Snow White and the Seven Dwarfs (ffilm 1937)

Ffilm animeiddiedig Disney yw Snow White and the Seven Dwarfs (1937). Mae hi'n seiliedig ar chwedl Eira Wen a'r Saith Corrach y Brodyr Grimm. Sylfaenwyd y ffilm ar chwedl Almaenig gan y Brodyr Grimm [1] ac mae'n garreg filltir bwysig ym myd y ffilm gan ei fod y cyntaf mewn sawl maes:

  • y ffilm nodwedd animeiddiedig hir cyntaf o America [2]
  • y ffilm digidol animeiddiedig cyntaf mewn lliw
  • y cyntaf i ddod allan o stabal Walt Disney (Walt Disney Productions)
  • y cyntaf gan Disney yn ei gyfres o Ffilmiau Clasur animeiddiedig.[3]
Snow White and the Seven Dwarfs

Poster Ffilm Wreiddiol
Cyfarwyddwr Wilfred Jackson
Cynhyrchydd Walt Disney
Ysgrifennwr Merrill De Maris
Serennu Adriana Caselotti
Lucille La Verne
Pinto Colvig
Roy Atwell
Cerddoriaeth Frank Churchill
Paul Smith
Leigh Harline
Golygydd Walt Disney
Dylunio
Cwmni cynhyrchu RKO Radio Pictures
Dyddiad rhyddhau 21 Rhagfyr, 1937 (premiere)
4 Chwefror, 1938\
Amser rhedeg 83 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
(Saesneg) Proffil IMDb

Plot

Mae Eira Wen yn dywysoges unig sy'n byw gyda'i llysfam sy'n beunes o Frenhines ofer. Mae'r Frenhines yn poeni y bydd Eira Wen yn harddach na hi, felly mae'n gorfodi Eira Wen i weithio fel morwyn cegin gefn. Mae gan y Frenhines Drych Hud, yn ddyddiol byddai'n holi'r drych "pwy yw'r un decaf oll?" Am flynyddoedd mae'r drych bob amser yn ateb mae'r Frenhines yw'r un decaf. Mae'r ateb yn ei phlesio. [4]

Un diwrnod, mae'r Drych Hud yn ateb cwestiwn y Frenhines trwy ateb mae "Eira Wen", bellach, "yw'r un decaf". Ar yr un diwrnod, mae Eira Wen yn cyfarfod ac yn syrthio mewn cariad â thywysog sy'n clywed hi'n canu. Mae'r Frenhines genfigennus yn gorchymyn i'w Heliwr fynd ag Eira Wen i'r goedwig a'i lladd. Mae hi'n mynnu ymhellach bod yr heliwr yn dychwelyd gyda chalon Eira Wen mewn blwch gemau fel prawf o'r weithred. Fodd bynnag, nid yw'r Heliwr yn fodlon i ladd Eira Wen. Mae'n gofyn yn ddagreuol am ei maddeuant, gan ddatgelu bod y Frenhines eisiau iddi farw ac yn ei hannog i ffoi i'r coedwig a pheidio byth ag edrych yn ôl. Ar goll ac yn ofnus, mae'r dywysoges yn cael ei chyfeillio gan greaduriaid y coetir sy'n ei harwain at fwthyn yn ddwfn yn y coedwig. Wrth ddod o hyd i saith cadair fach yn ystafell fwyta'r bwthyn, mae Eira Wen yn tybio bod y bwthyn yn gartref blêr i saith o blant amddifad. [5]

Mewn gwirionedd, mae'r bwthyn yn perthyn i saith corrach sy'n oedolion - o'r enw Doc, Grumpy, Happy, Sleepy, Bashful, Sneezy, a Dopey - sy'n gweithio mewn pwll diemwntau cyfagos. Wrth iddynt ddychwelyd adref, maent yn dychryn o ganfod bod y bwthyn yn lân a destlus. Maen nhw'n amau bod tresmaswr wedi meddiannu eu cartref. Mae'r corachod yn dod o hyd i Eira Wen i fyny'r grisiau, yn cysgu ar draws tri o'u gwelyau. Mae Eira Wen yn deffro ac yn canfod y corachod yn syllu arni wrth erchwyn y gwely. Mae Eira Wen yn cyflwyno'i hun i'r corachod, ac mae'r corachod yn ei chroesawu i'w cartref ar ôl iddi gynnig glanhau a choginio iddynt. Mae Eira Wen yn cadw tŷ i'r corachod wrth iddynt fwyngloddio am emau yn ystod y dydd, ac yn y nos maent i gyd yn canu, chwarae cerddoriaeth, a dawnsio. [6]

Mae'r Frenhines yn gofyn i'r Drych Hud eto "pwy yw'r un decaf oll?" Mae hi'n disgwyl i'r drych ateb mae'r Frenhines yw'r un decaf eto, gan fod Eira Wen yn farw. Mae hi'n cael braw pan fo'r drych yn ateb mai Eira Wen yw'r tecaf yn y tir o hyd ac yn datgelu bod y calon yn y blwch yn perthyn i fochyn.

Gan ddefnyddio diod hud mae'r frenhines yn newid ei wedd i un hen wraig dlawd. Mae'r Frenhines yn creu afal gwenwynig a fydd yn gwneud i bwy bynnag sy'n ei fwyta profi "Cwsg Marwol". Dim ond "cusan cariad gyntaf " gall torri'r felltith. Mae'n sicr bydd pwy bynnag sy'n canfod y dywysoges yn ei thrwmgwsg yn credu ei fod yn marw go iawn ac yn ei chladdu hi. Mae'r Frenhines yn mynd i'r bwthyn tra bod y corachod i ffwrdd wrth eu gwaith. Mae anifeiliaid y goedwig yn wyliadwrus ohoni ac yn rhuthro i ffwrdd er mwyn ddod o hyd i'r corachod. Gan ffugio trawiad ar y galon, mae'r Frenhines yn twyllo Eira Wen i fynd â hi i'r bwthyn i orffwys. Mae'r Frenhines yn twyllo Eira Wen i frathu'r afal gwenwynig trwy ffugio ei fod yn afal hud sy'n gwneud i ddymuniadau troi'n wir. Wrth i Eira Wen syrthio i gysgu, mae'r Frenhines yn cyhoeddi mai hi yw'r tecaf yn y tir eto. Mae'r corachod yn dychwelyd gyda'r anifeiliaid wrth i'r Frenhines adael y bwthyn. Mae'r corachod a'r anifeiliaid yn ymlid y Frenhines, gan ei thrapio ar glogwyn. Mae hi'n ceisio rholio maen fawr drostynt, ond mae mellten yn taro'r clogwyn cyn gall wneud hynny, gan achosi iddi gwympo i'w marwolaeth.

Mae'r corachod yn dychwelyd i'w bwthyn ac yn gweld Eira Wen yn ymddangos fel ei bod hi'n farw. Yn anfodlon ei chladdu allan o'r golwg yn y ddaear, maent yn ei gosod mewn arch gwydr mewn llannerch yn y goedwig. Mae creaduriaid y coetir a'r corachod yn cadw gwyliadwriaeth drosti. Flwyddyn yn ddiweddarach, mae'r tywysog yn dysgu am gwsg tragwyddol Eira Wen ac yn mynd i ymweld â'i arch. Wedi tristau gan ei marwolaeth ymddangosiadol, mae'n ei chusanu. Mae'r cusan yn torri'r felltith ac yn ei deffro. Mae'r corachod a'r anifeiliaid i gyd yn llawenhau wrth i'r Tywysog fynd ag Eira Wen i'w gastell. [7]

Cymeriadau

  • Snow White - Adriana Caselotti [8]
  • Y Frenhines - Lucille LaVerne [9]
  • Doc - Roy Atwell [10]
  • Grumpy - Pinto Colvig [11]
  • Happy - Otis Harlan [12]
  • Sleepy - Pinto Colvig
  • Bashful - Scotty Mattraw [13]
  • Sneezy - Billy Gilbert [14]
  • Dopey - Pinto Colvig
  • Y Tywysog - Harry Stockwell [15]
  • Y Drych - Moroni Olsen [16]
  • Yr Heliwr - Stuart Buchanan [17]

Caneuon

  • "I'm Wishing"
  • "One Song"
  • "With a Smile and A Song"
  • "Whistle While You Work"
  • "Heigh-Ho"
  • "Bluddle-Uddle-Um-Dum"
  • "The Silly Song"
  • "Someday My Prince Will Come"

Cynhyrchu

Dechreuodd datblygiad Snow White and the Seven Dwarfs ym 1934. Ym mis Mehefin 1934, cyhoeddodd Walt Disney ei fod am gynhyrchu y ffilm nodwedd gyntaf, i'w rhyddhau gan Walt Disney Productions yn The New York Times.

Cyn Snow White and the Seven Dwarfs, roedd stiwdio Disney wedi bod yn ymwneud yn bennaf â chynhyrchu rhaglenni ber animeiddiedig yn y gyfres Mickey Mouse a Silly Symphonies. Roedd Disney yn gobeithio ehangu bri a refeniw ei stiwdio trwy symud i ffilmiau nodwedd. Amcangyfrifodd y gallai Snow White and the Seven Dwarfs gael eu cynhyrchu am gyllideb o $250,000; roedd hyn ddeng waith yn fwy na chyllideb un o'r Silly Symphonies ar gyfartaledd.

Roedd Snow White and the Seven Dwarfs i fod y ffilm nodwedd animeiddiedig hyd lawn gyntaf yn hanes y byd ffilmiau. O'r herwydd bu'n rhaid i Walt Disney ymladd i gael cynhyrchu'r ffilm. Ceisiodd ei frawd a'i bartner busnes Roy Disney a'i wraig Lillian perswadio fo i roi'r gorau i'r prosiect. Bu'n rhaid iddo forgeisio ei dŷ i helpu i ariannu cynhyrchiad y ffilm, a gododd gyfanswm cost i $1,488,422.74 yn y pen draw, swm enfawr ar gyfer ffilm nodwedd ym 1937.

Derbyniad

Roedd y ffilm yn llwyddiant beirniadol aruthrol, gyda llawer o adolygwyr yn ei ystyried yn waith celf ddilys, ac yn ei argymhell ar gyfer plant ac oedolion. [18] Yn yr 11eg Gwobrau'r Academi, enillodd Walt Disney Wobr Anrhydeddus yr Academi am y ffilm "fel newyddbeth sylweddol ar gyfer y sgrin sydd wedi swyno miliynau ac wedi arloesi mewn maes adloniant newydd gwych". Derbyniodd Disney gerflun Oscar maint llawn a saith bach, a gyflwynwyd iddo gan yr actores 10 oed, Shirley Temple. Enwebwyd y ffilm hefyd am y Sgôr Gerddorol Orau.

Arweiniodd llwyddiant Snow White at Disney yn symud ymlaen gyda mwy o gynyrchiadau ffilm nodwedd. Defnyddiodd Walt Disney lawer o'r elw o Snow White a'r Seven Dwarfs i ariannu stiwdio newydd gwerth $4.5 miliwn yn Burbank - lle lleolir The Walt Disney Studios hyd heddiw. O fewn dwy flynedd, cwblhaodd y stiwdio Pinocchio a Fantasia ac roeddent wedi dechrau cynhyrchu ffilmiau nodwedd fel Dumbo, Bambi, Alice in Wonderland a Peter Pan.

Cyfeiriadau

  1. "SNOW WHITE AND THE SEVEN DWARFS", Music in Disney's Animated Features (University Press of Mississippi): pp. 56–78, ISBN 978-1-4968-1218-6, http://dx.doi.org/10.2307/j.ctv5jxpcg.8, adalwyd 2020-12-17
  2. Nusair, David. "Timeline of Animated Film History". LiveAbout. Cyrchwyd 2020-12-17.
  3. Smith, Dave. Disney A to Z, Third Edition, (2006), tudalen 33.
  4. Snow White and the Seven Dwarfs (1937) - IMDb, http://www.imdb.com/title/tt0029583/plotsummary, adalwyd 2020-12-17
  5. "Snow White and the Seven Dwarfs (1937) Movie Summary on MHM". Movie House Memories. 2017-04-15. Cyrchwyd 2020-12-17.
  6. "SuperSummary - Snow White". SuperSummary. Cyrchwyd 2020-12-17.
  7. "A Summary and Analysis of 'Snow White and the Seven Dwarfs'". Interesting Literature. 2017-06-29. Cyrchwyd 2020-12-17.
  8. "Adriana Caselotti". IMDb. Cyrchwyd 2020-12-17.
  9. "Lucille La Verne". IMDb. Cyrchwyd 2020-12-17.
  10. "Roy Atwell". IMDb. Cyrchwyd 2020-12-17.
  11. "Pinto Colvig". IMDb. Cyrchwyd 2020-12-17.
  12. "Otis Harlan". IMDb. Cyrchwyd 2020-12-17.
  13. "Scotty Mattraw". IMDb. Cyrchwyd 2020-12-17.
  14. "Billy Gilbert". IMDb. Cyrchwyd 2020-12-17.
  15. "Harry Stockwell". IMDb. Cyrchwyd 2020-12-17.
  16. "Moroni Olsen". IMDb. Cyrchwyd 2020-12-17.
  17. "Stuart Buchanan". IMDb. Cyrchwyd 2020-12-17.
  18. Flinn, John C (1937-12-29). "Snow White and the Seven Dwarfs". Variety. Cyrchwyd 2020-12-17.

Gweler Hefyd