Sion a Sian (ffilm)

Ffilm Gymraeg yw Siôn a Siân a sgriptiwyd gan y dramodydd Gareth F. Williams. Fe'i disgrifwyd fel ffilm gomig am dristwch, a'i darlledu ar S4C ar ddydd Nadolig 2003. Dangoswyd hi hefyd fel rhan o Wyl Sgrîn Caerdydd 2003.

Siôn a Siân
Cyfarwyddwr Tim Lyn
Cynhyrchydd Eryl Huw Phillips
Ysgrifennwr Gareth F. Williams
Dylunio
Gwlad Cymru
Iaith Cymraeg

Roedd yn addasiad o ddrama lwyfan a berfformiwyd yn wreiddiol gan Gwmni Theatr Gwynedd ym 1990, ond fe addasodd y dramodydd y cymeriadau i fod ddegawd yn hynach. Mae'r ddau prif gymeriad, Siôn (Jonathan Nefydd) a Siân (Janet Aethwy) yn gymdogion a mae dau gymeriad arall Meinir (Nia Roberts) a Harri (Rhydian Jones).[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Siôn a Siân - adolygiad. BBC Cymru (Tachwedd 2003). Adalwyd ar 19 Medi 2016.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.