Robin Huw Bowen

telynor (1957- )

Cerddor sy’n arbenigo mewn canu’r delyn deires yw Robin Huw Bowen. Ganed ef yn Lerpwl i deulu o Ynys Môn .

Robin Huw Bowen yng Ngŵyl Tegeingl, 2012.

Dysgodd ganu’r Delyn Geltaidd yn yr ysgol dan ddylanwad Alan Stivell. Dechreuodd gymeryd diddordeb yn y Delyn deires trwy ddylanwad Dafydd a Gwyndaf Roberts o’r grŵp Ar Log, oedd wedi eu dysgu gan Nansi Richards. Ymunodd â grŵp Mabsant yn 1986 ac yn ddiweddarach a Cusan Tân. Ers 1998 mae wedi bod yn aelod o Crasdant. Yn 2004 ffurfiodd ef a phedwar telynor arall Rhes Ganol.

Bu’n gweithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth am flynyddoedd, a thra yno bu’n ymchwilio i hen gerddoriaeth telyn Gymreig. Cyhoeddwyd nifer o’r tonau hyn gan y Llyfrgell neu gan ei wasg ef ei hun, Gwasg Teires. Ymhlith ffynonellau eraill, cafodd wybodaeth gan y delynores Eldra Jarman, gor-wyres John Roberts ('Telynor Cymru'), cynrychiolydd olaf traddodiad y telynorion Sipsi Cymreig.

Dyfarnwyd Gwobr Glyndŵr iddo yn 2000 ac yn 2002 enillodd BAFTA (Cymru) am ei gerddoriaeth wreiddiol i'r ffilm Eldra.

Disgyddiaeth golygu

Teitl y gân Clip sain Blwyddyn cyhoeddi Rhif Catalog
Pibddawns Gwyr Wrecsam Pibddawns Abertawe 2004 SAIN SCD 2397
Cogau Meirion 2007 Sain SCD2526
Helfar Draenog 2007 Sain SCD2526
Hoff Jigiau 2007 Sain SCD2526
Jig y Doethion 2007 Sain SCD2526
Jigiau Crasdant 2007 Sain SCD2526
Miniwets Meirionnydd 2007 Sain SCD2526

Cyhoeddiadau golygu

  • Trwy'r Weiar - Through the Wire (1987) gyda Mabsant
  • Telyn Berseiniol Fy Ngwlad - Sweet Harp of My Land (1991)
  • Cusan Tân - Kiss of Fire (1992) gyda Cusan Tân
  • Hela'r Draenog - Hunting the Hedgehog (1994)
  • Cerddoriaeth Telyn Cymru - Harp Music Of Wales (1995)
  • Esgair - The Ridge (1996) gyda Cusan Tân
  • Hen Aelwyd - Old Hearth (1999)
  • Crasdant (1999) gyda Crasdant
  • Nos Sadwrn Bach - Not Yet Saturday (2001) gyda Crasdant
  • Yn y Gwaed - In the Blood (2004) gyda Rhes Ganol
  • Dwndwr - The Great Noise (2005) gyda Crasdant
  • Y Ffordd i Aberystwyth - The Road to Aberystwyth (2007)

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato