Arfon (etholaeth Senedd Cymru)
- Mae hon yn erthygl am yr etholaeth newydd. Am y cantref ac ardal hanesyddol, gweler Arfon.
Etholaeth Senedd Cymru | |
---|---|
Lleoliad Arfon o fewn Gogledd Cymru a Chymru | |
Math: | Senedd Cymru |
Rhanbarth | Gogledd Cymru |
Creu: | 2007 |
AS presennol: | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS (DU) presennol: | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
Etholaeth Senedd Cymru ydy Arfon sy'n dwyn enw ardal hanesyddol Arfon. Mae'n ethol un aelod drwy ddull cyntaf heibio'r postyn. Mae hefyd yn rhan o Ranbarth Gogledd Cymru, sydd yn ethol pedwar aelod ychwanegol er mwyn cael cynrichiolaeth mwy cyfrannol ar gyfer y rhanbarth. Cafod yr etholaeth ei chreu ar gyfer etholiad 2007. Yr aelod dros yr etholaeth yn y Senedd yw Siân Gwenllian (Plaid Cymru).
Ffiniau
golyguMae gan yr etholaeth Senedd Cymru Arfon yr un ffiniau ac etholaeth seneddol o'r un enw, sydd wedi cael ei ddefnyddio ers etholiad cyffredinol 2010. Cafodd etholaeth Arfon ei chreu drwy gyfunno ardaloedd Caernarfon a Gwyfrai o'r hen etholaeth Caernarfon, ac ardaloedd Bangor a Dyffryn Ogwen o hen etholaeth Conwy.
Creuwyd rhanbarth Gogledd Cymru yn ystod yr etholiad cynulliad cyntaf yn 1999, ac ers 2007 mae hi wedi cynnwys etholaethau Aberconwy, Alun a Glannau Dyfrwy, Arfon, De Clwyd, Dyffryn Clwyd, Gorllewin Clwyd, Delyn, Wrecsam ac Ynys Môn.
Hanes
golyguEr fod yr etholaeth seneddol yn llawer mwy ymylol, gellir ystyried yr etholaeth Senedd yn sedd saff, i Blaid Cymru. Yn yr etholiad diwethaf, 2016, roedd gan Blaid Cymru mwyafrif o 20.8% dros y Blaid Lafur.
Cyfartaledd canlyniadau 5 etholiad: Plaid Cymru - 54.6%, Llafur - 29%, Ceidwadwyr - 10.1%, Dem Rhydd - 4.9%
Pleidleisio
golyguMewn etholiadau Senedd, mae gan bob pleidleisiwr ddwy bleidlais: un ar gyfer ymgeisydd i fod yn Aelod o'r Senedd dros yr etholaeth, a'r llall ar gyfer rhestr pleidiol o ymgeiswyr rhanbarthol. Defnyddir Dull d'Hondt ar gyfer dyrannu seddi rhanbarthol, gan ystyried canlyniadau'r etholaethau yn y rhanbarth.
Aelodau o'r Cynulliad
golyguEtholiad | Aelod | Plaid | Llun | |
---|---|---|---|---|
2007 | Alun Ffred Jones | Plaid Cymru | ||
2016 | Siân Gwenllian | Plaid Cymru |
Ym Mai 2020 newidiwyd yr enw i 'Senedd Cymru'.
Aelodau o'r Senedd
golyguEtholiad | Aelod | Plaid | Llun | |
---|---|---|---|---|
2021 | Siân Gwenllian | Plaid Cymru |
Etholiadau
golyguCanlyniadau Etholiadau
golyguEtholiad Senedd 2021: Arfon | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Plaid Cymru | Sian Gwenllian | 13,760 | 63.27 | +8.44 | |
Llafur | Iwan Wyn Jones | 5,108 | 23.49 | -10.52 | |
Ceidwadwyr | Tony Thomas | 1,806 | 9.30 | +0.03 | |
Democratiaid Rhyddfrydol | Callum Davies | 642 | 2.95 | +0.07 | |
Reform UK | Andrew Haigh | 350 | 1.61 | - | |
Annibynnol | Martin Bristow | 82 | 0.38 | - | |
Mwyafrif | 8,652 | 39.78 | +8.44 | ||
Y nifer a bleidleisiodd | 21,748 | 50.92 | 0.00 | ||
Plaid Cymru yn cadw | Gogwydd | +9.48 |
Etholiad Cynulliad 2016: Arfon | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Plaid Cymru | Siân Gwenllian | 10,962 | 54.8 | -1.9 | |
Llafur | Siôn Jones | 6,800 | 34.0 | +7.8 | |
Ceidwadwyr | Martin Peet | 1,655 | 8.3 | -4.2 | |
Democratiaid Rhyddfrydol | Sara Lloyd Williams | 577 | 2.9 | -1.6 | |
Mwyafrif | 4,162 | 20.8 | -9.7 | ||
Y nifer a bleidleisiodd | 19,994 | 50.9 | +7.5 | ||
Plaid Cymru yn cadw | Gogwydd | −4.9 |
Etholiad 2011: Arfon[1] | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Plaid Cymru | Alun Ffred Jones | 10,024 | 56.7 | +4.3 | |
Llafur | Christina Elizabeth Rees | 4,630 | 26.2 | −0.6 | |
Ceidwadwyr | Aled Davies | 2,209 | 12.5 | +3.0 | |
Democratiaid Rhyddfrydol | Rhys David Jones | 801 | 4.5 | −2.8 | |
Mwyafrif | 5,394 | 30.5 | +4.9 | ||
Y nifer a bleidleisiodd | 17,664 | 43.4 | −5.7 | ||
Plaid Cymru yn cadw | Gogwydd | +2.4 |
Etholiad 2007: Arfon | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Plaid Cymru | Alun Ffred Jones | 10,260 | 52.4 | +3.11 | |
Llafur | Martin Eaglestone | 5,242 | 26.8 | -3.81 | |
Ceidwadwyr | Gerry Frobisher | 1,858 | 9.5 | -3.51 | |
Democratiaid Rhyddfrydol | Mel ab Owain | 1,424 | 7.5 | +0.21 | |
Plaid Annibyniaeth y DU | Elwyn Williams | 789 | 4.0 | +4.01 | |
Mwyafrif | 5,018 | 25.6 | +6.91 | ||
Y nifer a bleidleisiodd | 19,573 | 49.1 | +4.11 | ||
Etholaeth newydd: Plaid Cymru yn ennill. | Gogwydd | +3.51 |
1Amcanol yn Unig
Gweler Hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Wales elections > Arfon". BBC News. 6 Mai 2011. Cyrchwyd 8 Mawrth 2011.