Stanley Roy Badmin
Darlunydd, paentiwr dyfrlliw, a phrintiwr o Loegr oedd Stanley Roy Badmin (18 Ebrill 1906 – 28 Ebrill 1989) sydd yn nodedig am ei dirluniau a'i gelf o goed yn enwedig.
Stanley Roy Badmin | |
---|---|
Ganwyd | 1906 Sydenham |
Bu farw | 1989 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | arlunydd, darlunydd |
Cyflogwr |
Ganed ef yn ardal Sydenham yn ne Llundain, i rieni o Wlad yr Haf. Mynychodd Ysgol Sydenham cyn iddo ennill ysgoloriaeth i Ysgol Gelf a Chrefft Camberwell ym 1922. Aeth i'r Ysgol Gelf Frenhinol (RCA) fel ysgolor ymchwil ym 1924 i astudio paentio, ac yn ei ail flwyddyn newidiodd ei bwnc i ddylunio. Derbyniodd ei ddiploma ym 1927, ac yn y flwyddyn ddilynol cafodd hyfforddiant yn Camberwell a'r RCA i fod yn athro celf.[1]
Cyfrannodd Badmin ddarluniadau ac ysgythriadau i gyfnodolion gan gynnwys The Graphic (1927) a The Tatler (1928). Cynhaliwyd y sioe gyntaf o'i waith yn oriel y Twenty-One yn Bermondsey, ym 1930. Cyhoeddwyd nifer o'i ysgythriadau gan y Twenty-One nes i'r farchnad yn y printiau hynny gwympo ym 1931. Newidiodd Badmin i oriel y Fine Art Society ar Stryd Bond yn y West End, gan ganolbwyntio ar gyfrwng y dyfrlliw yn ogystal ag ysgythru. Addysgodd Badmin yn Ysgol Gelf Richmond (1934) ac Ysgol Gelf St John's Wood (1936) i ychwanegu at ei incwm fel arlunydd ifanc.[1]
Ym 1935 cafodd ei gomisiynu gan y cylchgrawn Americanaidd Fortune i ddarlunio trefi yn Unol Daleithiau America, ac arddangoswyd ei waith yn oriel MacDonald's, Efrog Newydd, ym 1936. Darluniodd nifer o lyfrau addysgol gyda lithograffau lliw, gan gynnwys Village and Town (1939) a Trees in Britain (1942) i'r gyfres Puffin. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cyfrannodd ddarluniadau i arddangosfeydd a drefnwyd gan y Weinyddiaeth Wybodaeth, ac wedi iddo gael ei alw i'r lluoedd arfog fe weithiodd ar wneud modelau i'r Awyrlu Brenhinol ym Medmenham.[1]
Wedi'r rhyfel, ymunodd Badmin ag asiantaeth Saxon Artists ym 1948 a derbyniodd nifer o gomisiynau, gan gynnwys hysbysebion ar gyfer y cwmni fferyllol a gwyddonol Fisons a'r cwmni papur Bowater, posteri ar gyfer cwmnïau cludiant a threfnwyr teithiau, a chardiau cyfarch a chalendrau ar gyfer Royle. Darluniodd ragor o lyfrau natur, gan gynnwys Trees for Town and Country (1947), British Countryside in Colour (1951), a'r Shell Guide to Trees and Shrubs (1958), a chyfrannodd hefyd i'r Radio Times. Yn y 1950au paentiodd luniau ar gyfer arddangosfa'r Gymdeithas Ddyfrlliw Frenhinol, ac ym 1955 cynhaliwyd sioe o'i waith yn y Leicester Galleries yn Sgwâr Leicester.[1]
Priododd Stanley Roy Badmin â Margaret Colborne ym 1930; cawsant ddau blentyn, Patrick a Joanna, cyn iddynt ysgaru. Ym 1950 ailbriododd â Rosaline Downey, a oedd eisoes yn fam i ferch o'r enw Elizabeth, a chawsant blentyn arall, Galea. Fe'i etholwyd yn aelod cyswllt o Gymdeithas Frenhinol y Paentwyr-Ysgythrwyr ac Engrafwyr ym 1931, ac yn aelod llawn ym 1935; ac yn aelod cyswllt o Gymdeithas Frenhinol yr Arlunwyr Dyfrlliw ym 1932, ac yn aelod llawn ym 1939. Symudodd Badmin a'i deulu i bentref Bignor, ger Pulborough, Sussex, ym 1959, a pharhaodd i baentio ac arddangos ei waith. Cynhaliwyd sioe o'i waith yn oriel gelf Worthing ym 1967. Bu farw yn Ysbyty St Richard, Chichester, yn 83 oed.[1]
Cyfeiriadau
golyguDarllen pellach
golygu- Chris Beetles, S. R. Badmin and the English Landscape (Llundain: Collins, 1985)