Stephen J. Williams
ysgolhaig Cymraeg
(Ailgyfeiriad o Stephen Joseph Williams)
Athro Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe oedd Stephen Joseph Williams, yn fwy adnabyddus fel Stephen J. Williams (11 Chwefror 1896 - 2 Awst 1992). Mae'n fwyaf adnabyddus am Elfennau gramadeg Cymraeg, sydd wedi mynd trwy sawl argraffiad. Roedd hefyd yn olygydd ymgynghorol i Y Geiriadur Mawr. Roedd yn frodor o Ystradgynlais, Brycheiniog.
Stephen J. Williams | |
---|---|
Ganwyd | 11 Chwefror 1896 Ystradgynlais |
Bu farw | 2 Awst 1992 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | person dysgedig |
Adnabyddus am | Y Geiriadur Mawr |
Plant | Urien Wiliam |
Daeth dau fab iddo, Urien Wiliam ac Aled Rhys Wiliam, yn adnabyddus fel llenorion yn ddiweddarach.
Cyhoeddiadau
golygu- (gol.) Ystorya de Carolo Magno: o Lyfr Coch Hergest (Gwasg Prifysgol Cymru, 1930)
- Y dyn hysbys: comedi mewn tair act (Aberystwyth: Gwasg Aberystwyth, 1935)
- (gol.) Robert ap Gwilym Ddu: detholion o'i weithiau (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1948)
- Ifor Ceri, noddwr cerdd (1770-1829) (Gwasg Prifysgol Abertawe, 1955) ISBN 0901626325
- Detholion o'r hen gyfreithiau Cymreig, wedi eu diweddaru gan Stephen J. Williams (Gwasg Prifysgol Cymru, 1938)
- Elfennau Gramadeg Cymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1959) a sawl argraffiad wedyn
- (gol.) Cyfreithiau Hywel Dda yn ôl Llyfr Blegywryd (dull Dyfed): argraffiad beirniadol ac eglurhaol (gyda J. Enoch Powell) (Gwasg Prifysgol Cymru, 1961)
Cyfeiriadau
golygu