Siôn
enw personol gwrywaidd
Enw personol Cymraeg yw Siôn. Daw yn wreiddiol o'r Hebraeg יוחנן (Yôḥānnān), sydd hefyd yn rhoi'r ffurfiau Ioan ac Ieuan, ond bod Siôn yn ôl pob tebyg wedi dod trwy'r Saesneg John.
Fe'i defnyddir hefyd weithiau fel Cymreigiad o'r cyfenw Jones; er enghraifft Twm Siôn Cati (Thomas Jones yn swyddogol).