Meddalwedd cyfathrebu sy'n eiddo i Microsoft yw Skype (neu weithiau Sgeip). Mae'n galluogi defnyddwyr i gyfathrebu â'i gilydd drwy feicroffon, gwe-gamera, a negeseua sydyn ar y Rhyngrwyd.

Skype
DatblygwrMicrosoft Skype Division
Rhyddhad
cychwynnol
Awst 2003 (2003-08)
Iaith rhaglennuEmbarcadero Delphi, Objective-C (iOS, Mac OS X), C++ gyda Qt (Linux)
system weithreduiOS, Windows XP, Windows Vista, Windows 7, Windows 8, Mac OS X, Windows Phone, Blackberry OS, HP WebOS, Symbian, Android a Linux
Cyfieithu parodNifer o ieithoedd
MathVoice over IP, negeseua sydyn, fideo gynhadledd
TrwyddedMeddalwedd, gydag ychwanegiadau tâl
Gwefanskype.com

Rhyddhawyd gyntaf yn 2003 gan y datblygwyr Ahti Heinla, Priit Kasesalu, a Jaan Tallinn, o Estonia,[1] a chafodd ei brynu gan Microsoft yn 2011 am $8.5 biliwn.[2] Heddiw lleolir pencadlys Skype yn Lwcsembwrg ond lleolir y rhan fwyaf o'r tîm datblygu a 44% o'r holl weithwyr yn Tallinn a Tartu, Estonia.[3][4]

Yn 2010 roedd gan Skype 663 miliwn o ddefnyddwyr cofrestredig.[5]

Er nad yw'r Gymraeg ymhlith yr ieithoedd sydd ar gael yn y fersiwn swyddogol, mae Microsoft wedi ei gwneud hi'n bosib i addasu iaith y rhyngwyneb oddi fewn i'r rhaglen. Yn Hydref 2013, cyhoeddwyd ffeil rhyngwyneb Cymraeg i Skype ar Windows gan Aled Powell. Mae'r ffeil ar gael i'w lawrlwytho am ddim ac yn cael ei diweddaru wrth i fersiynau newydd o Skype gael ei rhyddhau.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. Andreas Thomann (6 Medi 2006). "Skype – A Baltic Success Story". credit-suisse.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-07. Cyrchwyd 24 Chwefror 2008.
  2. BBC "Microsoft confirms takeover of Skype" Check |url= value (help). bbc.com. 10 May 2011. Cyrchwyd 6 Tachwedd 2012.
  3. "Skype employees". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-29. Cyrchwyd 2012-11-07.
  4. "http://blogs.skype.com/en/2011/10/acquisitionclose.html". Skyp.com. External link in |title= (help)
  5. "Skype grows FY revenues 20%, reaches 663 mln users".
  6. Aled Powell. "Newid Rhyngwyneb Skype i'r Gymraeg". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-02. Cyrchwyd 2 Chwefror 2015.

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: