Siôn Phylip
Bardd ac un o deulu Phylipiaid Ardudwy oedd Siôn Phylip (tua 1543 - 1620). Roedd ymhlith yr olaf o Feirdd yr Uchelwyr.
Siôn Phylip | |
---|---|
Ffugenw | Sion Phylip |
Ganwyd | c. 1543 |
Bu farw | 1620 |
Galwedigaeth | bardd |
Plant | Gruffudd Phylip |
Bywgraffiad
golyguRoedd Siôn yn frawd i Rhisiart Phylip (m. 1641), yntau'n fardd. Enillai ei fywoliaeth trwy fynd ar deithiau clera yng ngogledd Cymru a thrwy ffermio; roedd ganddo fferm ym Mochres, ar lan Bae Ceredigion ger Llandanwg, Ardudwy, yn yr hen Sir Feirionnydd (de Gwynedd heddiw).
William Llŷn oedd ei athro barddol. Roedd Siôn yn un o'r beirdd a raddiodd yn Eisteddfod Caerwys 1567. Cymerodd ran mewn ymryson barddol ag Edmwnd Prys, Tomos Prys a Siôn Tudur.
Ymhlith noddwyr pwysicaf y bardd oedd Wynniaid Gwydir, Dyffryn Conwy a theulu Nannau, ger Dolgellau. Cyfansoddodd farwnad i Wiliam Thomas, a fu farw ar ôl ymladd ym myddin Syr Philip Sidney yn yr Iseldiroedd.
Boddodd Siôn ar ei ffordd yn ôl i Fochres mewn cwch o Bwllheli, ar ôl bod ar daith clera yn Llŷn a Môn. Cafodd ei gladdu ym mynwent Llandanwg lle ceir yr englyn canlynol iddo ar ei garreg fedd, gan ei gyfaill Huw Llwyd o Gynfal:
Dyma fedd gwrda oedd gu — Siôn Phylip
Sain a philer Cymru;
Cwynwn fynd athro canu
I garchar y ddaiar ddu.[1]
Roedd ei ddau fab Gruffudd (m. 1666) a Phylip Siôn yn feirdd yn eu tro.
Phylipiaid Ardudwy
golygu- Prif: Phylipiaid Ardudwy
Roedd cyfnod blodeuo'r teulu'n ymestyn o 1543, dyddiad geni Siôn Phylip, hyd at 1678, sef y flwyddyn y profwyd ewyllys Phylip Siôn Phylip ei fab.
Redd y brodyr Siôn a Rhisiart, a'r brodyr Gruffydd a Phylip Siôn, yn canu yn y mesurau caeth, gan mwyaf. Gwyddem hefyd drwy eu canu mai clerigwyr oedd Siôn, Rhisiart a Gruffydd. Yn y mesurau rhydd y canodd William Phylip gan mwyaf, ac nid oedd yn clera. Canodd Siôn, a'i fab Gruffydd ar ei ôl, lawer i Fychaniaid Corsygedol, ac yr oedd Rhisiart yn fardd teulu Fychaniaid Nannau. Ond nid i deuluoedd Sir Feirionnydd yn unig y canai'r tri bardd. Bu i bob un o'r tri athro barddol a ‘graddiodd’ Siôn yn ail eisteddfod Caerwys, 1568; yr oeddent hefyd yn achyddwyr da. Yr oeddynt ymhlith y clerwyr diwethaf yng Nghymru a phan fu Gruffydd farw yn 1666 fe'i galwyd ‘y diweddaf o'r hen feirdd.’
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dyfynnir yn T. I. Ellis, Crwydro Meirionnydd (Llyfrau'r Dryw, 1954)
- Phylipiaid Ardudwy: erthygl gan William Llewelyn Davies yn y Bywgraffiadur Cymreig arlein (LlGC).
Bedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog · Huw Cornwy · Huw Llŷn · Huw Pennant (I) · Huw Pennant (II) · Hywel ab Einion Lygliw · Hywel ap Mathew · Hywel Cilan · Hywel Ystorm · Ieuan ap Huw Cae Llwyd · Ieuan ap Hywel Swrdwal · Ieuan Brydydd Hir · Ieuan Du'r Bilwg · Ieuan Dyfi · Ieuan Gethin · Ieuan Llwyd ab y Gargam · Ieuan Tew Ieuanc · Iocyn Ddu ab Ithel Grach · Iolo Goch · Iorwerth ab y Cyriog · Iorwerth Beli · Iorwerth Fynglwyd · Ithel Ddu · Lewis ab Edward · Lewys Daron · Lewys Glyn Cothi · Lewys Môn · Lewys Morgannwg · Llywarch Bentwrch · Llywelyn ab y Moel · Llywelyn ap Gwilym Lygliw · Llywelyn Brydydd Hoddnant · Llywelyn Ddu ab y Pastard · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch · Llywelyn Goch ap Meurig Hen · Llywelyn Goch y Dant · Llywelyn Siôn · Mab Clochyddyn · Madog Benfras · Maredudd ap Rhys · Meurig ab Iorwerth · Morus Dwyfech · Owain Gwynedd · Owain Waed Da · Prydydd Breuan · Tomos Prys · Gruffudd Phylip · Phylip Siôn Phylip · Rhisiart Phylip · Rhys Cain · Rhys Nanmor · Siôn Phylip · Siôn Tudur · Raff ap Robert · Robert ab Ifan · Robin Ddu ap Siencyn · Rhisierdyn · Rhisiart ap Rhys · Rhys ap Dafydd ab Einion · Rhys ap Dafydd Llwyd · Rhys ap Tudur · Rhys Brydydd · Rhys Goch Eryri · Sefnyn · Simwnt Fychan · Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan · Siôn ap Hywel Gwyn · Siôn Brwynog · Siôn Cent · Siôn Ceri · Sypyn Cyfeiliog · Trahaearn Brydydd Mawr · Tudur Aled · Tudur ap Gwyn Hagr · Tudur Ddall · Wiliam Llŷn · Y Mab Cryg · Y Proll · Yr Ustus Llwyd