Sister Rosetta Tharpe
Cantores, gitarydd ac artist recordio Americanaidd yn genre'r efengyl ddu oedd Sister Rosetta Tharpe (20 Mawrth 1915 - 9 Hydref 1973). Ei enw llwyfan oedd 'Sister Rosetta Tharpe'; fe'i ganed yn Rosetta Nubin, yn ferch i Katie Bell Nubin a Willis Atkins, y ddau yn gasglwyr cotwm yn Cotton Plant, Arkansas. Fodd bynnag, mae'r ymchwilwyr Bob Eagle ac Eric LeBlanc o'r farn mai ei henw pan anwyd hi oedd Rosether Atkins (neu Atkinson).[1] Ychydig a wyddom am ei thad, heblaw ei fod yn ganwr. Roedd mam Tharpe, Katie, hefyd yn gantores ac yn chwarae'r mandolin, yn efengylydd, ac yn pregethu i Eglwys Duw yng Nghrist (COGIC), a sefydlwyd ym 1894 gan Charles Harrison Mason, esgob du Pentecostalaidd, a oedd yn annog mynegiant cerddorol rhythmig, yn dawnsio wrth foli a chaniatáu i fenywod ganu ac addysgu yn yr eglwys. Wedi'i hysbrydoli gan ei mam, dechreuodd Rosetta fach ganu a chwarae'r gitâr pan oedd yn bedair oed, a daeth i'w gweld fel rhyfeddod cerddorol.[2][3]
Sister Rosetta Tharpe | |
---|---|
Ffugenw | Rosetta Nubin, Rosetta Tharp |
Ganwyd | 20 Mawrth 1915 Cotton Plant |
Bu farw | 9 Hydref 1973 Philadelphia |
Man preswyl | Chicago, Dinas Efrog Newydd |
Label recordio | Decca Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | cerddor, canwr, gitarydd, gitarydd jazz, gospel singer |
Arddull | y felan, cerddoriaeth yr efengyl, rhythm a blŵs, jazz, roc a rôl |
Prif ddylanwad | Little Richard |
Gwobr/au | Rock and Roll Hall of Fame, Arkansas Black Hall of Fame, Arkansas Entertainers Hall of Fame |
Daeth Sister Rosetta Tharpe i boblogrwydd yn y 1930au a'r 1940au gyda'i recordiadau efengyl, a oedd wedi'i nodweddu gan gymysgedd o eiriau ysbrydol a chyfeiliant rhythmig; roedd yn rhagflaenydd i gerddoriaeth roc a rôl. Hi oedd seren gyntaf cerddoriaeth yr efengyl ac y mae ymhlith y cerddorion efengyl cyntaf i apelio at gynulleidfaoedd rhythm a blŵs a roc a rôl, a chyfeiriwyd ati yn ddiweddarach fel 'y "soul sister" wreiddiol' a "the Godmother of rock and roll".[2][3][4][5][6] Dylanwadodd ar gerddorion roc a rôl cynnar, gan gynnwys Little Richard, Johnny Cash, Carl Perkins, Chuck Berry, Elvis Presley a Jerry Lee Lewis .[7][8][9]
Roedd Tharpe yn arloesydd gyda'i thechneg gitâr; roedd hi'n un o'r artistiaid recordio poblogaidd cyntaf i ddefnyddio afluniad trwm ar gitâr drydan, gan ragweld cynnydd y blŵs "eletric blues" . Cafodd ei thechneg chwarae gitâr ddylanwad mawr ar ddatblygiad "British blues" yn y 1960au; yn arbennig ei thaith Ewropeaidd gyda Muddy Waters ym 1963 a oedd yn cynnwys ymweliad â Manceinion, un a gyfeiriwyd ato gan gitaryddion blaenllaw fel Eric Clapton, Jeff Beck, a Keith Richards .[10]
Gyda'i pharodrwydd i groesi'r ffin rhwng y cysegredig a'r seciwlar drwy berfformio ei cherddoriaeth "olau" yn "nhywyllwch" clybiau nos a neuaddau cyngerdd gyda bandiau mawr y tu ôl iddi, gwthiodd Tharpe gerddoriaeth ysbrydol i'r brif ffrwd a bu ei chyfrannodd at gynnydd cerddoriaeth efengyl bop, gan ddechrau yn 1938 gyda'r recordiad "Rock Me" a'i darllediad o "The Train " yn 1939.[2][11] Gadawodd ei cherddoriaeth unigryw farc parhaol ar artistiaid Efengylaidd mwy confensiynol fel Ira Tucker, Sr, o'r Dixie Hummingbirds. Tra ei bod wedi tramgwyddo rhai o eglwyswyr ceidwadol trwy fentro i'r byd pop, ni adawodd erioed gerddoriaeth yr efengyl.
Cafodd ei recordiad yn 1944 o “Down by the Riverside ” ei ddewis ar gyfer y Gofrestrfa Recordio Genedlaethol Llyfrgell Gyngres yr Unol Daleithiau yn 2004, am ei fod yn “dangos ei chwarae gitâr ysbrydoledig a'i steil lleisiol unigryw, gan ddangos yn glir ei dylanwad ar berfformwyr rhythm a blŵs cynnar" a chyfeiriwyd at ei dylanwad ar "lawer o artistiaid yr efengyl, jazz, a roc ".[12] (Cafodd “Down by the Riverside” ei recordio gan Tharpe yn Ninas Efrog Newydd ar 2 Rhagfyr 1948, a'i gyhoeddi fel sengl Decca 48106).[13] Cafodd ei chân " Strange Things Happening Every Day " ei recordio yn 1945, ac mae'n cynnwys llais Tharpe a gitâr drydan, gyda Sammy Price (ar y piano), bas a drymiau. Hwn oedd y recordiad efengyl cyntaf i groesi drosodd, gan gyrraedd rhif 2 yn y siart "race records " y cylchgrawn Billboard, a ddaeth i'w adnabod yn Ebrill 1945 fel y siart R&B.[14][15] Cyfeiriwyd at y recordiad fel rhagflaenydd roc a rôl.[8] Ar 13 Rhagfyr 2017, dewiswyd Tharpe i'w chynnwys yn y "Rock and Roll Hall of Fame" fel 'Dylanwad Cynnar'.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Eagle, Bob; LeBlanc, Eric S. (2013). Blues - A Regional Experience. Santa Barbara: Praeger Publishers. t. 158. ISBN 978-0313344237.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Sister Rosetta Tharpe (2015). "Sister Rosetta Tharpe". AllMusic. Cyrchwyd March 23, 2015.
- ↑ 3.0 3.1 "Sister Rosetta Tharpe". Last.fm. 2015. Cyrchwyd March 23, 2015.
- ↑ McNeil, William K.; Buckalee, Terry. "'Sister Rosetta' Tharpe (1915–1973)". encyclopediaofarkansas.net. Cyrchwyd August 22, 2015.
- ↑ "Godmother of Rock and Roll: Sister Rosetta Tharpe". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-02-08. Cyrchwyd August 8, 2015.
- ↑ Wald, Gayle. Gweiddi, chwaer, gweiddi! t. vii.
- ↑ "Sister Rosetta Tharpe". Rock & Roll Hall of Fame (yn Saesneg). 2018. Cyrchwyd 2018-02-04.
- ↑ 8.0 8.1 DeLuca, Dan (February 26, 2007). "Sister Rosetta Tharpe got rock rolling long before Elvis". PopMatters. Cyrchwyd March 23, 2015.
- ↑ "The Godmother of Rock & Roll: Sister Rosetta Tharpe". BBC Four. May 24, 2011. Cyrchwyd March 23, 2015.
- ↑ Long, Chris (7 May 2014). "Muddy Waters and Sister Rosetta Tharpe's 'mind-blowing' station show". BBC.com. Cyrchwyd 8 December 2017.
- ↑ "Sister Rosetta Tharpe". Rock & Roll Hall of Fame.
- ↑ "Librarian of Congress Names 50 Recordings to the 2004 National Recording Registry". Library of Congress. 2005. Cyrchwyd April 13, 2016.
- ↑ Hayes, Cedric; Laughton, Robert (2007). Gospel Records, 1943–1970 (arg. 2nd). t. 359. ISBN 9780968644584.
- ↑ Whitburn, Joel (2004). Top R&B/Hip-Hop Singles: 1942–2004. Record Research. t. 440.
- ↑ Ankeny, Jason (2015). "Sister Rosetta Tharpe : Biography". AllMusic. Cyrchwyd March 23, 2015.