Gwleidydd o'r Alban yw Stephen Gethins (ganwyd 28 Mawrth 1976) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Gogledd-ddwyrain; mae'r etholaeth yn swydd Fife, yr Alban. Mae Stephen Gethins yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.

Stephen Gethins AS
Stephen Gethins


Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2015 – 6 Tachwedd 2019
Rhagflaenydd Menzies Campbell
Olynydd Wendy Chamberlain

Geni (1976-03-28) 28 Mawrth 1976 (48 oed)
Perth, yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Gogledd-ddwyrain Fife
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Plant 1
Alma mater Prifysgol Dundee
Prifysgol Caint
Galwedigaeth Gwleidydd
Gwefan http://www.snp.org/

Fe'i magwyd yn Perth yn yr Alban. Fe'i penodwyd yn gynghorydd arbennig i Alex Salmond, gan ei gynghori ar faterion yn ymwneud ag Ewrop a materion rhyngwladol, ynni a'r amgylchedd. Yn ei dro, trosglwyddodd ei waith i gynghori Nicola Sturgeon.

Etholiad 2015

golygu

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[1][2] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Stephen Gethins 18523 o bleidleisiau, sef 40.9% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o +26.7 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 4344 pleidlais.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu