Spring Awakening (sioe gerdd)
Sioe gerdd roc yw Spring Awakening, gan Duncan Sheik a Steven Sater.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith drama-gerdd |
---|---|
Iaith | Saesneg |
Genre | rock musical |
Libretydd | Steven Sater |
Dyddiad y perff. 1af | 19 Mai 2006 |
Enw brodorol | Spring Awakening |
Cyfansoddwr | Duncan Sheik |
Gwefan | http://www.springawakeningthemusical.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r sioe gerdd yn seiliedig ar ddrama Almaeneg Frühlings Erwachen (Deffro'r Gwanwyn) a ysgrifennwyd ym 1891 gan y dramodydd Frank Wedekind. Roedd yn ddrama ddadleuol iawn ar y pryd, a waharddwyd yn yr Almaen am gyfnod oherwydd ei phortread cignoeth o erthylu, cyfunrywioldeb, trais rhywiol, cam-drin plant a hunanladdiad. Mae'r ddrama'n ymwneud â deffroad rhywiol criw o arddegwyr yn yr Almaen ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Agorodd cynhyrchiad cyntaf y sioe gerdd ar Broadway yn 2006. Yn 2009, llwyfannwyd y sioe yn Llundain, lle chwaraewyd dwy o'r prif rannau gan ddau actor o Gymru, Aneurin Barnard ac Iwan Rheon.
Ym mis Mawrth 2011, llwyfannwyd Deffro'r Gwanwyn gan Theatr Genedlaethol Cymru, cyfieithiad Cymraeg o'r sioe gan y dramodydd Dafydd James.