System aelodau ychwanegol
System etholiadol gymysg ddwy bleidlais yw'r system aelodau ychwanegol, a ddefnyddir yn rhannau o'r Deyrnas Unedig lle etholir y rhan fwyaf o gynrychiolwyr mewn etholaethau un aelod, ac etholir nifer sefydlog o “aelodau ychwanegol” eraill o restr gaeedig i er mwyn i ddyrannu seddi yn y siambr yn fwy cyfrannol i'r pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer rhestrau pleidiau .[1][2][3] Mae’n wahanol i ddefnyddio pleidleisio cyfochrog ar gyfer seddi'r rhestr gan fod seddi'r “aelodau ychwanegol” yn cael eu dyrannu i bleidiau gan ystyried seddi a enillwyd mewn etholaethau un aelod (cyfeirir atynt fel iawndal) – anwybyddir y rhain o dan bleidleisio cyfochrog (dull nad yw'n cydadferol).
Sut mae system aelodau ychwanegol yn gweithio
golyguMewn etholiad sy'n defnyddio'r system aelodau ychwanegol, mae pob pleidleisiwr yn bwrw dwy bleidlais:[4] pleidlais dros ymgeisydd sy'n sefyll yn ei etholaeth leol (gyda neu heb blaid gysylltiedig), a phleidlais ar gyfer rhestr plaid sy'n sefyll mewn rhanbarth ehangach sy'n gynnwys etholaethau lluosog (neu un etholaeth genedlaethol). Ar gyfer Senedd yr Alban, a Senedd Cymru cyn 2026, etholir aelodau rhestr (seddi "ychwanegol") fesul rhanbarth; ar gyfer Cynulliad Llundain casglir pleidleisiau rhestr ar gyfer Llundain gyfan.
Nid oes angen i bleidleiswyr bleidleisio dros yr un blaid ar gyfer yr etholaeth a'r rhanbarth. Os bydd pleidleisiwr yn pleidleisio dros bleidiau gwahanol ar lefel etholaethol a rhanbarthol, cyfeirir at hyn fel pleidleisio tocyn hollt . Yn y bleidlais ranbarthol, mae'r pleidleisiwr yn pleidleisio dros blaid benodol, ond nid oes ganddo reolaeth dros ba ymgeiswyr o'r blaid sy'n cael eu hethol. Ar y llaw arall, yn y bleidlais etholaeth, mae'r pleidleisiwr yn pleidleisio dros ymgeisydd penodol yn hytrach na phlaid.
Cyfrif pleidleisiau a dyrannu seddi
golyguDefnyddir y bleidlais gyntaf i ethol aelod o'u hetholaeth o dan y system "cyntaf i'r felin" (hynny yw: yn yr etholaeth, yr ymgeisydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau sy'n cymryd y sedd).
Defnyddir yr ail bleidlais i benderfynu faint o seddi ychwanegol y gall plaid eu cael, sy'n seiliedig ar faint o seddi y dylai plaid eu cael fel cyfanswm. Mae pleidiau yn derbyn seddi ychwanegol i gyfateb â chyfrannau'r pleidleisiau a gawsant mor agos ag y bo modd, gan wneud y ddeddfwrfa yn fwy cynrychioliadol o ddewisiadau pleidleiswyr.
Yn y system aelodau ychwanegol fel y'i defnyddir yn rhannau'r Deyrnas Unedig, rhennir y seddi rhanbarthol gan ddefnyddio dull D'Hondt . Fodd bynnag, ystyrir nifer y seddi a enillwyd eisoes yn yr etholaethau lleol, yn y cyfrifiadau ar gyfer y seddi rhestr,[5] ac mae'r cyfartaledd cyntaf a ystyrir ar gyfer pob plaid yn dilyn nifer y seddi cyntaf i'r felin a enillwyd. Er enghraifft, pe bai plaid yn ennill 5 sedd etholaethol, yna 6 (5 sedd + 1) fyddai'r rhannwr D'Hondt cyntaf a gymerir ar gyfer y blaid honno, nid 1. Yn Ne Corea, sy'n defnyddio'r dull gweddill mwyaf, ystyrir seddi etholaethol drwy dynnu nifer y seddi etholaethol a enillodd y blaid o nifer y seddi a enillwyd yn wreiddiol gan y blaid yn gyfrannol (dros bob sedd).[6]
Enghraifft
golyguMewn senedd 100 sedd etholir 70 aelod mewn etholaethau un aelod. Oherwydd bod y system yn gyffredinol yn ffafrio'r blaid fwyaf a'r pleidiau/ymgeisydd hynny sy'n gryf mewn rhanbarth penodol, gall cyfanswm canlyniad yr etholiadau etholaethol (cyntaf i'r felin) fod yn anghymesur iawn. Yn yr enghraifft hon, enillodd y blaid sydd â lluosogrwydd yn y bleidlais boblogaidd (plaid A) fwyafrif o'r holl seddi (54), tra enillodd yr ail blaid fwyaf (B) mewn 11 etholaeth yn unig. Nid enillodd un o’r ddwy blaid lai (plaid C) unrhyw etholaethau, er bod ganddi gefnogaeth o 13% ledled y wlad, ond cafodd plaid lai (ranbarthol) gyda dim ond 3% yn genedlaethol 5 o’u hymgeiswyr wedi’u hethol, gan fod eu pleidleiswyr wedi’u crynhoi yn yr etholaethau hynny.
Plaid | Pleidlais boblogaidd (%) | Seddi etholaethol | Seddi ychwanegol | Cyfanswm y seddi | Seddi etholaeth | |
---|---|---|---|---|---|---|
Plaid A | 43% | 54 | ? | ? | ||
Plaid | 41% | 11 | ? | ? | ||
Plaid C | 13% | 0 | ? | ? | ||
Plaid D | 3% | 5 | ? | ? | ||
CYFANSWM | 100% | 70 | 30 | 100 |
Yn yr enghraifft, dyrannir seddi ychwanegol ar lefel genedlaethol. Mae pleidiau A a D eisoes wedi’u gorgynrychioli, felly nid oes ganddynt hawl i seddi ychwanegol. Mae pleidiau B ac C yn derbyn seddi ychwanegol, gan taw dim ond 30 sydd, nid yw hyn yn ddigon i wneud y canlyniadau yn gymesur.
Hanes ei defnydd
golyguYm 1976, argymhellodd Cymdeithas Hansard y dylid defnyddio system etholiadol gymysg ar ffurf wahanol i’r system Almaenig ar gyfer etholiadau seneddol y DU, ond yn lle defnyddio rhestrau pleidiau caeedig. Cynigiodd y llenwid seddi ar sail yr “ail enillydd gorau” a ddefnyddir gan dalaith Baden-Württemberg yn yr Almaen, lle llenwir seddi iawndal gan ymgeiswyr trechedig y blaid a oedd yn "enillydd agos gorau" ym mhob un o bedwar rhanbarth y dalaith. [7] Y ffordd y dyrannwyd seddi iawndal a wnaeth eu hadroddiad yn darddiad y system aelodau ychwanegol.
Mabwysiadwyd y system a gynigiwyd gan Gymdeithas Hansard yn y pen draw ond gyda rhestrau caeedig yn lle'r "gorau yn ail" (a adwaenir yn boblogaidd ym Mhrydain fel "collwyr gorau") ar gyfer etholiadau i Senedd yr Alban, Senedd Cymru a Chynulliad Llundain, ond nid ar gyfer etholiadau i Dŷ'r Cyffredin fel y cynigodd y Gymdeithas.
Cynigiwyd y system hon gan y Comisiwn Annibynnol ar y System Bleidleisio (Comisiwn Jenkins) ym 1999, y cyfeirir ati fel Alternative vote top-up. Byddai hyn wedi golygu defnyddio'r Bleidlais Amgen ar gyfer ethol aelodau mewn etholaethau un aelod, a rhestrau pleidiau agored rhanbarthol. Fodd bynnag, yn groes i addewidion maniffesto cynharach y Blaid Lafur, ni chynhaliwyd refferendwm cyn etholiad cyffredinol 2001 ac ni chafodd y datganiad ei ailadrodd.
Byddai’r system AMS a ddefnyddir yng Nghynulliad Llundain wedi cael ei defnyddio ar gyfer cynulliadau rhanbarthol arfaethedig eraill yn Lloegr, ond ar ôl y bleidlais lethol yn erbyn datganoli yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr mewn refferendwm yn 2004, ni chrëwyd unrhyw gynulliadau rhanbarthol etholedig y tu allan i Lundain.
Yn 2024, pasiodd Senedd Cymru Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024. Oherwydd y ddeddf, o 2026 ymlaen ni fydd etholaethau y Senedd yn defnyddio'r system aelodau ychwanegol mwyach, yn lle byddant yn defnyddio system restrau caeedig gyfrannol gan barhau i ddefnyddio dull D'Hondt.[8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Additional-member system | politics | Britannica". www.britannica.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-12-18.
- ↑ "Elections in Wales". Cardiff University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 March 2016. Cyrchwyd 25 March 2016.
- ↑ "Electoral Reform and Voting Systems". Politics.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 April 2020. Cyrchwyd 25 March 2016.
- ↑ "Voting systems in the UK - House of Commons Library".
- ↑ "Voting systems in the UK - UK Parliament".
- ↑ "How Does South Korea's New Election System Work?". Korea Economic Institute of America (yn Saesneg). 2020-04-15. Cyrchwyd 2021-11-20.
- ↑ Report of the Hansard Society Commission on Electoral Reform Wedi'i archifo 31 Hydref 2015 yn y Wayback Machine, Hansard Society, 1976
- ↑ "Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn dod i rym". Golwg360. 2024-06-25. Cyrchwyd 2024-12-19.