Streic gyffredinol

Streic gan nifer fawr o weithwyr mewn sawl diwydiant yw streic gyffredinol a drefnir i geisio ennill nodau economaidd neu wleidyddol.

Mae'n debyg i'r syniad hon ymddangos yn gyntaf ym Mhrydain tua'r 1830au.[1] Câi ei chofleidio gan rai yn y mudiad llafur fel tacteg bwrpasol o gydfargeinio, yn enwedig gan y syndicalwyr a ymgodai yn Ffrainc yn niwedd y 19g. Daeth y streic gyffredinol yn agwedd bwysig iawn o syndicaliaeth, fel modd honedig o ysgogi chwyldro cymdeithasol drwy ddymchwel y perchenogion diwydiannol.

Daeth streiciau cyffredinol yn bosib yn sgil twf undebau llafur mawr yn niwedd y 19g. Cynhaliwyd dwy streic gyffredinol yng Ngwlad Belg ym 1893 a 1902 ac un yn Sweden ym 1902. Wedi cyfnod o fân-streiciau yn yr Eidal, galwyd streic gyffredinol ym 1904 i wrthdystio'n erbyn milwyr yn cael eu defnyddio i dorri'r streiciau. Yn ystod Chwyldro Rwsia (1905), ysgogwyd diwygiadau Maniffesto Hydref gan streic gyffredinol. Ym 1909 bu bron i hanner o holl weithlu Sweden yn atal gwaith mewn streic gyffredinol arall a barodd am fis. Ym 1926 cynhaliwyd un o'r streiciau cyffredinol mwyaf erioed, streic gyffredinol y Deyrnas Unedig. Fe'i galwyd gan Gyngres yr Undebau Llafur (TUC) i gefnogi achos y glöwyr, a bu i oddeutu 1.7 miliwn o weithwyr streicio.

Dim ond ychydig o streiciau gyffredinol a gynhaliwyd yn Ewrop ers diwedd yr Ail Ryfel Byd, yn eu plith terfysg Mai 1968 yn Ffrainc, streiciau gan 12 miliwn o weithwyr yn yr Eidal yn Nhachwedd 1968, a streic gyffredinol arall yn Ffrainc ym 1995.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) General strike. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Medi 2021.