Christopher Williams

arlunydd

Roedd Christopher David Williams (7 Ionawr 187319 Gorffennaf 1934) yn arlunydd o Gymru.[1]

Christopher Williams
Ganwyd7 Ionawr 1873 Edit this on Wikidata
Maesteg Edit this on Wikidata
Bu farw19 Gorffennaf 1934 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata
PlantIvor Williams Edit this on Wikidata

Magwraeth

golygu

Cafodd ei eni ym Maesteg, Cymru, yn fab i Evan Williams a ddymunai i'w fab fod yn feddyg, ond nid oedd Williams yn hoff o'r syniad! Penderfynodd fod yn arlunydd ar olwedi iddo weld Perseus and Andromeda gan Frederic Leighton (1830–1896) yn y Walker Art Gallery, Lerpwl.

Astudiodd yn gyntaf yng Nghastell Nedd dan adain Mr. Kerr ac yn hwyrach yng Ngholeg Celf Brenhinol ac Ysgolion yr Academi Frenhinol. Ym 1902, cafodd ei ddarlun, Paolo a Francesca yn ogystal â phortread o'i dad ym 1903, eu harddangos yn yr Academi Frenhinol. Y rhain oedd y cyntaf o 18 o beintiadau ganddo i gael eu harddangos yno. Cafodd ei bortread o Syr Alfred Lyall ei arddangos yn yr Academi Frenhinol ym 1910 ac o ganlyniad y gwahoddwyd ef gan Gymdeithas Frenhinol Artistiaid Prydeinig i ymuno â'u rhengoedd a bu'n arddangos 37 o baentiadau yn eu Horiel dros y ddegawd nesaf. Bu hefyd yn arddangos yng Nghymdeithas Frenhinol y Peintwyr Portreadau hyd 1930. Oherwydd maint enfawr y lluniau, ychydig iawn ohonyn nhw sy'n cael eu harddangos, ac fe'u cedwir mewn selerydd archifol.[2]

 
Deffroad Cymru (1911) gan Christopher Williams

Ym 1911, cafodd gomisiwn gan y Brenin Siôr V o Loegr i weithio ar baentiad coffaol o Arwisgiad Edward, Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon. Yn ogystal â mynychu'r seremoni, ymwelodd â Phalas Buckingham, lle eisteddodd y Teulu Brenhinol ar ei gyfer er mwyn cwblhau manylion y llun. Cwblhaodd ddau fersiwn o'r llun hwn.

Ymhlith ei bortreadau oedd rhai o'r Gwir Anrh. David Lloyd George,[3] Syr John Williams, Syr John Rhys,[4] Syr Henry Jones, Syr John Morris-Jones,[5] Dr Stanton Coit, Syr Frederick Mills a John Hinds AS. Peintiodd y cyntaf o dri phortread o Lloyd George yn ystod haf 1911. Disgrifiodd Lloyd George ef fel "un o'r arlunwyr mwyaf dawnus i ddod allan o Gymru".

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, peintiodd The Welsh at Mametz Wood (1920), sydd bellach yn Amgueddfa Cymru.[6]

Peintiodd dair golygfa o'r Mabinogi. Mae Ceridwen (1910) a Branwen (1915) yng nghasgliad Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe. Mae Blodeuwedd (1930) yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd.

Peintiodd lawer o dirluniau yng Nghymru, y Swistir, yr Eidal, Ffrainc, Sbaen, Moroco a'r Iseldiroedd. Ymysg ei darluniau mae The Red Dress yn Amgueddfa Cymru[7] a Holidays – Village Girls at Llangrannog yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn ystod y dyddiau wedi'r rhyfel a than ei farwolaeth, mi wnaeth llawer i ysgogi diddordeb yng nghelf yng Nghymru ac roedd yn feirniad cyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn aelod o Bwyllgor y Celfyddydau yn Amgueddfa Cymru a Chyngor Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.

Roedd ganddo gariad mawr at ddynoliaeth a chydymdeimlad ddofn at y gorthrymedig. Cyflwynodd lun mawr o lannau Tafwys o'r enw Why? i Fyddin yr Iachawdwriaeth ychydig cyn ei farwolaeth ym 1934.

Ym 1973, cafodd arddangosfa ei drefnu ar ganmlwyddiant ei enedigaeth yn Amgueddfa Cymru, Oriel Gelf Glynn Vivian a Neuadd Tref Maesteg.

Priododd Emily Appleyard a chawsant dau o feibion, Gwyn ac Ivor. Roedd Gwyn yn seryddwr ac roedd Ivor yn arlunydd hefyd. Roedd yn frawd yng nghyfraith i'r arlunydd Fred Appleyard (1874–1963).

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Y Bywgraffiadur Cymreig - WILLIAMS , CHRISTOPHER DAVID. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 14 Ebrill 2016.
  2. Prifysgol Aberystwyth; Archifwyd 2016-05-31 yn y Peiriant Wayback adalwyd 16 Ebrill 2016
  3. Amgueddfa Cymru: Casgliadau Celf Arlein; adalwyd 12 Rhagfyr 2017.
  4. Amgueddfa Cymru: Casgliadau Celf Arlein; adalwyd 12 Rhagfyr 2017.
  5. Amgueddfa Cymru: Casgliadau Celf Arlein; adalwyd 12 Rhagfyr 2017.
  6. Amgueddfa Cymru: Casgliadau Celf Arlein; adalwyd 12 Rhagfyr 2017.
  7. Amgueddfa Cymru: Casgliadau Celf Arlein; adalwyd 12 Rhagfyr 2017.

Dolenni allanol

golygu