State of Play (ffilm)
Mae State of Play (2009) yn ffilm wleidyddol Americanaidd. Addasiad i'r gyfres deledu 6-rhaglen Brydeinig, State of Play, a ddarlledwyd ar BBC 1 yn 2003 ydyw. Cafodd ei gyfarwyddo gan Kevin Macdonald a'i ysgrifennu gan Matthew Michael Carnahan, Tony Gilroy, Peter Morgan, a Billy Ray.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Kevin Macdonald |
Cynhyrchydd | Andrew Hauptman Tim Bevan Eric Fellner |
Ysgrifennwr | Matthew Michael Carnahan Tony Gilroy Peter Morgan Billy Ray Paul Abbott(cyfres) |
Serennu | Russell Crowe Ben Affleck Rachel McAdams Helen Mirren Jason Bateman Jeff Daniels |
Cerddoriaeth | Alex Heffes |
Sinematograffeg | Rodrigo Prieto |
Golygydd | Justine Wright |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Universal Pictures |
Amser rhedeg | 127 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Adrodda'r ffilm hanes ymchwil newyddiadurwr i farwolaeth amheus meistres Seneddwr. Chwaraea Russell Crowe ran y newyddiadurwr tra bod Ben Affleck yn chwarae rhan y Seneddwr. Ymysg yr actorion cefnogol y mae Helen Mirren, Jason Bateman, Robin Wright Penn, Rachel McAdams, a Jeff Daniels. Mae plot y gyfres chwech rhaglen wreiddiol wedi cael ei grynhoi i ffilm dwy awr o hyd, ac mae'r lleoliad wedi newid i Washington, D.C.. Dywedodd Macdonald fod "State of Play" wedi cael ei ysbrydoli gan ffilmiau'r 1970au, gan edrych ar annibyniaeth newyddiadurwyr a'u perthynas gyda gwleidyddion a'r wasg. Rhyddhawyd y ffilm yng Ngogledd America ar yr 17eg o Ebrill, 2009.