Stadiwm Swansea.com
Arena chwaraeon a chyngherddau, yn ogystal â bod yn ganolfan gynadleddla yn ardal Glandŵr o ddinas Abertawe yw Stadiwm Swansea.com. Mae'r stadiwm yn eiddo i Gyngor Dinas Abertawe ac mae'n medru seddu dros 20,000 o bobl, gan wneud y ganolfan y mwyaf o'i math yn Abertawe. Stadiwm Liberty yw'r drydedd stadiwm fwyaf yng Nghymru ar ôl Stadiwm y Mileniwm sy'n dal 74,500 a Stadiwm Dinas Caerdydd sy'n dal 26,828.
Math | stadiwm bêl-droed |
---|---|
Agoriad swyddogol | 10 Gorffennaf 2005 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Abertawe |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6422°N 3.9351°W |
Perchnogaeth | Cyngor Dinas a Sir Abertawe |
Chwaraeon
golyguMae'n gartref i Glwb pêl-droed Dinas Abertawe a thîm rygbi rhanbarthol Y Gweilch. Mae tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru hefyd yn chwarae rhai gemau cartef yno.
Cyngherddau
golyguAr y 1af o Fehefin 2007, perfformiodd The Who gyngerdd yno a cawsant eu cefnogi gan Killing For Company a The Charlatans. Perfformiodd Elton John ei unig gyngerdd yng Nghymru yn 2008 yn Stadiwm Liberty ar y 29ain o Fehefin, 2008 gerbron torf o tua 25,000.[1].
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- Gwefan Swyddogol Stadiwm Liberty Archifwyd 2013-03-27 yn y Peiriant Wayback (Saesneg)