Syr John Wynn, 5ed Barwnig
Rhybudd! | Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon. Beth am fynd ati i'w chywiro? Dyma restr o erthyglau i'w cywiro: Tudalennau â phroblemau ieithyddol. |
Olynodd Syr John Wynn, 5ed Barwnig (1628–1719) ei gefnder Syr Richard Wynn, 4ydd Barwnig fel barwnig yn 1674, ond nid etifeddodd diroedd Ystad Gwydyr, a basiodd i ferch ei rhagflaenydd, Mary.
Syr John Wynn, 5ed Barwnig | |
---|---|
Ganwyd | 1628 Cymru |
Bu farw | 1719, 7 Ionawr 1718 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1af Prydain Fawr, Aelod o Ail Senedd Prydain Fawr, Aelod o 3ydd Senedd Prydain Fawr, Member of the 1679 Parliament, Member of the 1680-81 Parliament, Member of the 1685-87 Parliament, Member of the 1689-90 Parliament, Member of the 1690-95 Parliament, Member of the 1698-1700 Parliament, Aelod o Senedd 1701, Aelod o Senedd 1701-02, Aelod o Senedd 1702-05, Aelod o Senedd 1705-07 |
Tad | Henry Wynn |
Priod | Jane Evans |
Etifeddiaeth
golyguEtifeddodd Syr John Watstay (newidiwyd ei enw'n ddiweddarach i 'Wynnstay') trwy ei briodas â Jane Evans, merch Eyton Evans o Watstay. Honnir hefyd iddo ennill Ystad Stanwardine yn Swydd Amwythig oddi wrth Thomas Corbett mewn ras falwod.
Bywyd diweddarach
golyguBu fyw Syr John i'w nawdegau, gan fyw yn Llundain y rhan fwyaf o'r amser, ond bu farw'n ddi-blant ym 1719. Ar ei farwolaeth, diflannodd llinach Barwnigion Wynn a gadawyd "Tŷ Aberffraw" heb unrhyw ddisgynyddion gwrywol a wyddwn amdano (a oedd yn honni i fod yn ddisgynyddion Rhodri Mawr ap Merfyn yn y 9g a disgynnydd anuniongyrchol o Frenin-Uwch Brwth yn yr Oes Haearn).
Disgynnydd a pherthnasau posib
golyguOs fuasai Thomas Jones (Twm Siôn Cati) yn wir wedi bod yn fab anghyfreithlon John "Wynn" ap Maredudd, fel honnodd Syr John Wynn, Barwnig 1af yn ei hanes teulu, buasai ei blant ef wedi bod yn nesaf yn y linell i etifeddu, gan fod gan feibion anghyfreithlon yr un hawliau a rhai cyfreithlon dan gyfraith hynafol Cymru. Mae hefyd sawl honiad fod perthnasau "coll", megis Cyrnol Hugh Wynn sy'n cael ei honni i symud i Virginia a chodi teulu yno. Ond, heb etifeddwr amlwg, fe gymynroddodd Syr John holl ystadau Wynnstay i Jane Thelwall (hen-wyres Syr John Wynn, Barwnig 1af) a oedd yn briod erbyn hynny i Syr William Williams, 2il Farwnig (tua 1665 – 20 Hydref 1740). Syr John Wynn a Syr William Williams oedd y ddau perchnogion tir mwyaf yng ngogledd Cymru ar y pryd, rhwng y ddau roedd ystadau eraill Cymru'n cael eu corrachu. I anrhydeddu llinach ei wraig, newidiodd Syr William Williams ei enw i Syr William Williams-Wynn o Wynnstay.
Yr etifeddwr presennol yw Syr David Watkin Williams-Wynn, 11fed Barwnig (ganwyd 1940).
Teitlau Anrhydeddus | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: William Owen |
Custos Rotulorum Sir Drefaldwyn 1678 – 1688 |
Olynydd: Ardalydd Powys |
Rhagflaenydd: Syr William Williams |
Custos Rotulorum Sir Drefaldwyn 1690 – 1711 |
Olynydd: Edward Vaughan |
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig | ||
Rhagflaenydd: Syr Richard Wynn |
Penaeth Tŷ Cunedda 1674 – 1719 |
Olynydd: ? |
Pendefigaeth Lloegr | ||
Rhagflaenydd: Syr Richard Wynn |
Barwnig (Gwydir) 1674–1719 |
Olynydd: Lliniach diflanedig |
Ffynonellau
golygu- D.N.B., lxiii; Cal. Wynn (of Gwydir) Papers, passim; Clenennau Letters, i, Introduction
- Hist. Gwydir Family, passim; W. R. Williams, Parl. Hist. of Wales, passim
- E. Breeze, Kalendars of Gwynedd, passim; Cymm., xxxviii
- The Welsh Review, v, 187-191; Trans. Caern. Hist. Soc., 1939, 37-46; J. E. Griffith, Pedigrees, 280-1
- E. G. Jones, ‘The Caernarvonshire Squires, 1558-1625’ (Thesis M.A. heb ei gyhoeddi, Prifysgol Cymru).