Stadiwm 974

stadiwm

Stadiwm pêl-droed yn Ras Abu Aboud, Doha, Qatar yw Stadiwm 974 (Arabeg: استاد 974‎) neu Stadiwm Ras Abu Aboud gynt. Fe'i hagorwyd 30 Tachwedd 2021 ac mae'n lleoliad dros dro wedi'i wneud o 974 o gynwysyddion llongau wedi'u hailgylchu a fydd yn cynnal gemau yn ystod Cwpan y Byd FIFA 2022, ac ar ôl hynny bydd yn cael ei ddatgymalu. Dyma'r lleoliad dros dro cyntaf yn hanes Cwpan y Byd FIFA .

Stadiwm Ras Abu Aboud
Mathstadiwm, association football pitch Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol2021 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 30 Tachwedd 2021 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadRas Abu Aboud Edit this on Wikidata
SirDoha Edit this on Wikidata
GwladBaner Qatar Qatar
Cyfesurynnau25.288695°N 51.566465°E Edit this on Wikidata
Map

Dylunio ac adeiladu golygu

Dyluniwyd y stadiwm gan Fenwick Iribarren Architects. [1] [2] Mae'r stadiwm wedi'i adeiladu ar safle 450,000 metr sgwâr ar benrhyn artiffisial. Mae ganddo ddyluniad modiwlaidd, ac mae'n cynnwys 974 o gynwysyddion llongau (Saesneg: shipping containers) wedi'u hailgylchu yn deyrnged i hanes diwydiannol y safle a chod deialu rhyngwladol Qatar sef (+974). [3] Mae rhai o'r cynwysyddion yn gartref i gyfleusterau stadiwm fel ystafelloedd ymolchi. [3] Bydd y cynwysyddion llongau a'r seddi a ddefnyddir gan y stadiwm yn cael eu datgymalu'n ddiweddarach a'u rhoi'n rhodd i wledydd eraill; dyma'r lleoliad dros dro cyntaf yn hanes Cwpan y Byd FIFA. [4] [5]

Mae'r stadiwm yn un o wyth sydd wedi cael eu haddasu ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022. [6] Dechreuodd y broses gaffael ar gyfer trawsnewid y stadiwm yn 2017. Bu HBK Contracting Company (HBK), [7] DCB-QA, Time Qatar, Fenwick Iribarren Architects (FI-A), Schlaich Bergermann Partner a Hilson Maron yn gweithio ar godi'r stadiwm hwn.[8] [9]

Datgelodd ymchwiliad yn 2021 gan The Guardian fod dros 6500 o weithwyr mudol o Bangladesh, India, Pacistan, Nepal a Sri Lanka wedi marw rhwng 2010 a 2020 wrth adeiladu lleoliadau Cwpan y Byd yn Qatar. [10] Ar 23 Chwefror 2021, rhyddhaodd Construction News adroddiad a ddatgelodd nad yw cofnodion marwolaeth yn cynnwys galwedigaeth na gweithle. [11] Ym mis Mai 2015, cyhoeddodd The Washington Post erthygl ddiwygiedig yn nodi adroddiad gan lywodraeth Qatar. [12] Yr yn yr adroddiad dywed llywodraeth Qatar nad oes bywyd un gweithiwr wedi’i golli o ganlyniad i'r gwaith adeiladu ar gyfer Cwpan y Byd 2022, tra bod yr ymchwiliad gan The Guardian yn cysylltu rhai marwolaethau â’r gwaith adeiladu. [13]

Hanes golygu

Enw gwreiddiol y stadiwm oedd Stadiwm Ras Abu Aboud ond ystod digwyddiad lansio ar 20 Tachwedd 2021 ailenwyd y lleoliad yn swyddogol yn Stadiwm 974. [3] Cynhaliwyd y gêm gyntaf yn Stadiwm 974 ar 30 Tachwedd 2021 ar ddiwrnod agoriadol Cwpan Arabaidd FIFA 2021, rhwng yr Emiraethau Arabaidd Unedig a Syria . [14] Cynhaliodd y stadiwm bum gêm yn ystod y twrnamaint. [15]

Cwpan y Byd FIFA 2022 golygu

Bydd saith gêm yn cael eu cynnal yn Stadiwm 974 yn ystod Cwpan y Byd FIFA 2022.

Dyddiad Tîm #1 Canlyniad Tîm #2 Rownd Presenoldeb
22 Tachwedd 2022   Mecsico -   Gwlad Pwyl Grŵp C
24 Tachwedd 2022   Portiwgal -   Ghana Grŵp H
26 Tachwedd 2022   Ffrainc -   Denmarc Grŵp D
28 Tachwedd 2022   Brasil -   Y Swistir Grŵp G
30 Tachwedd 2022   Gwlad Pwyl -   Yr Ariannin Grŵp C
2 Rhagfyr 2022   Serbia -   Y Swistir Grŵp G
5 Rhagfyr 2022 Enillwyr Grŵp G - Ail yn Grŵp H Rownd yr 16

Ar ôl Cwpan y Byd FIFA 2022 golygu

Disgwylir i'r stadiwm gael ei ddatgymalu ar ôl Cwpan y Byd FIFA 2022. Wedyn, mae cynlluniau i gludo ac ailadeiladu’r stadiwm yn Maldonado, Uruguay i gynnal gemau ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2030 os bydd cais y wlad yn llwyddiannus. [16]

Cyfeiriadau golygu

  1. "A Modular, Demountable Stadium Built From Shipping Containers Will Be Erected for Qatar 2022 World Cup". archdaily.com. 28 November 2017. Cyrchwyd 14 October 2021.
  2. "Stadium 974". stadiumdb.com. Cyrchwyd 21 April 2022.
  3. 3.0 3.1 3.2 "Demountable stadium built with shipping containers reaches completion in Qatar". Dezeen (yn Saesneg). 2021-11-24. Cyrchwyd 2022-01-06. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw ":0" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  4. "Stadium 974 in Doha Container becomes icon". moresports.network. 9 February 2022. Cyrchwyd 14 April 2022.
  5. "Ras Abu Aboud Stadium Makes Steady Progress". albawaba.com. 26 August 2020. Cyrchwyd 12 January 2021.
  6. "Why will Ras Abu Aboud Stadium be dismantled after 2022 FIFA World Cup?". iloveqatar.net. 12 November 2020. Cyrchwyd 4 October 2021.
  7. "Qatari firm wins contract for Ras Abu Aboud World Cup Stadium". thepeninsulaqatar.com. 29 May 2018. Cyrchwyd 7 October 2021.
  8. "Ras Abu Aboud Stadium, Doha, Qatar". designbuild-network.com. 20 June 2018. Cyrchwyd 14 April 2022.
  9. "Qatar unveils designs for Ras Abu Aboud while Khalifa Stadium gets 4-stars". inhabitat.com. 28 November 2017. Cyrchwyd 7 October 2021.
  10. "Revealed: 6,500 migrant workers have died in Qatar since World Cup awarded". TheGuardian.com. 23 February 2021.
  11. Garner-Purkis, Zak (2021-02-23). "Qatar migrant death rate revealed: 'more than 6,500 workers die since World Cup win'". Construction News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-11-01.
  12. Ingraham, Christopher (27 May 2015). "(UPDATED) The toll of human casualities in Qatar". Washington Post.
  13. "Death toll among Qatar's 2022 World Cup workers revealed". the Guardian (yn Saesneg). 2014-12-23. Cyrchwyd 2022-11-01.
  14. "UAE vs. Syria". Soccerway. 30 November 2021. Cyrchwyd 21 April 2022.
  15. "2021 FIFA Arab Cup: Participating teams, fixtures and all you need to know". Goal.com. 18 December 2021. Cyrchwyd 21 April 2022.
  16. Mundial 2030: Qatar ofreció a Lacalle Pou estadio construido con 974 contenedores y que es desmontable