Hoci Cymru

sefydliad chwaraeon Gymreig

Hoci Cymru (Saesneg: Hockey Wales) yw'r corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer hoci yng Nghymru. Fe'i sefydlwyd fel Undeb Hoci Cymru (Welsh Hockey Association) yn 1996, trwy uno Cymdeithas Hoci Cymru ("Welsh Hockey Association", sefydlwyd 1896) a Chymdeithas Hoci Merched Cymru (Welsh Women's Hockey Association, sefydlwyd 1897), ail-frandiwyd fel Hoci Cymru yn 2011.[1] Mae Hoci Cymru yn gyfrifol am weinyddu pob agwedd ar y gêm yng Nghymru, gan gynnwys clybiau, cystadlaethau, datblygu, gemau rhyngwladol, ysgolion, dyfarnwyr a phrifysgolion.[1]

Hoci Cymru
Chwaraeon Hoci
Sefydlwyd 1996
Logo Hoci Cymru
Gêm hoci dynion rhwng yr Iseldiroedd v Cymru, 1951
Menywod Yr Iseldiroedd v Cymru, 1976

Cystadlaethau Rhyngwladol golygu

Ymhlith y cystadlaethau cenedlaethol mae Cwpanau Cymru dynion a menywod. Yn rhyngwladol, mae chwaraewyr Cymru yn cystadlu yn y gemau Olympaidd fel rhan o dîm Prydain Fawr. Ym mhob cystadleuaeth arall, gan gynnwys Cwpan y Byd Hoci a Gemau'r Gymanwlad, mae tîm menywod Cymru a thîm dynion Cymru yn cystadlu yn eu rhinwedd eu hunain. Mae tîm hoci Cymru hefyd yn cystadlu yn Nhlws Gwledydd EuroHockey (ENT), a gynhaliwyd yn Wrecsam ym mis Awst 2009. Gwledydd eraill sy'n cystadlu yn yr ENT yw Belarus, Gweriniaeth Tsiec, Iwerddon, yr Eidal, Rwsia, yr Alban a'r Swistir.

Gweinyddiaeth golygu

Mae Hoci Cymru wedi'i leoli yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd.[2] Lleolir sawl corff chwaraeon genedlaethol Gymreig yno a hefyd Chwaraeon Cymru.

Hyrwyddo'r Gêm golygu

Mae'r gymdeithas yn ceisio hyrwyddo hoci ymysg chwaraewyr ifanc a rhai nad sy'n gyfarwydd â'r gêm. Yn 2018 cychwynnwyd ar brosiect Hooked on Hoci oedd yn cynnwys 6 wythnos o sesiynau hyfforddi o fewn ysgolion cynradd, mynediad i ŵyl holi ysgolion cynradd, a chreu dolen gyda chlwb sefydledig.[3]

Cystadlaethau Domestig golygu

Ceir amryw o gystadlaethau ar gyfer gwahanol adrannau o dan adain Hoci Cymru. Dyma enillwyr tymor 2017-18:[4]

Menywod dan-do - Clwb Hoci Abertawe (Swansea HC)
Dynion dan-do - Caerdydd a'r Met (Cardiff & Met)
Pencampwriaeth Menywod - Gwent
Pencampwriaeth Dynion - Caerdydd a'r Met
Tlws y Menywod - Castell Newydd Emlyn
Tlws y Dynion - Abertawe
Her y Menywod - Whitchurch Saints 5ths (Eglwys Newydd, Caerdydd)
Her y Dynion - Caerdydd a'r Met E
Meistri Menywod - Saggy Baggies
Meistri Dynion - Yr Eglwys Newydd

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Hockey in Wales". Hockey Wales-Hoci Cymru website. Hockey Wales. 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-03-05. Cyrchwyd 5 March 2014.
  2. "Contact us". Hockey Wales-Hoci Cymru website. Hockey Wales. 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-03-04. Cyrchwyd 5 March 2014.
  3. "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-08-03. Cyrchwyd 2020-05-31.
  4. "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-08-03. Cyrchwyd 2020-05-31.

Dolenni allanol golygu