Llenor o Wlad Pwyl oedd Stanisław Lem (12 Medi 192127 Mawrth 2006) sydd yn nodedig am ei nofelau a straeon byrion gwyddonias a'i ysgrifau ar amryw bynciau gan gynnwys athroniaeth a dyfodoleg.

Stanisław Lem
Stanisław Lem wrth ei deipiadur, gyda model o ofodwr ar ei ddesg (1966)
GanwydStanisław Herman Lem Edit this on Wikidata
12 Medi 1921 Edit this on Wikidata
Lviv Edit this on Wikidata
Bu farw27 Mawrth 2006 Edit this on Wikidata
Kraków Edit this on Wikidata
Man preswylKraków, Fienna, Lviv Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGwlad Pwyl Edit this on Wikidata
AddysgAbsolutorium Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Danylo Halytsky Lviv National Medical University
  • Prifysgol Jagielloński Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, awdur ysgrifau, dychanwr, sgriptiwr, awdur ffuglen wyddonol, futurist, llenor, bardd, meddyg, ymchwilydd, dramodydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amSolaris, Summa Technologiae, The Star Diaries, Fiasco, Golem XIV, The Astronauts, Fables for Robots, Q9170006, Q9170905, The Cyberiad, Czas nieutracony, The Man from Mars, A Perfect Vacuum, Eden, His Master's Voice, Q12021770, The Chain of Chance, The Futurological Congress, Q11750478, Q11753121, Q97376008, The Invincible, Q11792642, The Magellanic Cloud, Q48845674, Tales of Pirx the Pilot, Memoirs Found in a Bathtub Edit this on Wikidata
Arddullllenyddiaeth ffuglen wyddonol, gwyddonias, Dyfodoleg, dychan, athroniaeth Edit this on Wikidata
TadSamuel Lem Edit this on Wikidata
PriodBarbara Lem Edit this on Wikidata
PlantTomasz Lem Edit this on Wikidata
PerthnasauHenryk Hescheles, Marian Hemar, Janina Altman Edit this on Wikidata
Gwobr/auKnight of the Order of the White Eagle, Medal Aur Diwylliant Meritorious o Gloria Artis, Gwobr Franz Kafka, Grand Prix de Littérature Policière, Urdd Baner Gwaith, 2il ddosbarth, Cadlywydd Urdd Polonia Restituta, Swyddog yn Urdd y Polonia Restituta, Croes Aur am Deilyngdod, honorary citizen of Kraków, Gwobr Gwladwriaeth Awstria ar gyfer Llenyddiaeth Ewropeaidd, Geffen Award, Doctor honoris causa o Brifysgol Jagiellonian, Krakow, Kraków Book of the Month, Polish PEN Club Award Jan Parandowski, Seiun Awards Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://lem.pl Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ef yn Lwów yng Ngweriniaeth Gwlad Pwyl (bellach Lviv, Wcráin), i deulu o dras Iddewig. Meddyg oedd ei dad. Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, wedi i'r Undeb Sofietaidd feddiannu Lwów, astudiodd Stanisław feddygaeth yn Athrofa Feddygol Lvov o 1940 i 1941, cyn i'r Almaen Natsïaidd gipio'r ddinas gan darfu ar ei addysg. Dychwelodd at ei gwrs wedi i'r Sofietiaid ail-gipio Lwów ym 1944. Wedi i'r ddinas gael ei gyfeddiannu'n rhan o Wcráin ym 1946, symudodd Lem i Kraków yng Gweriniaeth Pobl Pwyl i barhau â'i astudiaethau ym Mhrifysgol Jagiełło. Nid oedd am gael ei alw i'r fyddin, i dderbyn comisiwn am oes, wedi iddo ennill ei radd, ac o'r herwydd gwrthododd sefyll ei arholiadau terfynol.

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Człowiek z Marsa ("Dyn o Fawrth", 1946), mewn penodau yn y cylchgrawn wythnosol Nowy Świat Przygód. Tra'n gweithio fel cynorthwywr ymchwil o 1947 i 1950, cyhoeddodd hefyd farddoniaeth, straeon byrion, a thraethodau ar bynciau gwyddonol. Gan amlaf, ni fyddai'r llywodraeth gomiwnyddol yng Ngwlad Pwyl yn sensora ffuglen wyddonol, ond gwaharddwyd un o'i weithiau cynnar, Szpital Przemienienia ("Ysbyty'r Gweddnewidiad") rhag cael ei chyhoeddi am saith mlynedd. Ym 1950, comisiynwyd Lem gan y cwmni cyhoeddi Czytelnik yn Warsaw i ysgrifennu nofel wyddonias arall, a'r honno, Astronauci ("Gofodwyr", 1951), oedd ei gyfrol gyntaf. Mae'r gweithiau hyn yn cynnwys elfennau o Realaeth Sosialaidd, yr athrawiaeth gelfyddydol swyddogol yn y bloc Dwyreiniol. Dyma'r cyfnod i Lem benderfynu bod yn awdur llawn-amser, ond yn ddiweddarach yn ei yrfa byddai'n beirniadu ei weithiau cynnar am fod yn rhy syml a chonfensiynol.[1]

Yn sgil diwygiadau Hydref 1956 yng Ngwlad Pwyl, câi Lem fwy o ryddid wrth lenydda. Rhennir ei ffuglen yn gyffredinol yn ddwy genre: ffuglen wyddonol draddodiadol, sydd yn ymwneud â thechnoleg, teithio i'r gofod, ac estroniaid, er enghraifft Eden (1959), Powrót z gwiazd ("Dychwelyd o'r Sêr", 1961), Solaris (1961), Niezwyciężony ("Anorchfygol", 1964), Głos pana ("Llais y Meistr", 1968), ac Opowieści o pilocie Pirxie ("Hanesion y Peilot Pirx", 1968); a ffuglen ddamhegol iasoer, gan gynnwys Dzienniki gwiazdowe ("Dyddlyfrau'r Sêr", 1957), Pamiętnik znaleziony w wannie ("Dyddiadur a Ganfuwyd yn y Baddon", 1961), a Cyberiada ("Seiberiad", 1965).

Bu farw Stanisław Lem yn Kraków o fethiant y galon yn 84 oed.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Stanisław Lem. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Mawrth 2022.