Solomana Kante
Solomana Kante neu Souleymane Kante neu Solomana Kanté (1922 – 23 Tachwedd 1987) oedd awdur a sgolor Affricanaidd o Gini a dyfeisiwr y wyddor N'Ko ar gyfer yr ieithoedd Manding, Gorllewin Affrica. Golyga N'Ko "rwy'n dweud" yn holl continwwm ieithyddol y tafodieithoedd Manding. Mae'r contimiwwm Manding yn cynnwys tafodieithoedd a elwir yn Bambara, Bolon, Jula, Dioula, Mandinka yng ngwladwriaethau Mali, Gambia, Gini, Arfordir Ifori a gorllewin Bwrcina Ffaso.
Solomana Kante | |
---|---|
Ganwyd | 1922 Kankan, Q116694660 |
Bu farw | 23 Tachwedd 1987 Conakry |
Dinasyddiaeth | Gini |
Galwedigaeth | cyfieithydd, llenor |
Tad | Amara Kanté |
Mam | Diaka Keita |
Priod | Fanta Cissé, Fanta Bérété |
Hanai ei deulu o Mali ond ganed Kante ym mhentref Koloni ger Kankan yn Gini. Roedd Kante yn fab i athro ac yn fasnachwr yn y Traeth Ifori oedd yn rhan o ymerodraeth Ffrainc. Yn ôl y sôn yn 1943 cafodd noson o fyfyrio dwys yn sgil yr hyn a deimlai'n sarhad ar ieithoedd brodorol Affrica a'r farn Orllewinol ac o fewn cylchoedd Arabaidd bod yr Affricaniaid yn bobl 'di-ddiwylliant'. Yn ôl y sôn darllenodd Kante bod ysgolhaig o Libanus wedi honni nad oedd modd ysgrifennu mewn ieithoedd Affrica.
Creu'r Wyddor
golyguCeisiodd Kante drawsgrifio ei iaith gan ddefnyddio'r wyddor Arabaidd ac yna Lladin ond gwelodd nhw'n fethedig gan nad oeddynt yn gallu cymhathu gwahanol lafariaid na chwaith tôn sydd yn y tafodieithoedd Manding. Ond erbyn 1949 roedd wedi creu wyddor newydd at bwrpas trawsgrifio'r tafodieithoedd Manding. Dethlir 14 Ebrill fel 'Diwrnod y Wyddor' gan mai ar y diwrnod hwnnw yn 1949 y credir i Kante ffurfioli'r wyddor yn derfynol.
Defnyddiwyd N'Ko yn Kankan yn Gini i ddechrau ar gyfer Maninka ond mae wedi lledu i weddill y continwwm ieithyddol ar hyd Gorllewin Affrica.
Adwaenir N'Ko fel y wyddor a hefyd yr iaith 'safonol' ysgrifenedig a niwtral a ddefnyddir gan wahanol siaradwyr yr iaith. Mae'n ymdebygu i'r wyddor Arabaidd ac fe'i hysgrifennir, fel Arabeg ac Hebraeg, o'r dde i'r chwith.
Aeth Kante yn ei flaen i ysgrifennu bron i ddau cant o lyfrau yn y sgript newydd gan gyfieithu'r Coran, gwerslyfrau ffiseg a hanes, disgrifiadau o feddyginiaethau traddodiadol a barddoniaeth. Gwnaed hyn gan mwyaf â llaw, gyda'i ddilynwyr yn copïo'r testun â llaw hefyd gan nad oedd teipiaduron ar gael am beth amser yn defnyddio'r wyddor. Oherwydd cysylltiadau agos Gini ar y pryd â'r Bloc Comiwnyddol, llwyddwyd i greu dwy deipiadur yn defnyddio'r wyddor newydd yn Nwyrain Ewrop.
Cyhoeddodd hefyd yn helaeth ar ieithyddiaeth ac hanes yn yr iaith Ffrangeg, sef iaith drefedigaethol Gini.
Bu farw ar 23 Tachwedd 1987 ym mhrifddinas Gini, Conakry.
Ffynonellau
golygu- Conrad, David C. (2001). "Reconstructing Oral Tradition: Souleymane Kanté’s Approach to Writing Mande History". Mande Studies 3, 147-200.
- Kaba, Diaka Laye (1992). "Souleymane Kanté: l’inventeur de l’alphabet N’ko". L’Educateur: Trimestriel Pédagogique des Enseignants de Guinée 11-12, 33
- Kanté, Bourama (1996). "Souvenir de Kanté Souleymane". Somoya Sila: Journal Culturel de l'Association ICRA-N'KO 19.
- Kanté, Souleymane (1961). "Alphabet de la langue N’ko: ‘N’ko sebesun’." In Méthode pratique d’écriture N’ko. Kankan, reprinted by Mamady Keita (1995), Siguiri.
- Vydrine, Valentin, ed. (2001). "Lettres de Souleymane Kanté et Maurice Houis". Mande Studies 3, 133-146.
Dolenni
golygu- Rosenberg, Tina (New York Times, 9 Rhagfyr 2011). 'Everyone Speaks Text Message'
- Souag, Lameen (Blog Jabal al-Lughat, 25 Mai, 2005). 'N'Ko'
- N'ko Institute of America
- Osborn, Don (Blog Beyond Niamey, 9 Gorffennaf 2015). 'Where has that word been all these Years?'