Tîm hoci cenedlaethol dynion Cymru

Mae Tîm hoci cenedlaethol dynion Cymru yn un o'r timau hoci hynaf yn y byd. Bu i'r Gymru gystadlu fel gwlad yn ei hawl ei hun yn Gemau Olympaidd yr Haf 1908 yn Llundain, gan ennill medal efydd. Er hynny diddymwyd tîm Cymru a rhaid cystadlu o dan faner tîm hoci Prydain Fawr.

Tîm hoci dynion Cymru yn erbyn yr Iseldiroedd, 1960

Gweinyddir y tîm gan Hoci Cymru, sef, corff llywodraethu hoci yng Nghymru. Mae'r tîm yn chwarae amrywiaeth o gystadlaethau gan gynnwys Cwpan y Byd FIH (sef Ffederasiwn Hoci Ryngwladol),[1] EuroHockey Championship II (a adnabwyd yn flaenorol fel "EuroHockey Nations Trophy") a drefnir gan yr EHF (European Hockey Federation) [2] a Gemau'r Gymanwlad. Crewyd hefyd Cwpan Celtaidd (Celtic Cup) ar gyfer gemau rhwng Cymru, yr Alban ac Iwerddon (sy'n cystalu, fel yn rygbi, fel un wlad) a Ffrainc.[3] Mae Cymru'n cystadlu yn yr EuroHockey Championship sef ail-reng gwledydd hoci Ewrop. Yn 2020 roedd Cymru'n rancio yn safle rhif 18 o holl dimau'r byd - tu ôl cewri'r gêm fel Pacistan, India, Lloegr, Awstralia, Belg a'r Iseldiroedd, ond uwch ben yr Alban a sawl gwlad arall llawer mwy.[4]

Hanes twrnameintiau golygu

 
Cyfeiriad at Fedal Efydd Tîm Hoci Dynion Cymru, Gemau Olympaidd Llundain, 1908 yn llyfr Myrddin John

Gemau'r Olympaidd golygu

Gemau Olympaidd yr Haf 1908 – 3ydd safle, Medal Efydd [5] Ceir ychydig rhagor o wybodaeth ar dîm hoci dynion Cymru yn y Gemau Olympaidd yma yn llyfr Myrddin John, Commonwealth Games in the Twentieth Century - The Welsh Perspective.

Gemau'r Gymanwlad golygu

1998 – 9fed safle
2002 – 7fed safle
2014 – 9fed safle
2018 – 9fed safle

Pencampwriaeth EuroHockey golygu

1970 – 12fed safle
1974 – 8fed safle
1978 – 6ed safle
1983 – 12fed safle
1987 – 12fed safle
1991 – 10fed safle
1995 – 7fed safle
1999 – 6ed safle
2019 – 6ed safle
2021 – wedi cymhwyso

Cyngrair Hoci'r Byd (Hockey World League) golygu

2012–13 – Heb gael ranc
2014–15 – Heb gael ranc
2016–17 – 24ain

Pencampwriaeth EuroHockey II golygu

2005 – 3ydd safle, Medal Efydd
2007 – 5ed safle
2009 – 3ydd safle, Medal Efydd
2011 – 6ed safle
2013 – 7fed safle
2017 – 2il safle, Medal Arian

Pencampwriaeth EuroHockey II golygu

2017 – 2il safle, Medal Arian

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu