Siliguri
Dinas yn nhalaith Gorllewin Bengal, gogledd-ddwyrain India, yw Siliguri (Bengaleg: শিলিগুড়ি Shiliguṛi). Mae'r ddinas yn datblygu'n gyflym ac mae ganddi boblogaeth o tua 700,000 erbyn hyn. Mae'n gorwedd yn yr hyn a adnabyddir fel "Coridor Siliguri", llain gyfyng o dir isel sy'n gorwedd rhwng taleithiau'r gogledd-ddwyrain (Assam ac eraill) a gweddill India, gyda bryniau Darjeeling yn gorwedd i'r gogledd a gwastadeddau Bangladesh i'r de-ddwyrain. Mae'n ganolfan cludiant bwysig iawn gyda gwasanaethau awyr, rheilffordd a ffyrdd i Nepal, talaith Indiaidd Sikkim, Bhwtan a Bangladesh. Dyma hefyd ganolfan fasnachol y rhan yma o Orllewin Bengal.
Math | municipal corporation of West Bengal, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 294,546, 218,718 |
Cylchfa amser | UTC+05:30 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Siliguri subdivision |
Gwlad | India |
Arwynebedd | 41.9 km² |
Uwch y môr | 400 metr |
Cyfesurynnau | 26.72°N 88.42°E |
Cod post | 734001 |
Mae Siliguri yn rhan o Ardal Darjeeling, ac er bod Siliguri yn fwy ei maint a'i phoblogaeth o lawer na Darjeeling mae canolfan weinyddol yr Ardal yn y ddinas honno.
Oddi yma mae'r "Trên Tegan" byd-enwog yn cychwyn ar ei thaith i fyny trwy'r bryniau i Ddarjeeling. Siliguri sy'n cysylltu brynfeydd Gangtok, Kalimpong, Kurseong, Mirik a Darjeeling gyda gwedill India. Llifa Afon Mahananda heibio i'r ddinas. Er ei bod yn isel mewn cymhariaeth â'r bryniau, ceir nifer o erddi te yn y wlad o gwmpas Siliguri.
Lleolir gorsaf reilffordd Siliguri yn New Jalpaiguri, sy'n ei chysylltu â dinasoedd Kolkata, Guwahati, Delhi Newydd, a lleoedd eraill.