Myrddin John

Codwyr pwysau a gweinyddwr chwaraeon o Gymro

Codwr pwysau a gweinyddwr chwaraeon o Gymru oedd Myrddin John MBE (20 Rhagfyr 193322 Rhagfyr 2021).[1][2][3] Ganwyd yn Betws ger Rhydaman, a'i magwyd yng Nghlanaman.

Myrddin John
Ganwyd20 Rhagfyr 1933 Edit this on Wikidata
Y Betws Edit this on Wikidata
Bu farw22 Rhagfyr 2021 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinyddwr chwaraeon, codwr pwysau Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Cystadlodd fel codwr pwysau yng Ngemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1958.

Roedd yn bennaeth Cyngor Gemau'r Gymanwlad dros Gymru am flynyddoedd lawer. Roedd hefyd yn Is-lywydd am oes Ffederasiwn Rhyngwladol Codi Pwysau. Ymddeolodd yn 2011.[4]

Roedd'n adnabyddus fel ymgyrchydd dros hawliau i gydnabod Cymru fel gwlad yn y gamp o godi pwysau. Roedd hefyd yn awdur.

Magwraeth ac Addysg

golygu

Ganed Myrddin John ar 20 Rhagfyr 1933 ym mhentref Betws ger Rhydaman yn fab i lowr, David Llywelyn John a Lily Blodwen John. Wedi Gwasanaeth Cenedlaethol gyda'r Llu Awyr Brenhinol yng Nghaerloyw hyfforddodd i fod yn athro chwaraeon. Bu'n dysgu mewn sawl ysgol a bu'n weithgar gyda'r Urdd.

Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman, 1944-52
Coleg y Drindod Caerfyrddin, 1952-56
Coleg Addysg Caerdydd, 1956-60

Gyrfa a Swyddi ym myd Codi Pwysau a Chwaraeon

golygu

Cafodd Myrddin John wedi cael gyrfa hir a llewychus ym myd codi pwysau Cymru, y Gymanwlad a'r Byd.

Is-lywydd y Ffederasiwn Codi Pwysau rhyngwladol, Aelod o Fwrdd Gweithredol Ffederasiwn Codi Pwysau Ewrop; Is-Gadeirydd Bwrdd Gweithredol Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad; swyddogol mewn nifer o Gemau Olympaidd a Chymanwlad; prif swyddog Codi Wight World yn delio â materion rheoli dopio; tiwtor i gyrsiau Olympaidd ledled y Byd.

Yng Nghymru mae wedi bod yn Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Gemau'r Gymanwlad; aelod o Gyngor Chwaraeon Cymru; Ysgrifennydd Ffederasiwn Codi Pwysau Cymru am 38 mlynedd; ddwywaith trefnydd a hyrwyddwr Pencampwriaethau Codi Pwysau Ewrop yng Nghymru ac unwaith, ym 1988, ysgrifennydd y tîm cais i ddod â Gemau'r Gymanwlad i Gymru.

Pencampwr Codi Pwysau Cymru (10 mlynedd) o 1952 ymlaen
Cystadlu dros Gymru yng Gemau'r Gymanwlad 1958 a gynhaliwyd yng Nghaerdydd
Ysgrifennydd Ffederasiwn Codi Pwysau Cymru - 1966 (38 mlynedd)
Hyfforddwr tîm Codi Pwysau Cymru, Gemau'r Gymanwlad 1970
Rheolwr tîm Codi Pwysau Cymru, Gemau'r Gymanwlad 1978
Rheolwr tîm Codi Pwysau Cymru, Gemau'r Gymanwlad 1982
Prif Weithredwr a Is-Llywydd Cyngor Gemau'r Gymanwlad (21 mlynedd) - 1982
Ysgrifennydd Ffederasiwn Codi Pwysau y Gymanwlad (24 mlynedd) - 1982
Is-gadeirydd Cymdeithas Chwaraeon Cymru (Welsh Sports Association) - 1983
Aelod o Gyngor Chwaraeon Cymru ('Chwaraeon Cymru' bellach) am 3 blynedd - 1983

Cydnabyddiaeth Ryngwladol i dîm annibynnol Codi Pwysau Cymru

golygu

Yn ei lyfr The Phenomenon of Welshness II:or "Is Wales too Poor to be Independent?" Archifwyd 2020-06-25 yn y Peiriant Wayback nododd yr awdur, Siôn T. Jobbins y dylsai bod stryd yn ardal Rhydaman wedi ei henwi ar ôl Myrddin John am ymdrechion John i ennill statws ryngwladol i dîm codi pwysau Cymru (y tu allan i Gemau'r Gymanwlad). Wedi blynyddoedd o lobïo a chanfasio fe enillodd Ffederasiwn Codi Pwysau Cymru statws ryngwladol yng nghynhadledd ryngwladol yr International Weightlifting Federation yn ninas Dresden ar 27 Mawrth 2004 - daeth Cymru yn aelod rhif 170 gyda'r Alban a Gogledd Iwerddon yn enill yr un statws yn 2005 a 2006. Yn cyfrwys iawn, gwrthododd Loegr derbyn statws gwlad yn ei henw ei hun gan gadw, yn hytrach yr enw Great Britain, a gyda hynny, lle i gystadlu yn y Gemau Olympaidd. Nododd Jobbins i John ennill y statws yma heb ddim cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru na Gemau'r Gymanwlad Cymru.[5]

Llyfryddiaeth

golygu

Cyhoeddodd Myrddin John lyfr, gyda fersiwn Gymraeg a Saesneg, ar record timau Gemau'r Gymanwlad Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad:

Anrhydeddau

golygu

Bu i Myrddin John ennill sawl anrhydedd yn ystod ei oes gan gynnwys:

Medal y Canghellor, Prifysgol De Cymru yn 2006
Gwisg Wen yr Orsedd. Ei enw yng ngorsedd yw Myrddin Pennant am ei gyfraniad i chwaraeon Cymru
Derbyniodd MBE yn 1983 am ei waith ym myd chwaraeon
Medal Anrhydedd British Amateur Weightlifting Association yn 1988
Gwobr Ryngwladol Gemau'r Gymanwlad Cymru 2000
Gwobr Gwasanaeth Arbennig (Medal Aur) am Wasanaeth i Godi Pwysau yn Asia - 2001
Cadwyn Aur gan IWF (International Weightlifting Federation) - 2005

Personol

golygu

Priododd Sheila Mary John (neé Roderick) yn 1957 a ganwyd un ferch iddynt, Delyth, sydd yn briod â Paul Mainwaring a thri o wyrion, Lowri Angharad, Aled Siôn a Penri Owen a dwy or-wyres, Lili Gwen a Nel Megan Jones. Roedd ei frawd, Delfrig John, hefyd yn godwr pwysau ac wedi cynrychioli Cymru fel hyfforddwr a dyfarnwr mewn sawl Gemau'r Gymanwlad.

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn Ysbyty Glangwili ar ddydd Mercher 22 Rhagfyr 2021. Cynhaliwyd ei angladd ar ddydd Mawrth, 11 Ionawr 2022 gyda gwasanaeth yn Amlosgfa Llanelli am 11.00 o'r gloch.

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Hysbysiad marwolaeth Myrddin JOHN M.B.E. Western Mail (1 Ionawr 2022). Adalwyd ar 2 Ionawr 2022.
  2. (Saesneg) Interview with Myrddin John. Casgliad y Werin Cymru (14 Medi 2009). Adalwyd ar 19 Mehefin 2020.
  3. Un o gewri'r byd codi pwysau Myrddin John wedi marw , BBC Cymru Fyw, 24 Rhagfyr 2021.
  4. Myrddin John calls time on fabulous career in sport (en) , WalesOnline, 8 Mawrth 2011. Cyrchwyd ar 19 Mehefin 2020.
  5. "The Phenomenon of Welshness II:or "Is Wales too Poor to be Independent?". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-25. Cyrchwyd 2020-06-25.

Dolenni allanol

golygu