Tomos S4C
Haia Tomos, a chroeso i Wicipedia! Braf gweld S4C yma'n swyddogol! Dw i newydd gychwyn sgerbwd o dudalen yn fama: Wicipedia:Wicibrosiect S4C, er mwyn crynhoi y pethe pwysicaf yn daclus mewn un lle. Unrhyw newyddion a ballu, plis newidia fo, ychwanega fo, neu ddileu'r drafft hyd yn oed! Arwain di, a mi ddilynwn ninnau! Pe baet am dudalen prosiect arall, ychwanegol ee i gopio a gludo datganiadau'r Wasg, neu i restru dolenau i Ddatganiadau'r Wasg S4C, yna gelli ychwanegu blaenslaes ar ddiwedd y prosiect ee Wicipedia:Wicibrosiect S4C/Datganiadau i'r Wasg. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:17, 19 Mawrth 2020 (UTC)
- Diolch! Edrych ymlaen yn arw! Newydd weld dy fod wedi cychwyn tudalen prosiect hefyd - gwych iawn! Tomos S4C (sgwrs) 17:31, 19 Mawrth 2020 (UTC)
Podcast WiciMôn
golyguPnawn da Tomos! Gobeithio eich bod yn cadw'n iawn. Eisiau gofyn cymwynas ydwi. Tybed a ydych ar gael i recordio sgwrs ar gyfer podlediad WiciMôn yn sôn am eich prosiect newydd? aaronm@mentermon.com yw fy nghyfeiriad e-bost i. Edrychaf ymlaen at glywed yn ôl gannddoch! Prosiect Wici Môn (sgwrs)