Syr John Williams (portread)

Paentiad gan Christopher Williams

Portread olew ar gynfas yw Syr John Williams, Bart, GCVO, MD gan yr arlunydd o Gymro Christopher Williams (1873–1934). Mae'r peintiad yn y casgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Syr John Williams, Bart, GCVO, MD
ArlunyddChristopher Williams
Blwyddynrhwng 1904 a 1919
Matholew ar gynfas
Maint120 cm × 105 cm ×  (47 mod × 41 mod)
PerchennogLlyfrgell Genedlaethol Cymru

Ganwyd yr arlunydd ym Maesteg, ond erbyn 1904 oedd wedi ymsefydlu yn Llundain; serch hynny, byddai’n aml yn ymweld â Chymru ac yn ystod un o'i ymweliadau galwodd ar Syr John Williams, meddyg, barwnig a sylfaenydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yn ei gartref ym Mhlas Llansteffan, Sir Gaerfyrddin. Gadawodd gyda chomisiwn o 100 gini i greu’r portread yma. Fe’i dylanwadwyd yn drwm gan farn Syr John William ar Gymru a "Chymreictod" ac roedd yn benderfynol o fod yn beintiwr "Cymreig" a daeth yn rhan o'r hyn a elwir yn yr Ail Adfywiad Celtaidd.

Europeana 280

golygu

Yn Ebrill 2016 dewisiwyd y darlun fel un o ddeg llun eiconig i gynrychioli Cymru yn y prosiect "Gwaith Celf Europeana".[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Europeana; adalwyd 12 Rhagfyr 2017.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am gelf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.