Cân waith a genid yn wreiddiol gan forwyr yn Oes yr Hwylio yw sianti,[1] cân fôr, neu gân morwr.[2] Nodweddir ffurf y sianti gan unawd a chytgan am yn ail, yr unawd a genir gan y siantïwr[3] (a ddewisid am ei allu morwrol yn hytrach na'i ddawn gerddorol) a'r gytgan gan aelodau eraill y criw. Byddai rhythm y gân yn cynorthwyo wrth wneud y gwaith ar y llong, fel rheol tynnu rhaff, gyda'i gilydd. Dan arweiniad llafarganu'r siantïwr, a safai ar flaen y rhaff, byddai'r morwyr yn ateb ac yn halio ar y cyd ar le penodol yn y gân. Tynnodd y tonau'n aml ar faledi, caneuon gwerin, ac alawon poblogaidd eraill. Cenid ar gyflymder a oedd yn addas i'r gwaith wrth law, a gallai'r siantïwr cyfansoddi'r dôn a'r geiriau ar y pryd er mwyn estyn hyd y sianti i gyflawni'r dasg.[4] Mae geiriau siantïau yn ymwneud â bywydau morwyr, mordeithiau, llongau, y capten, a merched.

Sianti
Enghraifft o'r canlynolgenre gerddorol, song type Edit this on Wikidata
Mathwork song, sailor song Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Rhennir siantïau yn dri prif fath, yn cyfateb i'r gwaith ar fwrdd y llong:

  • Sianti fer, caneuon syml ar gyfer ychydig o haliadau;
  • Sianti'r hwylraff, gyda rhythm o dynnu ac ymlacio ar gyfer tasgau megis codi'r hwyliau;
  • Sianti'r capstan neu sianti'r ddirwynlath, i gydamseru camau'r morwyr, er enghraifft wrth godi'r angor.[4]

Tardda'r enw sianti, trwy'r ffurfiau Saesneg shanty, chantey a chanty, o'r Ffrangeg chanter, sef "canu".

Siantis yn Gymraeg golygu

Cyfansoddwyd a chyfieithwyd llawer o siantis Cymraeg gan John Glyn Davies, megis y rhai sy'n ymwneud â Fflat Huw Puw.[5][6]

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  sianti. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 26 Medi 2023.
  2. Geiriadur yr Academi, "shanty".
  3.  siantïwr. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 26 Medi 2023.
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) shanty. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Medi 2023.
  5. Jones, Cledwyn (2003). Mi wisga'i gap pig gloyw: John Glyn Davies, 1870 - 1953 ; shantis, caneuon plant a cherddi Edern. Caernarfon: Gwasg Pantycelyn. ISBN 978-1-903314-56-2.
  6. Davies, John Glyn. Fflat Huw Puw a Cherddi Eraill. Y Lolfa. ISBN 978-1-800993-02-0.