Siobyn cynffon felen
Euproctis similis | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Lymantriidae |
Genws: | Euproctis |
Rhywogaeth: | E. similis |
Enw deuenwol | |
Euproctis similis (Fuessly, 1775) | |
Cyfystyron | |
|
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw siobyn cynffon felen, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy siobynnau cynffon felen; yr enw Saesneg yw Yellow-tail, a'r enw gwyddonol yw Euproctis similis.[1][2] Mae i'w gael drwy Ewrop gyfan.
35–45 mm ydy cyfartaledd lled ei adenydd agored, ac mae adenydd y fenyw yn fwy na'r gwryw. Mae'n hedfan yn y nos yng Ngorffennaf ac Awst.
Mae'r siani flewog yn bwyta dail coed megis derwen, helygen a'r wernen.
Yr oriel
golygu-
Siani flewog
-
Darlun o siani flewog
-
Darlun o oedolyn
-
♂
-
♀
Cyffredinol
golyguGellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r siobyn cynffon felen yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.