Croeso golygu

Shwmae, Titus Gold! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd.   Message in English |   Message en français
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma.
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 280,401 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg.
 
Y Caffi
Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
 
Cymorth
Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia.
 
Porth y Gymuned
Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth
sydd angen gwneud yma.
 
Golygu ac Arddull
Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau.
 
Hawlfraint
Y rheolau hawlfraint yma.
 
Cymorth iaith
Cymorth gyda'r iaith Gymraeg.
 
Polisïau a Chanllawiau
Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned.
 
Cwestiynau Cyffredin
Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr.
 
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio
Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial,
a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio.
 
Y Pum Colofn
Egwyddorion sylfaenol y prosiect.

Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".

Ar ddiwedd y neges mewn tudalennau sgwrs (fel yr un yma), gadewch ~~~~, a bydd y cod yma yn gadael stamp eich enw ac amser gadael y neges. Os ydych am gael cymorth gan weinyddwyr, rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar eich tudalen sgwrs.

Fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma,
Y Wicipedia Cymraeg


Cofion cynnes, Deb (sgwrs) 07:07, 11 Mehefin 2022 (UTC)Ateb

Prawfddarllen golygu

Llawer o waith da wedi'i wneud gen ti'n ddiweddar, sydd wedi cyfoethogi'r Wici!

Ond cofia brawfddarllen dy waith, ar ol ei greu. Dw i'n euog o'r un bai! A hefyd, mae na arddull gwahanol ar cywici ee 13g yn hytrach na y drydedd ganrif ar ddeg ayb. Betha am wiro'r gwaith ti wedi'i wneud hyd yma, cyn bwrw mlaen? Does dim ras, cofia! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:06, 11 Ionawr 2023 (UTC)Ateb

@Llywelyn2000 Diolch am y neges. Dwi wedi gwneud nodyn o'r tudalennau rwy'n mynd yn ôl atynt i'w hadolygu, peidiwch a phoeni! Titus Gold (sgwrs) 20:38, 11 Ionawr 2023 (UTC)Ateb

Gwerthfawrogiad golygu

 

Carwn gyflwyno i ti fy ngwerthfawrogiad o'r holl waith rwyt wedi'i wneud ar cywici (ac enwici!) dros y misoedd diwethaf. Ti wedi carlamu ymlaen gan greu erthyglau aruthrol bwysig! Diolch i ti!

Llywelyn2000 (sgwrs) 07:39, 19 Chwefror 2023 (UTC)Ateb

@Llywelyn2000 Diolch am y gwerthfawrogiad. Dim problem! Titus Gold (sgwrs) 17:48, 19 Chwefror 2023 (UTC)Ateb

Cyfarfod heddiw (ieithoedd brodorol y DU) - HEDDIW golygu

Gan i ti ddangos diddordeb yn y cyfarfod heddiw am 12.00 yb, dyma'r ddolen Zoom:

https://us02web.zoom.us/j/2749110721

Gelli aros yn ddienw os wyt isio, a diffodd dy gamera!

Cofion cynnes

Robin - Llywelyn2000 (sgwrs) 08:47, 1 Mawrth 2023 (UTC)Ateb

@Llywelyn2000 Flin gen i Robin, doeddwn i methu heddiw. Beth oedd y casgliadau? Titus Gold (sgwrs) 14:08, 1 Mawrth 2023 (UTC)Ateb
Dim probs! Cafwyd llond sach o syniadau sut y gall y DU gynorthwyo ieithoedd brodorol gwledydd Prydain. Bydd WMUK rwan yn anfon atyn nhw. Ymhlith y pethau pwysicaf: pwysigrwydd y cyfryngau (a'u datganoli) a thechnolegau fel Wicipedia, ac wrth gwrs statws swyddogol i'r Gernyweg. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:04, 1 Mawrth 2023 (UTC)Ateb
Da i glywed. Gadewch i fi wybod os oes newyddion pellach! Titus Gold (sgwrs) 15:19, 1 Mawrth 2023 (UTC)Ateb

Mantol ariannol Cymru golygu

Ro'n i'n styried creu erthygl ar y pwnc yma. O archwilio'r erthygl gyfatebol yn yr iaith arall (i siarad rhwng llinellau), mi welais i nad oedd yn deg iawn, yn enwedig yr agoriad: yn gwbwl unochrog, er mai pwrpas yr agoriad yw crynhoi'r hyn sydd yn yr erthygl. Newidiwyd y teitl, fel y gwyddost i deitl tecach llai o duedd, sef 'Mantol ariannol' nid 'diffyg ariannol', ond mae'r frawddeg gynta'n cynnwys yr hen derm 'diffyg'. Mae na rai'n nodi na all Cymru gael 'mantol' (na diffyg) gan nad yw'n rheoli pob agwedd o arian Cymru. Mae angen cyfeiriadaeth tecach, ond mae angen mwy o amser mewn diwrnod!

Cyfeiriad gwerth chweil i'w roi hefyd yn yr agoriad yw'r datganiad gan John Doyle (Prifysgol Dulyn) y gall y 'diffyg' fod yn llai na £2.6 biiwn. [https://stateofwales.com/2022/12/chinny-reckon-is-the-welsh-deficit-only-2-6billion/ Fama]

Pwynt arall ydy y dylid edrych ar Loegr fel uned, yn hytrach na'i dameidio'n ddarnau, fel mae Llyw y DU yn ei wneud. Ychydig iawn o ffynonellau sydd ar ddyled / diffyg Lloegr - efallai fod angen erthygl ar hon, i roi perspectif arall ar Gymru a'r Alban.

Yn rhwystredig iawn gan fod fy nwylo wedi'u clymu, ond yn ddiolchgar am unrhyw gymorth! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:06, 22 Ebrill 2023 (UTC)Ateb

@Llywelyn2000 Dwi wedi gwneud ambell newid i'r erthygl Saesneg. Dwi hefyd wedi cyfieithu'r erthygl i'r Gymraeg. Mae lle yma ar gyfer gwelliant yn y ddwy iaith. Gweler Balans cyllidol Cymru Titus Gold (sgwrs) 00:41, 23 Ebrill 2023 (UTC)Ateb
Ti'n werth y byd yn grwn! Diolch ENFAWR! Pe allan, fe wnawn gadw llygad ar yr erthygl, ond cha i ddim. Y cnafon drwg. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:17, 23 Ebrill 2023 (UTC)Ateb

Ymgais unoliaethol i uno rhestrau gwledydd o dan yr uk golygu

Dyma enghraifft diweddar gan un golygydd o en-wici lle dileodd restrau Cymru, Lloegr, Ynys Manaw ayb (ee Rhestr o Reilffyrdd Treftadaeth Cymru) a chreu un rhestr dros yr uk! Ei reswm dros wneud hyn oedd Dim ond ceisio bod yn gyson â'r wikipedia saesneg ydw i! Gweler: Sgwrs Defnyddiwr:HelpfulHens. Mae'r agwedd unoliaethol hon yn gwbwl groes i'n polisiau a'n arferiad ni, ac mae gennym hawl creu unrhyw restr i unrhyw un o wledydd Prydain; yn wir, mae'n arferiad gwell, mwy manwl, mwy lleol na pheintio cyfoeth yr amrywiaeth efo un brwsh coch, glas a gwyn yr uk. Cadwa dy lygad ar hyn, os g yn dda, rhag ofn y daw fandal tebyg. Diolch a chofion. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:24, 1 Gorffennaf 2023 (UTC)Ateb

Otomeiddio'r gwaith o roi Nodyn Cymru ar erthyglau golygu

@Titus Gold, Craigysgafn, Adda'r Yw: Haia! Ydy'r Nodyn {{WiciBrosiect Cymru}} i'w rhoi ar erthyglau sydd o fewn y prif gategori Categori:Cymru hy ym mhob is-gategori o dan 'Cymru'? Os yw yna gallaf wneud hynny gyda bot AWB, neu gallaf ddangos i ti sut i wneud hynny? Cwestiwn arall: ydy'r nodyn i fynd ar bob adeilad a pherson (ayb) yng Nghymru / a anwyd yng nghymru... ? Llywelyn2000 (sgwrs) 15:13, 20 Tachwedd 2023 (UTC)Ateb

Ie i bobpeth! Byddai hynny'n wych, diolch! Titus Gold (sgwrs) 15:14, 20 Tachwedd 2023 (UTC)Ateb
Gwych! Mi ddaliai nol am ddeuddydd, dri, rhag ofn bod sylwadau gan eraill. Yna... ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:16, 20 Tachwedd 2023 (UTC)Ateb
Does dim gwrthwynebiad wedi bod i'w defnyddio ar ôl i mi argymell defnyddio'r blychau yn y Caffi.
Dwi'n meddwl ei bod yn iawn i barhau rwan. Diolch i ti Titus Gold (sgwrs) 17:47, 20 Tachwedd 2023 (UTC)Ateb
Ydyn ni’n awgrymu rhoi’r nodyn ar yr erthyglau eu hunain yn ogystal â’r sgwrs? Mae'r blwch gyda'r faner yn glamp o beth ar hyn o bryd. Dyw hynny ddim yn broblem o ran tudalennau sgwrs, ond mewn erthygl efallai ei fod yn ormod. Os mai dyna'r syniad, efallai y dylai fod ychydig yn llai... Craigysgafn (sgwrs) 11:17, 21 Tachwedd 2023 (UTC)Ateb
Roeddwn i'n cymryd yn ganiataol mai ar y dudalen sgwrs yn unig fyddai'r nodyn. Titus Gold (sgwrs) 15:08, 21 Tachwedd 2023 (UTC)Ateb
@Llywelyn2000 Ydi hi'n bryd i weithredu ar hyn ar dudalennau sgwrs yn unig? Diolch i ti. Titus Gold (sgwrs) 13:24, 26 Tachwedd 2023 (UTC)Ateb

Gret! Tudalennau Sgwrs yn unig: mi ai ati heddiw. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:31, 4 Rhagfyr 2023 (UTC)Ateb

Newydd gychwyn troi {{Nodyn:WiciBrosiect Cymru}} yn {{WiciBrosiect Cymru}}. Yna, mi wna i ychwanegu {{WiciBrosiect Cymru}} ar tua 17,000 o dualenau Sgwrs erthyglau sydd yn is-ffeil (x3) o Gategori:Cymru (hy i lawr / recursive i 3 lle - sef is-is-is-gategori. Cadwa dy lygad osgydd ar gyfraniadau BOT-Twm crys. Cofion... Robin... BOT-Twm Crys (sgwrs) 15:30, 4 Rhagfyr 2023 (UTC)Ateb
17,500 wedi eu gosod ar y tudalennau Sgwrs.
   Llywelyn2000 (sgwrs) 08:55, 5 Rhagfyr 2023 (UTC)Ateb


Diolch yn fawr iawn ich dau. Mi wnai gadw llygad. Titus Gold (sgwrs) 11:53, 5 Rhagfyr 2023 (UTC)Ateb