Sgwrs Wicipedia:WiciBrosiect Cymru
Mae'r erthygl hon yn rhan o WiciBrosiect Cymru, prosiect cydweithredol ar Gymru. Os ydych am gyfrannu, ewch i hafan y prosect, ymunwch â'r drafodaeth a chewch restr o bethau sydd angen eu gwneud. Ychwanegwch y nodyn hwn i unrhyw dudalen sy'n ymwneud â Chymru neu Gymry. |
Ardderchog
golyguSyniad ardderchog! Mae dod ag elfen Gymreig i BOB erthygl dan haul yn bwysig ar cywici ers rhyw ddeng mlynedd, ond mae'r rhestrau yma'n sicrhau fod y wybodaeth graidd yn bodoli, yn Gymraeg. Fantastig. Mae gen i bethau eraill dw i'n canolbwytio arnyn nhw ar hyn o bryd, ond mi gadwaf lygad ar yr erthyglau newydd, yn sicr. Diolch i ti! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:32, 11 Ionawr 2023 (UTC)
- Diolch am y gefnogaeth. Dim problem. Titus Gold (sgwrs) 01:31, 13 Chwefror 2023 (UTC)
Canolbwyntio ar greu erthyglau
golyguOs hoffech gyfrannu, byddwn yn gwerthfawrogi mynd i afael â'r rhestr o erthyglau i'w creu ac hefyd y rhai sydd angen "gwelliant mawr". Rhain yw'r flaenoriaeth ar hyn o bryd yn fy marn i. Diolch yn fawr am bob cyfraniad. Titus Gold (sgwrs) 00:57, 25 Ebrill 2023 (UTC)
Awgrymiadau
golyguNodiadau
golyguMae @AlwynapHuw wedi awgrymu defnyddio mwy o nodiadau i gysylltu erthyglau gan ddefnyddio esiampltebyg i Nodyn:Cantorion pop Cymru. Mi wnai ddechrau ar fwy o nodiadau cerddorol.
Crewyd y canlynol yn flaenorol:
- Nodyn:Economi Cymru
- Nodyn:Datganoli Cymru
- Nodyn:Iechyd Cymru
- Nodyn:Amaethyddiaeth Cymru
- Nodyn:Ardaloedd Natur Cymru
- Nodyn:Bioamrywiaeth Cymru
- Nodyn:Twristiaeth Cymru
- Nodyn:Bridiau Cymreig
- Nodyn:Trafnidiaeth Cymru
- Nodyn:Yr Iaith Gymraeg
Ychwanegwch unrhyw awgrymiadau eraill yma. Titus Gold (sgwrs) 12:45, 28 Awst 2023 (UTC)
- Dwi wedi ychwanegu nodiadau i'w creu ar dudalen y prosiect. Titus Gold (sgwrs) 13:01, 28 Awst 2023 (UTC)