paid a phoeni am gangymeriadau - dydyn nhw ddim yn bod! Mi ddaw rhywun heibio i'w cywiro. Daw rhywun am sgowt i gywiro fy iaith inna hefyd mewn chwap!!! Wedi i ti greu un neu ddau arall mi wna i ddechrau rhestr Rhestr Traethau Môn er mwyn eu casglu i gyd efo'i gilydd. Ymlaen, i'r gad!! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:40, 6 Ebrill 2012 (UTC)
Wedi sgrifennu erthygl am draeth Lligwy... mae sawl stori a hanes am draethau'r ynys. --Arwel ap Dewi ap Siôn (sgwrs) 08:02, 6 Ebrill 2012 (UTC)
Bril! Roll em up! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:05, 6 Ebrill 2012 (UTC)
Mae Bae Lligwy a Bae Dulas yn ddau wahanol fae... mae Bae Dulas yn cynnwys: Traeth Dulas, Traeth yr Ora a Thraeth Bach. Nid Bae Lligwy yw hon, Traeth Lligwy yw traeth sy'n rhan o Fae Lligwy. Rwyf wedi edrych ar fap arolwg ordans yr ardal. Efallai syniad creu tudalen arall ar gyfer Bae Lligwy a chadw'r dudalen a greuais i yn Fae Dulas. Cofion, Arwel
Ty'n y Gongl golygu
Haia eto. Mae mewnforio holl Nodynnau o Wiki-en yn llafurus a boring; mi wnes ti'n wych efo Ty'n y Gongl; ond roedd Templates y Nodyn wedi'u mewnforio'n barod. Cadwa at lefydd a mi fyddi di'n iawn. Y rhan anoddaf un o Wici ydy'r Nodynnau yma. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:00, 6 Ebrill 2012 (UTC)
Diolch. Mae Bae Lligwy a Bae Dulas yn ddau wahanol fae... mae Bae Dulas yn cynnwys: Traeth Dulas, Traeth yr Ora a Thraeth Bach. Nid Bae Lligwy yw hon. Traeth Lligwy yw traeth sy'n rhan o Fae Lligwy. Rwyf wedi edrych ar fap arolwg ordans yr ardal. Efallai syniad creu tudalen arall ar gyfer Bae Lligwy a chadw'r dudalen a greuais i yn Fae Dulas. Be ti feddwl?
Haia. Bydd angen newid y frawddeg gyntaf felly: i gyd-fynd efo'r teitl. Ar hyn o bryd mae nhw'n wahanol. Fe ddaw! Dyfal donc... Hwyl! Llywelyn2000 (sgwrs) 19:58, 6 Ebrill 2012 (UTC)
Whaw! Ti'n ddysgwr cyflym! Defnyddio'r Nodyn (Template) ydy'r peth anodda yn Wici! Ti wedi'i feistroli mewn diwrnod! Mae dy erthygl Rhedynen Fair yn wych: be fasa'n ei godi i dir uwch ydy rhoi cyfeiriadau (references) i'r wybodaeth. Mae hyn yn hawdd fel baw. drwy ddefnyddio'r cromfachau ref. Unrhyw broblem - hola fi neu rywun arall sut i'w wneud - ar fy nhudalen sgwrs. Awe! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:51, 7 Ebrill 2012 (UTC)
Pabi Cymreig golygu
Diolch am addasu'r erthygl Popi Cymreig drwy roi cyfeiriadau; fedri di ychwanegu enw'r cyhoeddwr hefyd os gweli di'n dda, a'r dyddiad cyhoeddi. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:41, 7 Ebrill 2012 (UTC)
Canclwm Japan golygu
Canclwm Japan: bydd angen y gyfeiriadaeth lawn yn fama, Arwel. Rwyt ti wedi rhoi:
- Asiantaeth yr Amgylchedd - gwefan bywyd gwyllt
fel cyfeiriad. Fedri di gopio a phastio mewn cromfachau refs e.e.: <ref>{{Dyf gwe |url= |teitl= |awdur= |dyddiad= |gwaith= |cyhoeddwr= |dyddiadcyrchiad=29 Chwefror 2012 |iaith=}}</ref> Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:49, 7 Ebrill 2012 (UTC)
Siân Slei Bach golygu
Erthyglau fel hyn sy'n gwneud Wici yn gartrefol, unigryw ac yn werth gweithio arni! Bendigedig! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:10, 9 Ebrill 2012 (UTC)
- Diolch; mae ambell erthygl arall hefyd angen y wybodaeth yma e.e. Canclwm Japan.
Mytholeg Gymreig golygu
Bore da. Dw i wedi rhoi 'angen ffynhonnell' wrth dy ychwanegiad di. Mae angen gwneud hyn gyda PHOB ffaith da ni'n ei ychwanegu at Wici, os gweli di'n dda. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:16, 10 Ebrill 2012 (UTC)
Does gennai'm ffynhonell, ond wedi darllen y gerdd yma mae'n amlwg for Cad Goddeu yn chwedl sy'n gysylltedig a'r Pedair Cainc. Wedi gwared a'r teitl, ac am wneud rhagor o ymchwilio i'r chwedl yma. Arwel (sgwrs) 17:32, 10 Ebrill 2012 (UTC)
Trefn erthyglau golygu
Bore da, Arwel. S'mai? Wrth ichi ysgrifennu erthyglau, allwch wneud yn siŵr eich bod yn ychwanegu categorïau a'r cysylltiadau ieithoedd eraill, plîs? Maent yn angenrheidiol a dweud y gwir. Diolch. -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 01:55, 11 Ebrill 2012 (UTC)
Gwnaf Arwel (sgwrs) 02:10, 11 Ebrill 2012 (UTC)
Cyfeiriadaeth golygu
Gair arall am Ffynhonnell ydy Cyfeiriadaeth. Mae'n rhaid i bob erthygl ar Wici gael 2 gyfeiriad; hy dau gyfeiriad at yr erthygl o wefan neu lyfr y tu al;lan i Wicipedia. Cyn bo hir, mi fyddaf yn dechrau dileu'r erthyglau sydd heb ffynonellau, yn unol â Pholisiau traws Wici. Darllen hwn, er enghraifft. Mae Glen yn iawn (uchod) fod angen Categoriau. Y fordd hawsaf i wneud hyn ydy drwy fynd i erthygl debyg a chopio a phastio ac addasu nhw. Dyna beth wnes i efo dy erthygl Penrhoslligwy, sef agor ffenest arall a theipio "Benllech", sgrolio lawr i'r Categoriau.... a'u bachu!
Cyn cychwyn rhagor o erthyglau, wnei di fynd drwy bopeth rwyt ti wedi'i greu hyd yma, os gweli di'n dda, gan eu cywiro a'u gwella. Rwyt ti wedi llamu ymlaen yn ystod y dyddiau diwethaf ac wedi gwneud cyfraniad gwych iawn. Ond cofia: mae safon yn bwysicach na swmp! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:08, 11 Ebrill 2012 (UTC)
ON Mi wnes i sôn am hyn dan y pennawd Canclwm Japan uchod. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:09, 11 Ebrill 2012 (UTC)
- Wow a dyna ddweud wrthaf! Diolch am y gwybodaeth, mi driai gadw at y polisiau os byddaf yn sgrifennu eto. Arwel (sgwrs) 06:40, 11 Ebrill 2012 (UTC)