Sinéad O'Connor
Cantores o Iwerddon oedd Shuhada' Sadaqat (ganwyd Sinéad Marie Bernadette O'Connor, 8 Rhagfyr 1966 – 26 Gorffennaf 2023)[1]. Daeth i amlygrwydd byd-eang yn 1990 gyda'i chân "Nothing Compares 2 U", oedd wedi ei chyfansoddi gan yr artist Prince.
Sinéad O'Connor | |
---|---|
Ganwyd | Sinéad Marie Bernadette O'Connor 8 Rhagfyr 1966 Glenageary, Dulyn |
Bu farw | 26 Gorffennaf 2023 o clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, asthma, respiratory tract infection Llundain |
Man preswyl | Knockananna, Dalkey, Bré, Llundain |
Label recordio | Chrysalis Records, Ensign Records, Vanguard Records, One Little Independent Records, Nettwerk |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, gitarydd, offeiriad, actor, cyfansoddwr, cerddor, canwr roc, canwr |
Adnabyddus am | Nothing Compares 2 U |
Arddull | roc amgen, roc poblogaidd, reggae, roc gwerin, college rock, roc Geltaidd, indie pop |
Math o lais | mezzo-soprano |
Prif ddylanwad | Bob Dylan |
Tad | John O’Connor |
Priod | John Reynolds, Nick Sommerlad, Steve Cooney, Barry Herridge |
Partner | Peter Gabriel, Richard Heslop, John Waters, Dónal Lunny, Frank Bonadio |
Plant | Jake Reynolds, Roisin Waters, Shane O'Connor Lunny, Yeshua Bonadio |
Gwobr/au | Rockbjörnen, Gwobr Gerdd Billboard, Gwobr Gerdd Billboard, MTV Video Music Award for Video of the Year, MTV Video Music Award for Best Post-Modern Video, Grammy Award for Best Alternative Music Performance, BRIT Award for International Female Solo Artist, Goldene Europa, World Soundtrack Award for Best Original Song Written Directly for a Film, Choice Music Prize, CASBY Award |
Gwefan | https://www.sineadoconnor.com/ |
Fe ryddhaodd ddeg albwm stiwdio. Cafodd record aur yn y DU gyda'i albymau Am I Not Your Girl? (1992) a Universal Mother (1994),[2] roedd Faith and Courage (2000) yn record aur yn Awstralia,[3] ac roedd Throw Down Your Arms (2005) yn record aur yn Iwerddon.[4] Roedd ei gwaith yn cynnwys caneuone ar gyfer ffilm, cydweithio gyda sawl artist arall ac ymddangosiadau mewn cyngherddau elusennol. Cyhoeddoedd gofiant llwyddiannus Rememberings yn 2001.[5]
Bywyd personol
golyguPriododd ac ysgarodd O'Connor bedair gwaith. Cafodd ei mab cyntaf, Jake, yn 1987, gyda'r cynhyrchydd recordiau John Reynolds, a cyd-gynhyrchodd nifer o'i albymau cynnar.[6] who co-produced several of her albums, including Universal Mother. Priododd y ddau yn 1989.[7] Yr un flwyddyn cafodd O'Connor erthyliad ar ôl i'r berthynas gyda'r tad ddod i ben. Ysgrifennodd y gân "My Special Child" am y profiad.[8]
Yn fuan wedi genedigaeth ei merch Brigidine Roisin Waters ar 10 Mawrth 1996, cychwynodd O'Connor a tad y ferch, y newyddiadurwr Gwyddelig John Waters, frwydr hir am warchodaeth y plentyn. Yn y pendraw cytunodd i adael Roisin fyw yn Nulyn gyda Waters.[9][7][6] Yn Awst 2001, priododd y newyddiadurwr Prydeinig Nick Sommerlad yng Nghymru; daeth y brodias i ben yng Ngorffennaf 2002.[10][6] Cafod ei thrydydd plentyn, ei mab Shane yn 2004, gyda'r cerddor Donal Lunny.[6][7] Yn 2006, cafodd ei phedwerydd plentyn, Yeshua Francis Neil Bonadio, a'r tad oed Frank Bonadio.[11][12]
Priododd O'Connor am y trydydd tro ar 22 Gorffennaf 2010, i hen ffrind a chydweithiwr Steve Cooney,[13][14] ac yn Mawrth 2011, penderfynodd y ddau i wahanu.[15] Roedd ei pedwerydd priodas i'r therapydd Gwyddelig Barry Herridge. Priododd y cwpl ar 9 Rhagfyr 2011, yn Las Vegas, ond gorffennodd y briodas ar ôl iddynt "fyw gyda'i gilydd am 7 diwrnod yn unig".[16] Yr wythnos ganlynol, ar 3 Ionawr 2012, cyhoeddodd O'Connor negeseuon ar y we yn dweud fod y cwpl wedi aduno.[17]
Newidiodd ei henw i Shuhada' Sadaqat yn 2018 ar ôl troi at Islam.
Roedd dioddef cyfnodau o anhwylderau iechyd corfforol a meddyliol yn ystod ei bywyd. Bu farw ei mab Shane yn 17 oed ym mis Ionawr 2022.[7]
Marwolaeth
golyguCanfuwyd O'Connor yn farw yn ei chartref ar 26 Gorffennaf 2023, yn 56 mlwydd oed.[18] Cafwyd datganiad gan ei theulu yn cadarnhau ei bod wedi marw, heb ddatgan achos y farwolaeth.[19][20]
Disgyddiaeth
golygu- 1987: The Lion and the Cobra
- 1990: I Do Not Want What I Haven't Got
- 1992: Am I Not Your Girl?
- 1994: Universal Mother
- 1997: Gospel Oak (EP)
- 2000: Faith and Courage
- 2002: Sean-Nós Nua
- 2005: Throw Down Your Arms
- 2007: Theology
- 2012: How About I Be Me (and You Be You)?
- 2014: I'm Not Bossy, I'm the Boss
- I ddod: No Veteran Dies Alone
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Y gantores Sinéad O'Connor wedi marw'n 56 oed". newyddion.s4c.cymru. 2023-07-26. Cyrchwyd 2023-07-26.
- ↑ "Certified Awards Search". www.bpi.co.uk (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Ionawr 2013. Cyrchwyd 2 Chwefror 2011.
- ↑ "ARIA Charts – Accreditations – 2000 Albums". Cyrchwyd 20 Ionawr 2015.
- ↑ "2005 Certification Awards" (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Chwefror 2011.
- ↑ Martin Chilton. "Books of the Month: From Sinead O'Connor's Rememberings to Lisa Taddeo's Animal". The Independent. June 2021. Retrieved 31 Mai 2022.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 6.3 "Sinead O'Connor Biography: Songwriter, Singer (1966–)" (yn Saesneg). Biography.com (FYI / A&E Networks). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 November 2015. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2015.
- ↑ 7.0 7.1 7.2 7.3 Retter, Emily (17 Mai 2016). "Sinead O'Connor says she has 'lost it all' after suicide alert". Mirror (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd 5 Ebrill 2018.
- ↑ Guccione Jr., Bob (18 September 2015). "Sinéad O'Connor: SPIN's 1991 Cover Story, 'Special Child'" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mai 2019. Cyrchwyd 22 Mai 2019.
- ↑ "Daughter born to Sinead O'Connor". The Irish Times (yn Saesneg). 1996-03-11. Cyrchwyd 2023-03-03.
- ↑ Farrell, Paul (December 8, 2018). "Sinead O'Connor's husbands: Who has the Irish singer been married to?". Irish Central (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Rhagfyr 2018. Cyrchwyd May 23, 2023.
- ↑ "Sinéad O'Connor welcomes fourth child". People (yn Saesneg). 28 Rhagfyr 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Medi 2015. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2015.
- ↑ "Introducing Yeshua Francis Neil Bonadio" (yn Saesneg). 5 Ionawr 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mai 2014. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2015.
- ↑ "Sinéad O'Connor marries for third time". RTÉ ten (yn Saesneg). Raidió Teilifís Éireann. 23 Gorffennaf 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Gorffennaf 2010. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2010.
- ↑ "It's third time unlucky for Sinead as she ends marriage". Irish Independent (yn Saesneg). 11 Ebrill 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Ebrill 2011. Cyrchwyd 11 Ebrill 2011.
- ↑ "Sinead O'Connor's third marriage breaks up" (yn Saesneg). 14 Ebrill 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Chwefror 2012. Cyrchwyd 7 Rhagfyr 2011.
- ↑ "Sinéad O'Connor" (official website). 26 Rhagfyr 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Rhagfyr 2011. Cyrchwyd 26 Rhagfyr 2011.
- ↑ "Nothing compares to you after all: Sinead O'Connor reunites with 4th husband of 16 days" (yn en), Irish Independent, 4 Ionawr 2012, http://www.independent.ie/lifestyle/independent-woman/celebrity-news-gossip/nothing-compares-to-you-after-all-sinead-orsquoconnor-reunites-with-4th-husband-of-16-days-2979887.html, adalwyd 5 Ionawr 2012
- ↑ Sullivan, Caroline (26 Gorffennaf 2023). "Sinéad O'Connor obituary". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2023.
- ↑ Burns, Sarah (26 July 2023). "Sinéad O'Connor, acclaimed Dublin singer, dies aged 56". The Irish Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2023.
- ↑ "Singer Sinéad O'Connor dies aged 56". RTE (yn Saesneg). 26 Gorffennaf 2023.