Thomas Rowland Hughes

bardd a nofelydd
(Ailgyfeiriad o T Rowland Hughes)

Nofelydd, dramodydd a bardd oedd Thomas Rowland Hughes neu T. Rowland Hughes (17 Ebrill 190324 Hydref 1949).[1] Roedd yn fab i chwarelwr o Lanberis, yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd heddiw), yng ngogledd Cymru. Mae'n adnabyddus heddiw yn bennaf am ei nofelau am gymeriadau yn byw ac yn gweithio yn chwareli llechi y gogledd, ond yn ei ddydd yr oedd yn cael ei edmygu fel bardd yn ogystal. William Jones yw ei nofel enwocaf.

Thomas Rowland Hughes
T Rowland Hughes gan David Bell - Amgueddfa Cymru
Ganwyd17 Ebrill 1903 Edit this on Wikidata
Llanberis Edit this on Wikidata
Bu farw24 Hydref 1949 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, cynhyrchydd radio Edit this on Wikidata

Ei fywyd golygu

Cafodd radd dosbarth cyntaf mewn Saesneg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor, ac astudiodd hefyd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Ei swydd bwysicaf oedd fel cynhyrchydd gyda'r BBC yng Nghaerdydd. Ac yntau yn ei dridegau dechreuodd ddioddef o'r clefyd calediad amryfal a adwaenir fel 'MS'. Yn naturiol aeth i ddioddef o iselder ysbryd ac aeth ati i ysgrifennu a dyma pryd y cynhyrchwyd ei nofelau enwog.

Fel bardd y daeth i enwogrwydd gyntaf, trwy ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1937 am ei awdl "Y Ffin", ac eto am "Pererinion" yn yr Eisteddfod Genedlaethol a ddarlledwyd ar y radio yn 1940.[2] Nid oedd ei unig gyfrol o farddoniaeth, Cân neu Ddwy (1948),[3] er ei phoblogrwydd, yn ddigon arbennig i'w osod ymhlith beirdd mwyaf yr 20g.

Mae ei emyn "Tydi a Roddaist"[4] wedi bod yn hynod o boblogaidd. Bu ei emyn Dwy Law yn Erfyn [5] yn seiliedig ar lun Albrecht Dürer -Dwylo'n Gweddïo hefyd yn boblogaidd iawn mewn ysgolion sul ac ysgolion dyddiol.

 
Bedd T. Rowland Hughes ym Mynwent Cathays, Caerdydd

Cyhoeddiadau golygu

Barddoniaeth golygu

Nofelau golygu

  • O Law i Law (Llundain, 1943);[7] wedi'i gyfieithu i'r Saesneg fel From Hand to Hand gan Richard C. Ruck (Llundain, 1950); talfyriad ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg gan Basil Davies (Gwasg Gomer, 1984)
  • William Jones (1944);[8] wedi'i gyfieithu i'r Saesneg gan Richard C. Ruck (Aberystwyth, 1953); talfyriad ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg gan Basil Davies (Gwasg Gomer, 1986)
  • Yr Ogof (Gwasg Aberystwyth, 1945)[9]
  • Chwalfa (Gwasg Aberystwyth, 1946)[10]
  • Y Cychwyn (Gwasg Aberystwyth, 1947)[11]; wedi'i gyfieithu i'r Saesneg fel The Beginning gan Richard C. Ruck (Gwasg Gomer, 1969)

Dramâu golygu

  • Y Ffordd (Caerdydd, 1945)
  • John Frost, The Newport Chartist (1936) a Daughters of Rebecca (1937), dau ddrama radio Saesneg ar y BBC a ysgrifennodd ar y cyd gyda Gwilym Prichard Ambrose, Prifathro Coleg Hyfforddi Sir Fynwy [12]

I blant golygu

  • Storïau Mawr y Byd (Gwasg Aberystwyth, 1936)[13]

Astudiaethau golygu

  • Edward Rees, Cofiant: T. Rowland Hughes (Gwasg Gomer, 1968)
  • John Rowlands, T. Rowland Hughes, Cyfres Writers of Wales (Caerdydd, 1975)
  • W. Gwyn Lewis (gol.), Bro a Bywyd: T. Rowland Hughes 1903-1949 (Cyhoeddiadau Barddas, 1990)

Cyfeiriadau golygu

  1. HUGHES, THOMAS ROWLAND (1903 - 1949), bardd a nofelydd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 19 Tach 2023
  2. D. Ben Rees "Pymtheg o Wŷr Llên yr Ugeinfed Ganrif"
  3. Cân neu Ddwy ar Wicidestun
  4. Tydi, a roddaist ar Wicidestun,
  5. Dwy Law yn Erfyn ar Wicidestun,
  6. "T. Rowland Hughes: Bywgraffiad a Llyfryddiaeth | Y Lolfa". www.ylolfa.com. Cyrchwyd 2023-11-19.
  7. O Law i Law ar Wicidestun
  8. William Jones ar Wicidestun
  9. Yr Ogof ar Wicidestun
  10. Chwalfa ar Wicidestun
  11. Y Cychwyn ar Wicidestun
  12. "Gwilym Prichard Ambrose, B.A. (Wales), M.A., B.Litt. (Oxon.), L.R.A.M. Headmaster, Aberdare Boys' County School, 1940 – 1952". Gwefan Abderdare Boys Grammar School. Cyrchwyd 2022-02-14.
  13. Storïau Mawr y Byd ar Wicidestun

Dolenni allanol golygu