Stephanie Booth
Roedd Stephanie Anne Booth; ganwyd Keith Michael Hull; (25 Mai 1946 - 18 Medi 2016), yn wraig busnes Seisnig oedd yn cadw nifer o westai yn ardal Llangollen a Rhuthun ac a fu'n destun cyfres teledu-realiti, Hotel Stephanie a darlledwyd ar BBC Cymru yn 2008 a 2009.
Stephanie Booth | |
---|---|
Ganwyd | Keith Michael Hull 25 Mai 1946 St Albans |
Bu farw | 18 Medi 2016 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | rheolwr gwesty |
Derbyniodd driniaeth cyfnewid rhyw ym 1983. Sefydlodd y cwmni Transformation: y busnes cyntaf yng Ngwledydd Prydain i ddarparu nwyddau a gwasanaethau ar gyfer pobl draws rhywiol.
Roedd yn defnyddio'r enw Stephanie Anne Lloyd, hyd at ei phriodas a David Booth yn Sri Lanca ym 1983.[1]
Bu farw ar ei fferm yng Nghorwen o ganlyniad i ddamwain tractor.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "THE STORY OF STEPHANIE ANNE LLOYD Tud 9". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-06-26. Cyrchwyd 2016-09-21.
- ↑ Daily Post Shock as Stephanie Booth dies in tractor crash tragedy
Eginyn erthygl sydd uchod am faterion lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsryweddol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato