Cerddor Cymreig yw Stephen Rees (ganwyd 1963). Ganed Stephen yn Rhydaman ac aeth i Ysgol Gyfun Dyffryn Aman.[1] Mae o'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor. Astudiodd yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru a Choleg Selwyn , Caergrawnt. Mae'n weithgar ym myd cerddoriaeth werin Cymru ac wedi teithio'n helaeth dros y Ddeyrnas Unedig, Ewrop a Gogledd America efo Ar Log a Chrasdant.[2]

Stephen Rees yn canu yng Ngŵyl Tegeingl; llun gan Llinos Lanini www.llinoslanini.com
Stephen Rees yn perfformio efo'r Glerorfa yng Ngŵyl Tegeingl; llun gan Llinos Lanini www.llinoslanini.com
Crasdant yng Ngŵyl Tegeingl; llun gan Llinos Lanini www.llinoslanini.com

Roedd yn o'r sylfaenwyr CLERA a TRAC ac mae o wedi arwain llawer o weithdai ffidil ar gyfer CLERA. Mae o un o'r cyfarwyddwyr – efo Robin Huw Bowen - o'r Glerorfa.[3]

Cyfeiriadau

golygu

Dolen Allanol

golygu

Tudalen Crasdant ar wefan Sain Archifwyd 2013-03-27 yn y Peiriant Wayback

  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato