Siôn a Siân (drama)

Drama lwyfan gan Gareth F. Williams

Drama lwyfan ddwy-act gan Gareth F. Williams yw Siôn a Siân a gyflwynwyd gyntaf gan Gwmni Theatr Gwynedd ar ddechrau 1989, wedi'i chyfarwyddo gan Tony Llewelyn. Roedd hon ymysg cynyrchiadau cynnar y cwmni.

Siôn a Siân
Enghraifft o'r canlynoldrama lwyfan
AwdurGareth F. Williams
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaCwmni Theatr Gwynedd
Dyddiad y perff. 1af1989 Edit this on Wikidata

Dau brif gymeriad sydd yn y ddrama. Mae Siôn a Siân yn nesau at eu pedwardegau, ac yn digalonni - Siân yn athrawes ddi-briod, yn byw mewn bloc o fflatiau yng Nghaerdydd a'i phen-blwydd mawr yn nesau a hithau'n dechrau teimlo'n desprét.

Siôn yw ei chymydog, "dros dro" meddai e. Mae'n gwrthod wynebu bod ei gynhyrchydd teledu o wraig wedi ei daflu allan o'u tŷ mawr crand ar gyrion y ddinas, a symud ei chariad newydd hanner ei hoedran i mewn ati.[1]

Addaswyd y ddrama lwyfan yn ffilm i S4C ar ddechrau'r 2000au.

Ni gyhoeddwyd y ddrama hyd yma.

Cymeriadau

golygu
  • Siân Parry Jones
  • Meinir Ifans
  • Siôn Tomos
  • Harri Ifans
  • Eira Tomos
  • Guto Jones

Cynyrchiadau nodedig

golygu

Cyflwynwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Gwynedd ym 1989. Cast:

Cyfeiriadau

golygu
  1. Rhaglen Cwmni Theatr Gwynedd o Siôn a Siân 1989.