Helo, a chroeso cynnes i Wicipedia! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 16:22, 17 Mawrth 2015 (UTC)Ateb

Haia. Mi wnes i roi'r dull sydyn o greu ail-gyfeiriad, sef: #ail-cyfeirio ac wedyn enw'r dudalen! Pob lwc! Mae ailgyfeiriadau'n handi i droi fersiynau gwahanol o'r gair i'r erthygl ddewis. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 16:55, 17 Mawrth 2015 (UTC)Ateb

Croeso golygu

Croeso i'r Wicipedia - mae pob par o ddwylo yn help!. Sylwaf dy fod wedi ceisio creu categori o'r enw Archifau llenyddol gyda'r bwriad y bydd hwnnw wedyn o fewn y fam-gategori Categori:Archifau sydd hefyd heb ei greu eto. Mae categorïau bach yn trici ar y dechrau, gan eu bod yn ymddwyn yn wahanol i dudalenau arferol.

Beth sydd angen ei wneud ydy darganfod/creu erthygl ar archif lenyddol, yna ar waelod hwnnw, gosod y canlynol sydd mewn ysgrifen trwm :- [[Categori:Archifau llenyddol]]. Wedi cadw'r newid, bydd yn ymddangos fel dolen goch, gan nad yw'r categori'n bodoli eto mewn gwirionedd.

Beth sydd angen ei wneud rwan ydy clicio ar y ddolen goch i greu'r categori, ac yna ychwanegu'r cod [[Categori:Archifau]] yn y fan honno a gwasgu cadw. Yna bydd y categori Archifau lenyddol yn ymddangos o fewn y categori Archifau - ond fydd hwn ddim yn bodoli nes ail-adrodd y cam uchod a'i osod mewn mam-gategori arall nes dod ar draws mam-gategori sy'n bodoli. Gweler y wici Saesneg am awgrymiadau - ond mae Categori:Gwasanaethau cyhoeddus yn bodoli.

Gobeithio bod hyn o help ac yn gwneud synnwyr!

Hwyl am y tro.--Rhyswynne (sgwrs) 20:56, 17 Mawrth 2015 (UTC)Ateb

Shwmae, Nia Mai Daniel! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd.   Message in English |   Message en français
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma.
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 280,411 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg.
 
Y Caffi
Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
 
Cymorth
Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia.
 
Porth y Gymuned
Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth
sydd angen gwneud yma.
 
Golygu ac Arddull
Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau.
 
Hawlfraint
Y rheolau hawlfraint yma.
 
Cymorth iaith
Cymorth gyda'r iaith Gymraeg.
 
Polisïau a Chanllawiau
Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned.
 
Cwestiynau Cyffredin
Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr.
 
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio
Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial,
a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio.
 
Y Pum Colofn
Egwyddorion sylfaenol y prosiect.

Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".

Ar ddiwedd y neges mewn tudalennau sgwrs (fel yr un yma), gadewch ~~~~, a bydd y cod yma yn gadael stamp eich enw ac amser gadael y neges. Os ydych am gael cymorth gan weinyddwyr, rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar eich tudalen sgwrs.

Fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma,
Y Wicipedia Cymraeg


Cofion cynnes, Deb (sgwrs) 21:29, 17 Mawrth 2015 (UTC)Ateb