Laelia coenosa
Gwryw (top); benyw (gwaelod)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Lymantriidae
Genws: Laelia
Rhywogaeth: L. coenosa
Enw deuenwol
Laelia coenosa
Hübner, 1808

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw siobyn y cyrs, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy siobynnau'r cyrs; yr enw Saesneg yw Reed Tussock, a'r enw gwyddonol yw Laelia coenosa.[1][2] Mae i'w ganfod yng Ngogledd Affrica, de a chanol Ewrop, drwy Rwsia a dwyrain Asia hyd at Japan.

Darlun allan o lyfr John Curtis: British Entomology Volume 5

35–50 mm ydy lled adenydd agored y siobyn yma ac fe'i welir yn hedfan rhwng Gorffennaf ac Awst.

Prif fwyd y siani flewog ydy mathau o Phragmites australis a Phragmites communis, Festuca, Carex a Cladium.

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r siobyn y cyrs yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.