Tŷ unnos
Hen draddodiad Cymreig o adeiladu tŷ, heb ganiatâd, dros nos ydy tŷ unnos.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a5/Ugly_House-by-John-Aldersey-Williams.jpg/350px-Ugly_House-by-John-Aldersey-Williams.jpg)
Credai rhai pobl pe bai modd adeiladu tŷ ar dir comin mewn un noson yn unig, yna byddai'r tir hynny'n eiddo iddynt. Ceir amrywiadau i'r traddodiad hwn: y prawf i weld os oedd y tŷ wedi'i orffen oedd os oedd tân ar yr aelwyd erbyn bore trannoeth; gallai'r trigolion ehangu ar eu tir trwy daflu bwyell o bedwar cornel y tŷ. Pa le bynnag y byddai'r bwyell yn disgyn, dyma fyddai eu tir. Mae Tŷ Hyll ger Betws-y-Coed yn enghraifft o dŷ a oedd yn wreiddiol yn dŷ unnos a chafodd ei wella ac ail-adeiladu mewn blynyddoedd diweddarach.
Gwreiddiau
golyguO gyfnod rhwng yr 17eg i ddechrau'r 19eg ganrif, cynyddodd boblogaeth Cymru ynghyd â thlodi gan arwain i gyfres o ddigwyddiadau o sgwatio (ymgartrefu heb ganiatâd) ar ddarnau o dir yn rhannau mwyaf gwledig Cymru. Cododd yr arfer oherwydd pwysau'r diffyg tir yn dilyn cau tiroedd comin, a'r rhentu a godwyd gan dirfeddianwyr.
Statws cyfreithiol
golyguNid oedd gan tŷ unnos statws yng gyfraith Lloegr (y cod cyfreithiol Gymru a Lloegr y cyfnod), er roedd traddodiad o drafodaeth ynghylch y pwynt os oedd tir a feddiannwyd gan sgwatwyr heb deitl yn gyfreithlon. Efallai y roedd gan y gred chwedlonol tŷ unnos rywfaint o ddylanwad ar arferion pobl werin i sgwatio ar dir comin fel gallent dwyllo ac ennill dros yr awdurdodau heb dalu rhent.[1][2]
Ceir traddodiadau tebyg mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig hefyd. Mae Gecekondu yn air Tyrceg sydd yn feddwl tŷ 'codi dros nos'. Mae canoedd o filoedd o bobl dlawd yn byw yn Gecekondu ar dir heb ganiatâd ar ymylion dinasodd mawrion fel Istanbul ac Ankara. Mae cymunedau Tyrceg ym Berlin hefyd wedi'u codi.[3][4][5]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "The One-Night House, and its Distribution". Folklore 53: 161–163. doi:10.1080/0015587X.1942.9717642.
- ↑ "Victorian Powys - enclosing the land". History.powys.org.uk. Cyrchwyd 7 August 2019.
- ↑ Neuwirth, R (2004). Shadow Cities: A Billion Squatters, A New Urban World, Routledge ISBN 0-415-93319-6, Tualen 8.
- ↑ https://urbanage.lsecities.net/essays/istanbul-s-gecekondus
- ↑ Public Goods versus Economic Interests: Global Perspectives on the History of Squatting (Routledge), Freia Anders (Golygydd), Alexander Sedlmaier (Golygydd), ISBN 1138118974