John Williams (casglwr llawysgrifau)
Casglwr llawysgrifau Cymreig ac un o sylfaenwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru oedd Syr John Williams (6 Tachwedd 1840 – 24 Mai 1926). Fe'i ganed ar fferm "Y Beili", Gwynfe, Sir Gaerfyrddin a bu farw yn "Blaenllynant", Aberystwyth. Cafodd yrfa fel llawfeddyg yn Abertawe ac yna yng Ngholeg Prifysgol Llundain; fe'i gwnaed yn farchog ym 1894 am ei wasanaeth i lawfeddygaeth, a dychwelodd i'w sir enedigol ym 1903 i fyw yn Llansteffan.
John Williams | |
---|---|
Ganwyd | 6 Tachwedd 1840 Capel Gwynfe |
Bu farw | 24 Mai 1926 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | meddyg, obstetrydd, llyfrgellydd |
Swydd | cadeirydd |
Tad | David Williams |
Mam | Eleanor Williams |
- Gweler hefyd John Williams (tudalen gwahaniaethu).
Trwy gydol ei oes bu'n gasglwr llawysgrifau brwd. Roedd ei gasgliad, a seiliwyd ar y casgliad cynnar a adwaenir fel Llawysgrifau Llansteffan, yn cynnwys llawysgrifau ychwanegol a gasglwyd gan hynafiaethwyr fel Gwallter Mechain a Syr Thomas Phillipps, a rhai o lawysgrifau'r bardd Lewis Morris, ac eraill. Yn ogystal, prynodd Lawysgrifau Peniarth ym 1908. Bu ganddo felly un o'r casgliadau gorau o lawysgrifau Cymraeg erioed.
Pan gafwyd cynllun i sefydlu llyfrgell genedlaethol addawodd Syr John y byddai'n cyflwyno ei gasgliad gwerthfawr iddi ar yr amod ei bod yn cael ei lleoli yn Aberystwyth, ac felly y bu. Diolch i'r penderfyniad hwnnw arhosodd llawysgrifau pwysicaf Cymru yng Nghymru i'r cenedlaethau a ddêl.
Hanes ei fywyd
golyguGanwyd John Williams yn 1840 yn Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei addysg yn Abertawe, a graddiodd ym Mhrifysgol Glasgow a Phrifysgol Llundain cyn cychwyn ar yrfa lwyddiannus fel llawfeddyg. Tra bu’n gweithio yn Llundain yn ystod chwarter olaf y 19g daeth yn ŵr cyfoethog a dylanwadol ac yn feddyg i’r teulu brenhinol. Roedd ei fryd ar gasglu hen bethau Cymreig, a thyfodd ei gasgliad i gynnwys dros 25,000 o eitemau. Yn eu plith roedd 19 o’r 22 llyfr Cymraeg a gyhoeddwyd cyn 1700, yn cynnwys y llyfr cynharaf i gael ei gyhoeddi yn y Gymraeg, Yn y lhyvyr hwn (1546).
Roedd yn gasglwr brwd o lawysgrifau. Yn 1904 prynodd John Williams gasgliad llawysgrifau Peniarth a’i gyflwyno i’r Llyfrgell Genedlaethol newydd yn Aberystwyth. Roedd y casgliad amhrisiadwy hwn yn cynnwys trysorau fel Llyfr Du Caerfyrddin, Cyfreithiau Hywel dda a Llyfr Gwyn Rhydderch. Ymgyrchodd yn egnïol i ennill llyfrgell genedlaethol i Gymru drwy annerch cyfarfodydd cyhoeddus ac ysgrifennu llythyrau at bapurau newydd. Ef i raddau helaeth oedd yn trefnu’r ymgyrch dros ei sefydlu. Fel cydnabyddiaeth o’i gyfraniad enwyd John Williams yn Llywydd cyntaf y Llyfrgell, a daliodd y swydd honno hyd ei farwolaeth yn 1926.
Ef yw’r noddwr unigol mwyaf yn hanes y Llyfrgell. Roedd ei roddion yn sicrhau bod y sefydliad newydd yn cael ei gydnabod fel Llyfrgell Genedlaethol go iawn o’r cychwyn cyntaf. Urddwyd ef yn farchog yn 1911 ar achlysur gosod carreg sylfaen y Llyfrgell Genedlaethol. Mae cerflun marmor o Syr John Williams wedi ei osod mewn safle amlwg ym mhen gorllewinol Ystafell Ddarllen y Gogledd yn y Llyfrgell Genedlaethol.[1][2] Portreadwyd ef hefyd gan ‘un o’r arlunwyr mwyaf dawnus o Gymru', yn ôl David Lloyd George. Yr artist oedd Christopher Williams, a ddaeth yn enwog yn sgil ei ddarlun o Frwydr Mametz yn 1916 o dan y teitl Charge of the Welsh Division at Mametz Wood. Bu barn Syr John Williams ar Gymru a Chymreictod yn ddylanwad mawr ar yr artist, a chyflwynodd John Williams lawer o ysgolheigion amlwg iddo.[3]
Mewn diwylliant poblogaidd
golyguYn ffilm Y Llyfrgell mae’r cymeriad Dan yn honni mai Syr John oedd y llofrudd cyfresol ‘Jack the Ripper’. Daw’r cyhuddiad o lyfr a gyhoeddwyd yn 2005[4] a ysgrifennwyd gan un o ddisgynyddion honedig y llawfeddyg, Michael Anthony Williams, a’i gyd awdur Humphrey Price. Mae'r awduron yn honni bod y merched a lofruddiwyd yn adnabod y meddyg yn bersonol a'u bod wedi eu lladd a’u llurgunio mewn ymgais i ymchwilio i achos anffrwythlondeb ei wraig. Mae'r llyfr hefyd yn honni mai cyllell lawfeddygol a oedd yn eiddo i Syr John Williams, sydd i’w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol, oedd arf y llofrudd.[5] Mae amheuon difrifol wedi eu codi gan eraill am gymhwysedd a chymhelliant yr awduron.[6][7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Hanes y Llyfrgell. Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. tt. 4, 7–9.
- ↑ Davies, John (2008). Gwyddoniadur Cymru. Gwasg Prifysgol Cymru. t. 963.
- ↑ "Christopher Williams, 'Sir John Williams'". Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 2016-08-10. Cyrchwyd 2020-03-10.
- ↑ Williams, Tony, 1961- (2006). Uncle Jack. Price, Humphrey, 1961-. London: Orion. ISBN 0-7528-7698-8. OCLC 62225561.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ Thompson, Tony (24 April 2005). "Knife clue could solve mystery of the Ripper". The Guardian. Cyrchwyd 11 Awst 2007.
- ↑ Pegg, Jennifer (October 2005). Uncle Jack Under the Microscope. Ripper Notes. 24. Inklings Press. ISBN 978-0-9759129-5-9.
- ↑ Pegg, Jennifer (January 2006). "Shocked and Dismayed" – An Update on the Uncle Jack Controversy. Ripper Notes. 25. Inklings Press. tt. 54–61. ISBN 978-0-9759129-6-6.
Llyfryddiaeth
golygu- Ruth Evans, Syr John Williams, Cyfres Gŵyl Ddewi (Caerdydd, 1952)
- Syr John Williams, 1840–1926 (Aberystwych: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1990)
Gweler hefyd
golygu- Syr John Williams, Bart, GCVO, MD – ei bortread gan Christopher Williams