Sgwrs Wicipedia:WiciBrosiect Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Latest comment: 6 blynedd yn ôl by Llywelyn2000 in topic Delweddau o wefan yr Eisteddfod

Categorïau enillwyr golygu

Beth am gategorïau o enillwyr y prif wobrau? Gweler Categori:Enillwyr gwobrau am gategorïau tebyg. Yn y rhestr dasgau ceir "Erthygl ar gyfer pob nofel sy'n ennill Gwobr Goffa Daniel Owen", felly beth am greu categorïau i'r llenorion a enillodd y gwobrau ac hefyd am y gweithiau a enillodd? —Adam (sgwrscyfraniadau) 22:59, 21 Chwefror 2013 (UTC)Ateb

Gwych! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:00, 22 Chwefror 2013 (UTC)Ateb
Syniad da. Mi wnai ei ychwanegu at y rhestr mae so law.--Ben Bore (sgwrs) 11:30, 22 Chwefror 2013 (UTC)Ateb
Wedi rhoi dechrau (ara' deg) arni: Categori:Enillwyr gwobrau yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. --Ben Bore (sgwrs) 13:33, 10 Ebrill 2013 (UTC)Ateb

Delweddau o wefan yr Eisteddfod golygu

(Ail osod yma)

Flwyddyn yn ol, cytunodd yr Eisteddfod i ni ddefnyddio eu delweddau (ffotograffau modern gan ddau o'u ffotograffwyr). Ers hynny, dw i wedi gofyn, drwy ebost i'r Eisteddfod roi CC-BY-SA ar ddwy dudalen o ffotograffau. Mae nhw wedi cytuno i roi trwydded wahanol (dim newid y ddelwedd) ond dydy hyn ddim yn dderbyniol gan Comin. Ymhen pythefnos mi fydda i'n dechrau dileu pob un o'r delweddau rydym wedi'u defnyddio, gan nad ydyn nhw ar CC-BY-SA. Cyn hynny, efallai y byddai'n dda i rywun arall ffonio'r eisteddfod i drafod gyda Gwenllian. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 22:09, 16 Hydref 2012 (UTC)Ateb
Cytuno bod rhaid gwneud rhywbeth gyda'r delweddau hyn, ond oes brys ofnadwy i'w dileu? Cytuno hefyd bod eisiau cysylltu gyda Gwenllian/yn Eisteddfod am y mater. Pa ddelweddau yn union ydym wedi eu defnyddio ganddynt - ydyn nhw i gyd o fewn un categori arbennig? Efallai mai dileu delweddau gan ffotograffwyr fydd rhaid gwneud os na cheir eu caniatad nhw, ond falle gellir cael caniatad i gadw unrhyw sganiadau (e.e. o hen logos).--Ben Bore (sgwrs) 20:30, 18 Hydref 2012 (UTC)Ateb
Os felly, yna mi fyddai'n well dileu'r rhai di-drwydded, cyn bod rhywun blin yn gwneud hynny (a phob llun arall ar Wici sydd heb drwydded!) Llywelyn2000 (sgwrs) 06:46, 22 Tachwedd 2012 (UTC)Ateb
Be ddigwyddodd gyda hyn yn y pen-draw? Rwy wedi clywed tybiaeth gan eraill fod lluniau ar wefan y Steddfod o dan drwydded agored ond alla'i ddim gweld unrhywbeth yn esbonio pa drwydded yn union.--Dafyddt (sgwrs) 10:17, 15 Awst 2017 (UTC)Ateb
I nifer o'n sefydliadau mae deall cymhlethdod trwyddedau rhydd, agored, cyfoes yn goblyn o benbleth. Mae'r bel ar hyn o bryd yn nwylo'r trefnyddion - sydd wedi cefnogi Prosiect WiciMon gant y cant ac yn eiddgar i fynd ati i roi cymaint posib o destun a lluniau ar drwydded agored. Bydd @Aaron: yn troi at hyn wedi iddo gwbwlhau'r gwaith ar Ynys Mon ymhen mis neu ddau. Mae'r ewyllus yno, o ran yr Eisteddfod, ond mae'r gwaith papur, y newid cytundebau gyda ffotograffwyr, teledu a radio yn hynod o gymhleth. Peidio ac ysgwyd y cwch yw'r tacteg orau ar hyn o bryd! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:38, 15 Awst 2017 (UTC)Ateb
Return to the project page "WiciBrosiect Eisteddfod Genedlaethol Cymru".