Henry Wynn

gwleidydd (1602-1671)

Roedd Henry Wynn (tua 1602 - 27 Gorffennaf 1671) yn wleidydd, yn fargyfreithiwr ac yn dirfeddiannwr o Gymru a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Sir Feirionnydd ym 1624, 1625, 1640 ac eto rhwng 1661 a 1671[1]

Henry Wynn
Ganwyd1602 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Bu farw1671 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr 1624–5, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr 1625, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr Ebrill 1640, Member of the 1661-79 Parliament Edit this on Wikidata
TadSyr John Wynn Edit this on Wikidata
MamSidney Gerard Edit this on Wikidata
PlantSyr John Wynn, 5ed Barwnig Edit this on Wikidata

Bywyd personol

golygu
 
Porth Castell Gwydir 2015.

Ganwyd Henry Wynn yng Nghastell Gwydir, Trefriw yn fab i Syr John Wynn a Sydney, merch Syr William Gerrard, Caer. Roedd yn frawd i Syr John Wynn, 2il farwnig, Syr Richard Wynn, 3ydd Barwnig, a Syr Owen Wynn 4ydd Barwnig[2]

Cafodd ei addysgu mewn ysgol ramadeg yn St Albans Swydd Hertford

Ym 1620 priododd Catherine ferch ac aeres Ellis Lloyd, Rhiwgoch, bu iddynt un mab, Syr John Wynn, 5ed Barwnig. Trwy ei briodas daeth yn berchennog ar ystâd a maenor Rhiwgoch, Trawsfynydd

Ymunodd a’r Deml Ganol ym 1618 a’i alw i’r bar ym 1629[3]. Cafodd ei ethol yn feinciwr ym 1647 ond ni dderbyniodd yr anrhydedd hyd 1660 wedi adferiad Goron Prydain ar ôl y Rhyfel Cartref. Gwasanaethodd fel Ynad Heddwch ar fainc Sir Feirionnydd o 1650 i 1653 ac eto o 1670 hyd ei farwolaeth ym 1671. Gwasanaethodd fel Stiward Maenorau Brwmffild a Iâl o 1660 hyd ei farwolaeth. Bu’n gomisiynydd asesiad Meirionnydd o 1661 hyd 1669; yn ysgrifennydd a chlerc y insel Cyngor Cymru o 1663 hyd ei farwolaeth. Bu’n protonoteri a chlerc y Goron ar gylchdaith llysoedd gogledd Cymru o 1664 hyd ei farwolaeth.

Gyrfa wleidyddol

golygu

Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Meirionnydd ar dri achlysur yn ystod teyrnasiad brenhinoedd teulu Stuart; 1624, 1625 a 1640. Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr bu’n cydymdeimlo ag ochor y Brenhinwyr ond ni chymerodd unrhyw ran yn y rhyfel.

Wedi’r rhyfel cartref ail enillodd Wynn ei le yn y Senedd yn etholiad 1661 ond ni fu'n aelod gweithgar, does dim cofnod iddo roi araith i’r Senedd a bu'n aelod o ddim ond 5 pwyllgor.

Marwolaeth

golygu

Bu farw ym 1671 a chladdwyd ei weddillion yn Eglwys y Deml. 

Cyfeiriadau

golygu
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
William Salisbury
Aelod Seneddol Sir Feirionnydd
16241626
Olynydd:
Edward Vaughan
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
dim senedd ers 1629
Aelod Seneddol Sir Feirionnydd
1640
Olynydd:
William Price
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Edmund Meyricke
Aelod Seneddol Sir Feirionnydd
16601671
Olynydd:
William Price