Term a fathwyd yn yr 1980au oedd Sîn Roc Gymraeg a ddaeth i ddisgrifio is-ddiwylliant cerddoriaeth roc a pop Cymraeg oedd hefyd yn cynnwys rhwydwaith o gyngerddau, ffansîns, a labeli cerddoriaeth. Arddelwyd sillafiad Gymraeg o'r gair Saesneg 'scene' i ddisgrifio'r diwylliant.

Sîn Roc Gymraeg
Dyddiad1967 Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Siôn Sebon & Rhys Mwyn, grŵp Yr Anhrefn un o hoelion wyth y SRG yn yr 1980au a 90au

Gellir trafod â yw'r term yno i ddisgrifio is-ddiwylliant canu pop Cymraeg â ddechreuwyd gyda sefydlu grŵp Y Blew gan fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn 1967 ac yna'r grwpiau trydanol fel Edward H. Dafis, Brân, Hergest, Geraint Jarman a llu eraill a ddilynodd a sefydlu Recordiau Sain yn 1969. Dyna ddadansoddiad fideo ar hanes canu pop Cymraeg, SRG (Hanes y Sîn Roc Gymraeg) ar sianel Hansh yn 2021. Mae'r disgrifiad yma yn cynnwys pob genre gerddorol gyfoes, heblaw gwerin a chlasurol. Yn ddiddorol mae'r fideo yn bwydo fewn i'r ddadl os yw canu yn Gymraeg yn 'genre' gan ddweud "dydy 'Welsh' neu 'Cymraeg' ddim yn genre".[1] Ceir eraill sy'n ystyried pob canu pop Cymraeg o'r Blew ymlaen yn rhan o'r Sîn Roc Gymraeg. Rhestrodd Dafydd Orritt artistiaid megis Endaf Emlyn, Caryl Parry Jones, Meic Stephens a Bryn Fôn fel rhan o'r SRG.[2]

Geni'r term

golygu

Ymddengys i'r term Sîn Roc Gymraeg cael ei bathu yng nghanol yr 1980au gyda dyfodiad grŵpiau fel Yr Anhrefn, Y Cyrff, Datblygu a Tynal Tywyll a oedd yn cyd-fynd â ymchwydd mewn ffansîns a cherddoriaeth a alwyd yn 'tanddaearol' ar y pryd. Roedd yn wrthbwynt i'r grwpiau a'r caneuon a oedd yn cael eu (honedig) ffafrio a llwyfannu ar BBC Radio Cymru ac S4C. Un o hyrwyddwyr mwyaf y SRG fel cysyniad oedd Rhys Mwyn. Er nad oedd y term 'Sîn Roc Gymraeg' yn cael ei harddel yn yr 1980au cynnar roedd y syniad o fudiad a diwylliant roc Gymraeg yn gryf a bu sawl ton. Yn ôl Rhys Mwyn byddai'r sîn "wedi marw" yng nghanol yr 1980au oni bai i grwpiau fel Maffia Mr Huws chwarae 100 o gigs y flwyddyn a dod ag egni i'r sîn.[3]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "SRG (Hanes y Sîn Roc Gymraeg)". Hansh. 2021.
  2. Orritt, Dafydd (22 Ionawr 2021). "Taith trwy'r Degawdaau: Sîn Roc Gymraeg". Quench.
  3. "Mae'n bryd bywiogi'r sin roc Cymraeg canol-oed". The Free Library. 2013.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato