Slapstic

dull o gomedi sy'n defnyddio hiwmor bras, sefyllfaoedd abswrd ac ystumiau a symudiad egnïol a gwyllt

Dull o gomedi gorfforol sy'n defnyddio hiwmor bras, sefyllfaoedd abswrd ac ystumiau a symudiad egnïol a gwyllt yw slapstic[1][2] neu gomedi golbio.[2]

Golygfa slapstic gyda Charlie Chaplin (chwith) yn y ffilm His New Job (1915).

Daw'r enw o'r ffon glec a gafodd ei chario gan yr harlecwin yn y commedia dell'arte a'i defnyddio i guro'r cymeriadau eraill – ar y pen ôl, gan amlaf – yn ogystal â chreu sŵn a'i chwifio megis hudlath. Gellir olrhain campau'r harlecwin i'r 16g, ond mae'r fath gomedi fras a ffars wedi bod yn boblogaidd ers dyddiau'r hen Roegiaid a'r Rhufeiniaid. Ymledodd y traddodiad hwn ar draws Ewrop, a châi'r "slapstic" ei ysgwyd gan mudchwaraewyr Ffrengig ac actorion pantomeim Seisnig fel ei gilydd. Yn y 19g, perfformiai actau tebyg gan ddigrifwyr y neuadd gerdd yng Ngwledydd Prydain a'r theatr fwrlésg yn Unol Daleithiau America.[3]

Yn oes gynnar y sinema, comedi gorfforol a jôcs gweledol oedd y prif os nid yr unig fath o ddigrifwch a allai ei ddangos mewn ffilmiau mud, gyda chyfeiliant cerddorol byw. Perfformwyr vaudeville oedd y mwyafrif o'r actorion yn y ffilmiau hyn, ac felly aeth yr enw slapstic draw o'r traddodiad theatr i fyd y darluniau byw. Daeth Charlie Chaplin, Harold Lloyd a Buster Keaton yn sêr byd-enwog am eu ffilmiau comedi, sydd yn dibynnu'n aml ar slapstic. Nodwedda comedi'r sinema fud gan olygfeydd rasio a siaso, cwympo a baglu, a gwneud llanast mewn modd dros ben llestri. Yn aml cafodd lluniau'r rasys eu cyflymu drwy droi'r camera yn llai na'r arfer, fel bod y cymeriadau yn rhedeg ar garlam gwyllt. Darganfyddwyd y dechneg hon gan Mack Sennett, a greodd ffilmiau'r Keystone Cops.[4] Dyfeisiodd Sennett hefyd yr arfer o gymeriadau'n taflu peis yn wynebau ei gilydd.[5] Weithiau byddai'r actorion yn ymgymryd â gweithgareddau go dreisgar, megis ymladd ac ymosod ar ei gilydd, ond fel rheol mae'r symudiadau a'r portread mor abswrd ac annisgwyliedig fel nad yw poen y cymeriadau yn rhoi taw ar chwerthin y gynulleidfa. Yn wir, afrealaeth y fath drais yw ffynhonnell yr hiwmor. Ni chafodd slapstic ei atal gan ddyfodiad y lluniau sain: parhaodd hen berfformwyr vaudeville megis Laurel a Hardy, y Brodyr Marx, a'r Three Stooges, i ddiddanu.

Mae'n rhaid i'r perfformiwr slapstic fod yn ddigrifwr, yn glown, yn acrobat, ac yn styntiwr. Er ei fod yn portreadu ei hunan yn wyllt ac yn anghelfydd, mae'n rhaid iddo feddu ar reolaeth osgeiddig o'i gorff ac amseru perffaith. Byddai nifer ohonynt yn gerddorion, consurwyr neu'n ystumwyr ac yn cyfuno'r doniau theatraidd hynny â'r act, er enghraifft Harpo Marx a'i delyn neu Tommy Cooper a'i driciau hud. Mae sawl yn gweld slapstic yn ffurf isel ei haeliau ar ddigrifwch, ac yn fath o ffwlbri sydd yn apelio at blant a'r diddiwylliant. Yn wir, mae slapstic yn goroesi'n amlycaf o flaen cynulleidfaoedd teuluol, megis y syrcas a sioeau Pwnsh a Jwdi. Eto oll, mae enwau sêr slapstic y sinema gynnar yn gyfarwydd hyd heddiw, a noder bod y goreuon ohonynt "wedi troi hiwmor isel yn gelfyddyd uchel".[6]

Cyfeiriadau golygu

  1.  slapstic. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 9 Ebrill 2018.
  2. 2.0 2.1 Geiriadur yr Academi, "slapstick".
  3. Tom Milne, "Slapstick" yn The Fontana Dictionary of Modern Thought, golygwyd gan Alan Bullock ac Oliver Stallybrass (Llundain: Fontana, 1977), t. 576.
  4. Tom Milne, "Keystone" yn The Fontana Dictionary of Modern Thought, golygwyd gan Alan Bullock ac Oliver Stallybrass (Llundain: Fontana, 1977), t. 331.
  5. Tom Milne, "Custard pie" yn The Fontana Dictionary of Modern Thought, golygwyd gan Alan Bullock ac Oliver Stallybrass (Llundain: Fontana, 1977), t. 150.
  6. (Saesneg) Slapstick. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Ebrill 2018.