Croeso Huw! Diolch am y cyfraniadau. Tybed a fedrych chi roi dyddiadau geni a marwolaeth pobl, os dy'r wybodaeth gennych chi (e.e. 'Roedd X (1500 - 2001) yn gemegydd.' (hirhoedlog!))? Oes oes gennych unrhyw gwestiynau rhowch nodyn ar fy nhudalen sgwrs ac mi geisiaf fod o gymorth. Hwyl, Fôn Anatiomaros 22:25, 3 Mehefin 2007 (UTC)Ateb

Byddaf yn siwr o wneud.

Wnes i edrych ar y dudalen sy'n nodi yr holl erthyglau a ddylai bodoli ym mhob iaith, felly dwi di mynd ati i ysgrifennu o leiaf un brawddeg ar ychydig ohonynt, gan nodi na eginyn ydynt.

Y rhai dwi di creu, yr wyf wedi eu rhoi o dan 'gwylio'. Felly byddaf yn mynd yn ôl atynt yn fuan iawn.

Hwyl

Dim problem o gwbl. Cofiwch roi o leiaf un categori os posibl - mae'n help i bawb arall cadw trac ar bethau (dim yn achos dy gyfraniadau di yn unig, ond yn gyffredinol). Hwyl, Anatiomaros (digwydd cael cipolwg olaf - heb logio i mewn - cyn ei throi hi am y nos!) 88.111.171.236 00:10, 7 Mehefin 2007 (UTC) ON Da ni'n defnyddio 'Eginyn' yn lle 'Stwbyn' erbyn hyn (mae'r hen nodyn yn dal i weithio ond da ni'n ceisio newid nhw wrth fynd ymlaen).Ateb

Y Cawr o'r Waun Ddyfal!

Hafaliaid golygu

Dwi ddim yn siwr be oedd gennych mewn golwg gyda "ffeiliau lluniau" ar gyfer hafaliaid etc, ond mae creu sgript mathemategol ar gyfer hafaliaid ac ati yn reit syml, fel hyn -

 

(agor y dudalen hon i weld sut i wneud o).

Efallai buasai'n syniad gofyn i Tigershrike, sy'n dda efo'r pethau technegol ar y wici. Anatiomaros 18:21, 11 Mehefin 2007 (UTC)Ateb

ON Dwi'n gweld dy fod wedi creu'r eginyn Llwybr Llaethog. Ga'i ofyn iti beidio wneud yr un fath efo Bydysawd a Galaeth oni bai dy fod yn bwriadu sgwennu rhywbeth sylweddol ar y pynciau, am fy mod yn gobeithio sgwennu amdanyn nhw cyn bo hir. Dwi'n gwybod mai "o leiaf un frawddeg" mae'n ddweud yn y rhestr erthyglau angenreidiol, ond teimlo dwi fod rhai pynciau'n rhy fawr a phwysig i'w trin fel 'na. Meddwl am ddod yma i gael gweld be sy gennym ni am Galaeth mond i weld brawddeg fel 'Mae galaeth yn gartref i filiynau o sêr'!

ONN Gweler hefyd Fformwla Euler (agor y dudalen i'w golygu i weld be di be). Weithiau y peth gorau efo manylion technegol ydi copio a phastio o'r wiki Saesneg. Anatiomaros 18:27, 11 Mehefin 2007 (UTC)Ateb


Dwi di llwyddo efo rhoi hafaliadau fewn. Oeddwn i'n meddwl na rhywun a oedd yn fynylwytho lluniau efo'r hafaliadau ynddynt, ond yn gweld a sgript sy'n ei wneud.

Wnes i greu y dudalen Llwybr Llaethog, gan fod gan Milky Way efo sawl enw Cymraeg, ond yr un mwyaf adnabyddus yw Llwybr Llaethog.

Just a question golygu

I'm sorry I don't speak Welsh but I'm Argentinian and the truth is that I don't even speak English very well. We're having a problem at Spanish Wikipedia with the etymology of the word "Dorset". The article says that it comes from two Welsh words: Dwrn, which means "fist", and gwarae, that means "play". We have no references for that information and naturally there're no many Welsh speakers at Spanish Wikipedia, that's why I ask you if "fist" and "play" are actually the real meanings of the words Dwrn and gwarae. As I don't have an account in Welsh Wikipedia, I'd be really pleased if you answered my question here below. Thank you very much. Please, write in English! :) --201.252.199.248 01:44, 12 Ebrill 2008 (UTC)Ateb

Croeso nol. golygu

Croeso'n ol, gyfaill. Wyt ti'n dal yn fyfyriwr ffiseg? Os wyt mi fyddi'n falch o weld fod gennym ni arolygwr ffiseg newydd yma, sy'n cadw llygaid o hirbell. Dwi'n siwr y basat yn mwynhau sgwrs neu gydweithio â Phil ar ambell erthygl wyddonol:

http://cy.wikipedia.org/wiki/Defnyddiwr:Philip.Jonathan

Gyda llaw: pan oeddwn ar maesE flynyddoed yn ol, rwy'n cofio iti fod yn un o gonglfeini cryfaf y wefan. Wyt ti'n dal wrthi? Fe wnaeth maesE waith da dros y blynyddoedd.

Chwaraewyr rygbi golygu

Diolch am dy help efo'r erthyglau ar chwaraewyr rygbi Cymru. Dw i wedi symud y Nodynnau priodol i cy, bellach, felly os wyt ti'n awyddus, gelli gopio a phastio'r Infoboxes o en i cy - fe ddylan nhw weithio! Chydig iawn o waith cyfieithu sydd ei angen wedyn gan fod y manylion yn eu lle. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:22, 11 Chwefror 2013 (UTC)Ateb

Abersontwic golygu

Dw i wedi methu a chanfod cyfeiriad at enw Cymraeg Sandwich, Kent. Tybed a oes gen ti ffynhonnell y gallwn ychwanegu? Mae hyn yn hynod o ddiddorol a bydd yn rhaid ei ychwanegu i'r erthygl ar enwau Cymraeg llefydd yn Lloegr. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 11:46, 16 Chwefror 2013 (UTC)Ateb

Aber Santwic sy'n ymddangos yn Armes Prydein Fawr - Mae Google Books yn canfod sawl enghraifft o'i ddefnydd https://www.google.co.uk/search?q=abersontwic&btnG=Search+Books&tbm=bks&tbo=1#hl=en&tbo=d&tbm=bks&sclient=psy-ab&q=santwic&oq=santwic&gs_l=serp.3...136932.137092.1.137409.2.2.0.0.0.1.188.289.0j2.2.0...0.0...1c.1.3.psy-ab.yDaW0Qjk4Ww&pbx=1&bav=on.2,or.r_gc.r_pw.r_cp.r_qf.&bvm=bv.42553238,d.bGE&fp=9ff18d9cf039089c&biw=1440&bih=644

Dwy etholiad golygu

Haia Huw! Parthed Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig yng Nghymru, 1910. Dw i'n meddwl fod y ddwy etholiad a gynhaliwyd y flwyddyn yma'n haeddu erthygl yr un, fel a geir mewn ieithoedd eraill. Byddai hyn hefyd yn plesio Wicidata! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:29, 21 Awst 2018 (UTC)Ateb

Diolch am greu dwy! Gwaith gwych gen ti! 3 peth:
  1. Gallaf ychwanegi categori efo bot, mae categori (fel system Dewey mewn llyfrgell) yn angenrheidiol ar bob erthygl. Efallai: 'Categori:Etholiad cyffredinol y DU yng Nghymru'
  2. Ble gest ti'r tabl? Mae angen ffyhonnell ar bob erthygl, hefyd, erbyn hyn. Efallai y gallaf ychwanegu rhain hefyd efo bot.
  3. Ar yr erthyglau am etholiadau DU (nid Cymru) mae gennym ni Nodyn (templad) bach ar ffurf tabl, sef Nodyn:Etholiadau cyffredinol y Deyrnas Unedig, sy'n ffordd cyfleus o fforio i erthyglau tebyg. Mi driaf wneud hyn, hefyd, os na fyd neb arall wedi'i hwneud.
I mi, be sy'n wych am yr erthyglau yma, ydy nad ydyn nhw'n bodoli'n Saesneg ac yn rhoi gogwydd Gymreig i Wici. Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:34, 22 Awst 2018 (UTC)Ateb
Diweddariad ar y templad / nodyn. Mae hwn newydd ei greu. Sylwadau a gwelliannau? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:00, 22 Awst 2018 (UTC)Ateb
Cewch wrth gwrs. Mae'r wybodaeth yn dod o hen lyfr wnes i ffindio - Beti Jones, Etholiadau Seneddol yng Nghymru, 1900-75 - ISBN: 0904864332. Dwi di mynd ati efo'r maes hwn (oherwydd y ffynhonell yn fy llaw) ond gan nad yw'n bodoli yr un lle arall hyd yn hyn. Bydd yn tynnu ymchwilwyr neu unrhyw berson sydd a diddordeb mewn gwleidyddiaeth Cymru at y dudalenau yma yn gyntaf - gobeithio! - Huw Waters - 10:42, 22 Awst 2018 (UTC)Ateb