Somalieg
Iaith Affro-Asiaidd yn y gangen Gwshitig sy'n tarddu o Gorn Affrica ac yn iaith frodorol y Somaliaid yw Somalieg.[2] Mae'n perthyn i is-gangen yr Iseldiroedd Dwyreiniol yr ieithoedd Cwshitig, ynghyd ag Afar a Saho.
Enghraifft o'r canlynol | iaith naturiol, iaith fyw |
---|---|
Math | Somali languages |
Enw brodorol | Af-Soomaali |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | so |
cod ISO 639-2 | som |
cod ISO 639-3 | som |
Gwladwriaeth | Jibwti, Ethiopia, Cenia, Somalia, Somaliland |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin, Wadaad's writing, Osmanya |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Siaredir Somalieg gan ryw 15 miliwn o bobl yn Nwyrain Affrica, y mwyafrif helaeth ohonynt yn Somaliaid ethnig. Somalieg yw prif iaith ac iaith swyddogol Somalia a Somaliland, un o ieithoedd swyddogol Jibwti, a phrif iaith yr Ardal Somali yn nwyrain Ethiopia a Thalaith y Gogledd Ddwyrain yng Nghenia. Bydd rhai cenedlaetholwyr Somali yn galw am uno'r holl diriogaethau lle siaredir Somalieg i greu Somalia Fawr.
Mabwysiadwyd yr wyddor Ladin i ysgrifennu Somalieg yn y 1970au, ac erbyn heddiw dyma'r wyddor fwyaf gyffredin. Ceir hefyd ffyrdd o ysgrifennu Somalieg yn yr wyddor Arabeg a systemau arbennig a gawsant eu creu yn yr 20g.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas: SIL International, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/, adalwyd 23 Ebrill 2022
- ↑ Somalieg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 15 Mai 2018.