N'Ko
Gwyddor yw N'Ko (ߒߞߏ) a ddyfeiswyd gan Solomana Kante yn 1949 ar gyfer yr ieithoedd Manding yng Ngorllewin Affrica. Mae hefyd yn enw ar yr iaith lenyddol safonol a ysgrifennir gan y wyddor hon. Golyga 'N'Ko' 'dywedaf' neu 'rwy'n dweud' yn holl ieithoedd Manding.
N'Ko | |
---|---|
Math | gwyddor |
Ieithoedd | N'Ko |
Crëwr | Solomana Kante |
Cyfnod | 1949 i'r presennol |
ISO 15924 | Nkoo, 165 |
Cyfeiriad | Dde-i'r-chwith |
Alias Unicode | NKo |
Ystod Unicode | U+07C0–U+07FF |
Mae i'r sgript N'Koeg beth debygrwyd i'r wyddor Arabeg, yn fwyaf amlwg, fe'i hysgrifennir o'r dde i'r chwith a'r ysgrifen yn 'glwm' neu'n 'sownd'. Yn wahanol i Arabeg, nid yw'r Abdaj (wyddor gytsain) ac mae'n cofnodi amrywiaeth tôn a llafariaid yr iaith Manding. Datblygwyd y wyddor N'Ko er mwyn ceisio cympasu yr continiwm tafodiaith Manding.
Ceir hefyd wyddor gynhenid arall yng ngorllewin Affrica, Adlam ar gyfer iaith neu gontiniwm iaith Fulani.
Hanes
golyguCrewyd Kante N'Ko fel ymateb i ragfarn pobl a gredai bod yr Affricaniaid yn ddi-ddiwylliant, gan na fodolai wyddor gynhenid Affricanaidd cyn hynny. Defnyddiwyd N'Ko i gychwyn yn ardal Kankan yn Ngweriniaeth Gini fel gwyddor Maninka, ac oddi yno lledaenodd i rannau eraill o Orllewin Affrica a siaradai dafodieithoedd yn y continiwm Manding. Dethlir 'Diwrnod Wyddor N'Ko' ar 14 Ebrill, gan mai ar y diwrnod hwnnw yn 1949 y credir i'r wyddor gael ei orffen[1].
Yr un pryd, esgorwyd ar fudiad i hyrwyddo llythrennedd ynddo ymysg siaradwyr Manding ar draws Affrica Ffrangeg a Saesneg eu hiaith. Mae'r wyddor wedi bod yn sylfaenol wrth siapio hunaniaeth ddiwylliannol Mandinka yn Gini ac mae wedi cryfhau hunaniaeth Mande mewn rhannau erail o Orllewin Affrica.[2]
Defnydd Cyfredol
golyguErbyn 2005, roedd y wyddor yn cael ei defnyddio, gan fwyaf, gan siaradwyr Maninka yn Gini a Dioula yn yr Arfordir Ifori a bod cymuned fywiog ym Mali gan siaradwyr Bambara. Nodir yma bod y cysyniad o iaith a thafodiaith yn Affrica yn gallu bod yn un niwlog gyda'r hyn a elwir yn dafodiaith yn Ewrop yn cael ei hadnabod fel iaith yn Affrica. Dylid cadw mewn cof ein bod yn trafod continiwm ieithyddol yma. Cymhariaeth debyg fyddai Almaeneg Awstria ac Almaeneg gogledd yr Almaen, lle gellid eu galw'n ddwy iaith ar wahân, neu Beyerisch yn Bafaria a Plattdeutsch yn Hamburg; gellir dweud fod siaradwyr wedi eu huno gan un iaith ysgrifenedig, safonol Hochdeutsch (yr hyn a alwn yn 'Almaeneg') a bod honno bellach yn iaith lafar safonol hefyd.
Ceir amrywiaeth eang o gyhoeddiadau yn N'Ko gan gynnwys y Coran, gwerslyfrau mewn ffiseg a daearyddiaeth, barddoniaeth a gwaith athronyddol, meddygyniaethau traddodiadol, gweiriaduron a sawl papur newydd lleol. Caiff ei disgrifio gan rai fel y sgript gynhenid mwyaf llwyddiannus yng Ngorllewin Affrica.[3]
Bwriedir i'r iaith a ddefnyddir fod yn koine h.y. yn plethu prif elfennau y continiwm Manding sy'n ddealladwy i bawb ond gyda gwedd Maninka leol, gref iddi. Yn hyn o beth mae'n debyg i'r rhan fwyaf o fersiynau gwahanol ieithoedd 'safonol'. Bydd siaradwr tafodiaith yn parhau i siarad eu tafodiaeth leol ond defnyddi N'Ko ar gyfer ysgrifennu.
Oherwydd addysg a diffyg rhaglenni sy'n cynnwys sgript N'Ko bydd siaradwyr tafodieithoedd Manding hefyd yn defnyddio'r wyddor Ladin (Bambara) ac Arabeg (Mandinka) yn Gambia a Senegal.
Defnydd
golyguYn 2011 dyfnyddiwyd N'Ko ochr yn ochr gyda'r iaith Ffrangeg swyddogol mewn cynllun peilot mewn ysgol yn Kiniebakoro.
Mae'r gyfres deledu antur boblogaidd Americanaidd, '24' wedi ei throsi i N'Ko a cheir ymdrechion i'w ffrydio ar ffonau symudol, sy'n allweddol at ddefnydd iaith yn Affrica yn arbennig gan bod gwasanaeth post yn annibynadwy a strwythurau teleffonau traddodiadol mor ddiffygiol.
Ceir bellach peth arwydd bod yr iaith ysgrifenedig yn cael ei harddel yn gyhoeddus ac wrth farchnata.
Gwelwyd rhywfaint o'r wyddor N'Ko yn y ffilm Ffrengig/Manika o Senegal, Wùlu[1] Archifwyd 2022-05-19 yn y Peiriant Wayback
Llythrennau
golyguYsgrifennir y wyddor N'Ko o'r dde i'r chwith gyda'r llythrennau'n cael eu cysylltu i'w gilydd fel yn Arabeg.
Llefariaid
golyguɔ | o | u | ɛ | i | e | a |
---|---|---|---|---|---|---|
ߐ | ߏ | ߎ | ߍ | ߌ | ߋ | ߊ |
Cytseiniaid
golygur | d | ch | j | t | p | b |
---|---|---|---|---|---|---|
ߙ | ߘ | ߗ | ߖ | ߕ | ߔ | ߓ |
m | l | k | f | gb | s | rr |
ߡ | ߟ | ߞ | ߝ | ߜ | ߛ | ߚ |
n' | y | w | h | n | ny | |
ߒ | ߦ | ߥ | ߤ | ߣ | ߢ | |
Tôn
golyguCeir dwy dôn wahanol yn Manding (fel y ceir 5 tôn yn Mandarin yn Tsieina). Nodir tôn mewn gair drwy roi diacritig uwch ben llefariad i nodi tôn neu hyd. Rhoir diacritig o dan llefariad i nodi trwynoli. Bydd tafodiaith Manding megis Bambara a siaredir fwyaf ym Mali hefyd yn defnyddio acenion wrth ysgrifennu yn y wyddor Ladin.
N'ko ar gyfrifiaduron
golyguMae trosglwyddo'r wyddor newydd o ysgrifennu â llaw i ffordd mwy mecanyddol ac haws i'w llenaenu, wedi bod yn her o'r cychwyn. Bu'n rhaid i ladmeryddion cynnar yr iaith gopio llyfrau â llaw, a bu'n rhaid aros nes derbyn dau deipiadur o Ddwyrain Ewrop Gomiwnyddol nes symud o'r dull hwnnw.
Gyda dyfodiad cyfrifiaduron daeth yn her i sicrhau bod N'Ko i'w cael arnynt yn ddiofyn a diffwdan. O'r 1990au ymlaen, gwelwyd ymdrechion i ddatblygu ffontiau a hyd yn oed cynnwys ar y we drwy addasu ffontiau a meddalwedd arall. Datblygwyd prosesydd geiriad MS-DOS a alwyd y Koma Kunda, gan yr Athro Baba Mamadi Diané o Brifysgol Cairo yn yr Aifft.[4] Ond roedd y diffyg rhyng-gymwysedd rhwng y datblygiad yma a thechnoleg arall yn lyfethair ar ei ddatblygiad.
Mae gan Pango 1.18 a GNOME 2.20 gefnogaeth cynhenid i'r iaith N'ko. Mae cyfrifiannell iOS mewn N'ko, N'ko:Calc, ar gael o storfa Apple app. Ceir hefyd app iOS app ar gyfer danfon ebyst mewn N'ko: Triage-N'ko. Ceir hefyd allweddell rithiol virtual-keyboard-nko Archifwyd 2018-06-11 yn y Peiriant Wayback i deipio nodau N'Ko yn system Gwasanaeth Windows.
Mae ffont N’Ko, Conkary, ar gael ar gyfer Windows 8, OS X, ac Open OfficeGraphite program, which was developed by SIL International.[5]
Unicode
golygu- Prif: NKo (Unicode block)
Ychwanegwyd sgript N'Ko script i'r Unicode Safonol yng Ngorffennaf 2006 gyda fersiwn 5.0.
Cefnogodd rhaglen Programme Initiative B@bel UNESCO y gwaith paratoi ar gyfer cais i godio N'Ko mewn i Unicode. Yn 2004, fe gymeradwywyd y cais, a gyflwynwyd gan dri Athro mewn N'KO (Baba Mamadi Diané, Mamady Doumbouya, a Karamo Kaba Jammeh) oedd yn gweithio gyda Michael Everson, gan grwp gweithredu ISO, WG2. Yn 2006 pasiwyd N'Ko ar gyfer Unicode 5.0.
Bloc Unicode ar gyfer N'Ko yw U+07C0–U+07FF:
NKo[1][2] Siart Swyddogol Consortiwm Unicode (PDF) | ||||||||||||||||
0 | 1 | 2 | 3 | 4 | 5 | 6 | 7 | 8 | 9 | A | B | C | D | E | F | |
U+07Cx | ߀ | ߁ | ߂ | ߃ | ߄ | ߅ | ߆ | ߇ | ߈ | ߉ | ߊ | ߋ | ߌ | ߍ | ߎ | ߏ |
U+07Dx | ߐ | ߑ | ߒ | ߓ | ߔ | ߕ | ߖ | ߗ | ߘ | ߙ | ߚ | ߛ | ߜ | ߝ | ߞ | ߟ |
U+07Ex | ߠ | ߡ | ߢ | ߣ | ߤ | ߥ | ߦ | ߧ | ߨ | ߩ | ߪ | ߫ | ߬ | ߭ | ߮ | ߯ |
U+07Fx | ߰ | ߱ | ߲ | ߳ | ߴ | ߵ | ߶ | ߷ | ߸ | ߹ | ߺ | |||||
Notes |
Yr iaith lenyddol
golyguN'ko | ||
---|---|---|
Siaredir yn | – | |
Rhanbarth | – | |
Cyfanswm siaradwyr | dim | |
Teulu ieithyddol | Manding koine | |
Codau ieithoedd | ||
ISO 639-1 | Dim | |
ISO 639-2 | nqo | |
ISO 639-3 | nqo | |
Wylfa Ieithoedd | – |
Mae llenyddiaeth mewn N'Ko yn datblygu fewn i iaith lenyddol a elwir yn kangbe 'iaith glir'. Seilir hi ar dafodiaeth gyfaddawd o sawl tafodiaith Manding. Bydd siaradwyr Mande yn denfyddio kangbe i gyfathrebu yn ysgrifenedig.[6] Er enghraifft, yr gair am 'enw' yn nhafodiaith Bamanan yw tɔgɔ ac yn Maninka dywedir, toh. Wrth ysgrifennu bydd siaradwyr y ddwy dafodiaeth yn ysgrifennu tô mewn N’Ko, ond gan ddarllen ac yngannu'r gair yn ei tafodiaith ei hunain. Mae hyn yn debyg i siaradwyr Cymraeg yn ysgriennu 'chwarae' ond yn llefaru 'chwara' neu 'chware' yn ôl eu tafodiaith ei hunain.
N'Ko mewn Ffilm
golyguCeir defnydd o'r wyddor yn y ffilm Ffrengig-Mali, 'Wùlu' (2016). Gwelir y wyddor ar deitlau agoriadol y ffilm. Mae'r ffilm yn gwneud defnydd o ddeialog Bambara a Ffrangeg. Gwelir defnydd clir o diglosia yn y ffilm rhwng y Ffrangeg a'r Bambara.
Ffynonellau
golygu- Condé, Ibrahima Sory 2. Soulemana Kanté entre Linguistique et Grammaire : Le cas de la langue littéraire utilisée dans les textes en N’ko Archifwyd 2012-11-20 yn y Peiriant Wayback
- Conrad, David C. (2001). Reconstructing Oral Tradition: Souleymane Kanté’s Approach to Writing Mande History. Mande Studies 3, 147-200.
- Dalby, David (1969) 'Further indigenous scripts of West Africa: Mandin, Wolof and Fula alphabets and Yoruba 'Holy' writing', African Language Studies, 10, pp. 161–181.
- Davydov, Artem. On Souleymane Kanté's "Nko Grammar" Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback
- Everson, Michael, Mamady Doumbouya, Baba Mamadi Diané, & Karamo Jammeh. 2004. Proposal to add the N’Ko script to the BMP of the UCS
- Oyler, Dianne White (1994) Mande identity through literacy, the N'ko writing system as an agent of cultural nationalism. Toronto : African Studies Association.
- Oyler, Dianne (1995). For ‘All Those Who Say N'ko’ N'ko Literacy and Mande Cultural Nationalism in the Republic of Guinea. Unpublished Ph.D. dissertation, University of Florida.
- Oyler, Dianne White (1997) 'The N'ko alphabet as a vehicle of indigenist historiography', History in Africa, 24, pp. 239–256.
- Singler, John Victor (1996) 'Scripts of West Africa', in Daniels, Peter T., & Bright, William (eds) The World's Writing Systems, New York, NY: Oxford University Press, Inc. pp. 593–598.
- Vydrine, Valentin F. (2001) 'Souleymane Kanté, un philosophe-innovateur traditionnaliste maninka vu à travers ses écrits en nko', Mande Studies, 3, pp. 99–131.
- Wyrod, Christopher. 2008. A social orthography of identity: the N’ko literacy movement in West Africa. International Journal of the Sociology of Language 192:27-44.
- B@bel and Script Encoding Initiative Supporting Linguistic Diversity in Cyberspace 12-11-2004 (UNESCO)
Dolenni allanol
golygu- N'Ko Institute
- Kanjamadi
- Observations on the use of N'ko
- Omniglot page on N'ko, with more links
- Nkohome, N'ko tutorial site with information on N'ko publications and contacts
- Information about Manding languages
- An introduction to N'Ko
- "Casablanca Statement" (on localization of ICT) translated & written in N'Ko
- PanAfriL10n page on N'Ko
- Translation of the Meaning of the Holy Quran in N'ko
- Everyone Speaks Text Message (Tina Rosenberg, New York Times Magazine, Dec. 11, 2011)
- N'Ko ('N'Ko', Blog Jabal al-Lughat, gan Lameen Souag, 25 Mai 2005)
- Association Manden, gwefan Ffrangeg am yr iaith a'r wyddor
- How to write the N'ko alphabet (ߒߞߏ) of West Africa: A tutorial! cyflwyniad yn Saesneg ar sianel Youtube An ka taa gyda Coleman Donaldson
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Oyler, Dianne White (Tachwedd 2005). The History of N’ko and its Role in Mande Transnational Identity: Words as Weapons. Africana Homestead Legacy Publishers. t. 1. ISBN 0-9653308-7-7.
- ↑ Oyler, Dianne White (1994) Mande identity through literacy, the N'ko writing system as an agent of cultural nationalism. Toronto : African Studies Association.
- ↑ Unseth, Peter. 2011. Invention of Scripts in West Africa for Ethnic Revitalization. In The Success-Failure Continuum in Language and Ethnic Identity Efforts, ed. by Joshua A. Fishman and Ofelia García, pp. 23–32. New York: Oxford University Press.
- ↑ Personal note from the LISA/Cairo conference, in Dec. 2005, Don Osborn
- ↑ Rosenberg, Tina (2011-12-09). "Everyone Speaks Text Message". New York Times. Cyrchwyd 2013-12-22.
- ↑ N'Ko Language Tutorial: Introduction
Gwyddorau cymdeithas |
---|
Addysg | Anthropoleg | Cymdeithaseg | Daearyddiaeth ddynol | Economeg |
Gwyddor gwleidyddiaeth | Hanes | Ieithyddiaeth | Rheolaeth | Seicoleg |