Shwmae, Ceris~cywiki! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd. Message in English | Message en français
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma.
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 280,416 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg.
Y Caffi
Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
Cymorth
Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia.
Porth y Gymuned
Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth
sydd angen gwneud yma.
Golygu ac Arddull
Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau.
Hawlfraint
Y rheolau hawlfraint yma.
Cymorth iaith
Cymorth gyda'r iaith Gymraeg.
Polisïau a Chanllawiau
Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned.
Cwestiynau Cyffredin
Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr.
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio
Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial,
a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio.
Y Pum Colofn
Egwyddorion sylfaenol y prosiect.

Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".

Ar ddiwedd y neges mewn tudalennau sgwrs (fel yr un yma), gadewch ~~~~, a bydd y cod yma yn gadael stamp eich enw ac amser gadael y neges. Os ydych am gael cymorth gan weinyddwyr, rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar eich tudalen sgwrs.

Fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma,
Y Wicipedia Cymraeg


Cofion cynnes, --Ben Bore (sgwrs) 10:37, 28 Chwefror 2013 (UTC)Ateb

Cymdeithas Cymru-Ariannin golygu

Diolch am dy gyfraniad cyntaf. Fe sylwi fy mod weid ei addasu ychydig a symyd y cynnwys o gwmpas mymryn er mwyn cyd fynd ag arddull erthyglau eraill. Dw i wedi hebgor rhai pethau, e.e.

  • "yn ddiweddar" - mae gosodiad fel hyn yn amwys ac ymhen amser, ni fydd 'yn ddiweddar'!
  • "ac mae'r gwaith sydd i'w wneud [[...]] yn fawr." - i geisio bod yn ddiduedd, dan ni'n osgoi pethau fel hyn gan ei fod yn fater o farn
  • ".. bu Ariannin a Chymru ar eu hennill o'r cyswllt hwn." - eto, mater o farn
  • "Ein gobaith -wrth i ni nesau at 2015..." - dylid sgwennu o safbwynt niwtral

Sori os ydy hyn yn swnio'n bedantig, ond gan dy fod yn newydd yma, ro'n i eisiau osbonio fy hun.

Gyda allaw, fi (ben Bore) ydy'r Rhys y buoch yn cyfnewid ebyst gyda y llynedd pan drefnwyd y Golygathon. Ers hynny, dw i wedi creu WiciBroseict Y Wladfa, rhyw fath o fwrdd gwaith i sbarduno erthyglau am y Wladfa. Does dim llawer wedi ddo ohono eto, heblaw i wr (di-Gymraeg) o Drelwe ddod ar draws yr dudalen (rhywsut!) ac mae wedi creu sawl erthygl ar y Wikipedia Sbaeneg am y Wladfa. --Ben Bore (sgwrs) 10:37, 28 Chwefror 2013 (UTC)Ateb

Bach o tips golygu

Mae'n cymryd sbel i ddallt y cyfan. Dyma tip neu ddau
I roi dolen at wefan:
Teipia [http://www.cymru-ariannin.com/cy/index.php Gwefan y Gymdeithas] (gyda bwlch rhwng y cyfeiriad a'r enw) a bydd yn ymddangos fel
Gwefan y Gymdeithas

I roi pwynt bwled o'i flaen, teipia *Pwynt 1 a bydd yn ymddanogs fel

  • Pwynt 1

I roi Is-bennawd teipia ==Dolenni mewnol== a bydd yn ymddanogs fel

Dolenni mewnol golygu

I roi dolen at erthygl arall o fewn y wici, mae [[Trelew]] yn creu dolen at erthygl o'r enw Trelew.
Pan mae angen treiglo, neu rhoi dolen at erthygl sydd ag enw gwahanol i gynnwys dy erthygl, dan ni'n ei wneud fel hyn: Roedd yn byw yn [[Trelew|Nhrelew]]., sy'n ymddangos fel Roedd yn byw yn Nhrelew.

Holi cwestiwn golygu

Mae croeso i ti ofyn unrhyw gwestiwn unai ar fy nhudalen sgwrs, (gan wasgu 'Golygu' a teipio neges newydd ar y gwaelod) neu gofyna gwestiwn yn Y Caffi, yn y ddewislen chwith yn yr un modd.--Ben Bore (sgwrs) 12:55, 28 Chwefror 2013 (UTC)Ateb

Bydd eich cyfri'n cael ei ailenwi golygu

22:30, 17 Mawrth 2015 (UTC)

Renamed golygu

03:21, 19 Ebrill 2015 (UTC)