Springhead, Manceinion Fwyaf

pentref ym Manceinion Fwyaf

Pentref ym Manceinion Fwyaf, Gogledd-orllewin Lloegr, ydy Springhead.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Saddleworth ym mwrdeistref fetropolitan Oldham. Fe'i enwyd ar ôl "Springhead House", plasty hanesyddol gyda ffynnon o ddŵr croyw ar ei diroedd.

Springhead
Mathpentref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSaddleworth
Daearyddiaeth
SirManceinion Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.5392°N 2.0594°W Edit this on Wikidata
Cod OSSD961045 Edit this on Wikidata
Cod postOL4 Edit this on Wikidata
Map

Ganed y swffragét Annie Kenney (13 Medi 1879 - 9 Gorffennaf 1953) yma. Roedd yn ffigwr blaenllaw yn Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod (the Women's Social and Political Union). Cyd-sefydlodd ei changen gyntaf yn Llundain gyda Minnie Baldock. Denodd Kenney sylw'r wasg a'r cyhoedd yn 1905 pan gafodd hi a Christabel Pankhurst eu carcharu am sawl diwrnod am ymosod a rhwystro, ar ôl tarfu ar y gwleidydd Syr Edward Gray drwy weiddi mewn rali Rhyddfrydol ym Manceinion.

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 4 Ionawr 2020

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Fanceinion Fwyaf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato